主播大秀

Si芒n Phillips

Si芒n Phillips

Actores enwog aenillodd ganmoliaeth gan y beirniaid a'r gwylwyr am ei phortread o Livia yn y gyfres deledu enwog 'I Claudius.'

Ganwyd Si芒n Phillips ar 14 Mai 1934 ac fe'i magwyd yn Rhydaman. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Pontardawe.

Yn un o actorion mwyaf amlwg Cymru, dechreuodd Si芒n berfformio yn ifanc iawn, ar y llwyfan, y teledu a'r radio i'r 主播大秀.

Roedd ei thad yn gerddor dawnus ond roedd hi'n amhosibl iddo ennill ei fywoliaeth ym myd cerdd, felly aeth i weithio yn y gwaith dur yn gyntaf ac yna i'r Heddlu. Athrawes oedd ei mam ond gorfu iddi hi roi'r gorau i'w gwaith ar 么l priodi.

Astudiodd Sian Saesneg ac yna athroniaeth yn y coleg. Gweithiodd fel cyflwynwraig ar y 主播大秀 yn y Gymraeg a'r Saesneg a darllen y newyddion.

Enillodd ysgoloriaeth i RADA ac yno dyfarnwyd Medal Aur Bancroft iddi hi ac fe ymddangosodd yn Llundain am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad o 'Hedda Gabler'. Yn fuan ar 么l gadael RADA y dechreuodd y berthynas efo un o gewri'r llwyfan a ffilm sef Peter O'Toole. Yn 1959 a hithau'n disgwyl ei phlentyn, cafodd ysgariad a phriodi O'Toole.

Fe gafodd y ddau ddwy ferch mewn perthynas a ddisgrifid fel un wyllt, gynhyrfus a thymhestlog. Dywedwyd mai ei yrfa oedd bwysicaf gan O'Toole a'i fod yn disgwyl i'w wraig, ar y llaw arall, fod yn ddomestig iawn a dim arall. Yn 1976 gwahanodd y ddau a thair blynedd yn diweddarach priododd Sian 芒 Robin Sachs. Fe barodd y briodas honno am 12 mlynedd cyn i'r ddau wahanu yn 1991.

Ar waetha'r cyfyngiadau o fod yn briod ag O'Toole, mae Si芒n wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn yn gweithio ar y llwyfan, mewn radio, teledu a ffilm yn ogystal 芒 sgwennu.

Ymhlith ei gweithiau mwyaf enwog mae 'Goodbye Mr Chips', 'I Claudius', 'Beckett', 'The Age of Innonence', 'Vanity Fair'. 'Smileys People', 'Dune' a 'The Magicians House'.

Derbyniodd sawl anrhydedd gan gynnwys un o Goleg y Drindod, Caerfyrddin ac mae hi'n aelod o Orsedd y Beirdd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.