主播大秀

T Glynne Davies

T Glynne Davies

Bardd, nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr.

Bardd a nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr, dyn amlochrog a diwylliedig oedd T. Glynne Davies. Ar ben hynny, roedd yn gymeriad hoffus, cwmni da, dyn doniol a ffraeth, gyda chylch eang o gyfeillion a gwybodaeth drylwyr o'i Gymru.

Ganwyd ef ym 1926 yn Llanrwst, Sir Ddinbych, tref oedd wastad yn agos at ei galon. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Ramadeg yno cyn cymryd swydd mewn labordy ym Mae Colwyn.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithiai am rhyw flwyddyn mewn pwll glo yn Oakdale yn Sir Fynwy fel un o'r 'Bevin Boys' - dynion ifanc a wnaeth eu cyfraniad i economi'r wlad trwy weithio o dan ddaear.

Gyrfa newyddiadurol

Ym 1949, wedi gwasanaethu yn y fyddin ym Malta, bwriadai fynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond fe benderfynodd droi at newyddiaduraeth, gan weithio i'r Cambrian News yn Aberystwyth, Y Cymro a'r South Wales Evening Post.

Ymunodd 芒 staff y 主播大秀 ym 1957 fel gohebydd newyddion a daeth ei lais unigryw yn adnabyddus ar bob aelwyd Cymraeg. Datblygodd yn ddarlledwr dawnus dros ben, gyda hiwmor parod a dull hollol anffurfiol, yn wahanol i'r hyn a oedd yn arferol yn y Gorfforaeth ar y pryd.

Ym 1963 aeth i weithio i'r 主播大秀 yn Yr Wyddgrug ac i Fangor ym 1970 i gyflwyno'r rhaglen boblogaidd 'Bore Da'. Arhosodd gyda'r rhaglen am chwe mlynedd cyn symud unwaith eto i weithio i'r 主播大秀 yn Abertawe.

Bardd a nofelydd

Daeth i amlygrwydd fel bardd pan ennillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1951 gyda'i bryddest 'Adfeilion' a derbyniodd gryn glod gan y beirniaid llenyddol.

Aeth ymlaen i gyhoeddi dwy gyfrol o gerddi, sef Llwybrau Pridd (1961) a Hedydd yn yr Haul (1969). Mae nifer o'i gerddi yn arbrofol ac yn torri tir newydd yn eu ffurfiau a'u hieithwedd. Ymddangosodd casgliad cyflawn o'i gerddi ym 1987.

Ei gampwaith, heb os nac onibai, yw'r nofel Marged (1974), clamp o lyfr sydd yn un o nofelau Cymraeg pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Mae'r stori yn dilyn hanes teulu o Lanrwst dros ganrif a mwy. Mae'n byrlymu 芒 chymeriadau a golygfeydd cofiadwy, ac yn adlewyrchu gyda chryn gywirdeb y tlodi a dioddefaint y mae teulu Marged, y prif gymeriad, yn ei ddioddef. Nid yw'n ormodiaith dweud bod y nofel uchelgeisiol, gynhwysfawr, lliwgar, bwerus hon ymhlith y nofelau gorau a ysgrifennwyd yn y Gymraeg erioed.

Cyhoeddodd T.Glynne Davies yn ogystal gyfrol o stor茂au byrion, C芒n Serch (1954), a nofel arall, Haf Creulon (1960).

Bu farw yng Nghaerdydd ym 1988.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.