主播大秀

E. Tegla Davies

Tegla Davies

Awdur, gweinidog, golygydd o Landegla-yn-I芒l yn Sir Ddinbych.

Llenor poblogaidd iawn yn ei ddydd oedd Tegla Davies. Ysgrifennodd yn bennaf am fechgyn drygionus, breuddwydiol a chastiog mewn modd deniadol a doniol.

Yn ei Hunangofiant Tomi (1912), ei lyfr cyntaf, llwyddodd i ail-fyw ei blentyndod, er bod ei duedd i ddysgu moeswersi yn amharu peth ar naturioldeb ambell stori yn y gyfres hon.

Gweinidog gyda'r Wesleaid oedd Tegla Davies ar hyd ei oes. Ganwyd ef ym 1880 yn Llandegla-yn-I芒l yn Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr. Cafodd ei hyfforddi i fod yn weinidog yng Ngholeg Didsbury ym Manceinion.

Dilynwyd Hunangofiant Tomi gan gasgliad o stor茂au, Nedw (1922), sy'n cael eu hadrodd yn nhafodiaith I芒l. Y stori mwyaf comig yw 'Gwneud Zebras', lle mae Nedw a'i gyfaill mynwesol Wmffre yn paentio mul o'r enw Spargo i edrych fel zebra.

Dilynwyd y llyfr hwn gan Rhys Llwyd y Lleuad (1925) ac Y Doctor Bach (1930), ond roedd rhain yn llai llwyddiannus.

Awdur ffantasi

Amlygwyd dawn ffantasi Tegla ar ei orau yn Tir y Dyneddon (1921) ac yn Hen Ffrindiau (1927), stori am gymeriadau'r hwiangerddi Cymraeg yn ceisio ffoi o gaethiwed oesol eu penillion. Beirniadwyd y stor茂au hyn am fod llaw y pregethwr yn rhy drwm arnynt, ond gellir eu mwynhau am eu dyfeisgarwch er hynny.

Mae yna elfen sentimental mewn stor茂au fel 'Yr Epaddyn Rhyfedd' a 'Samuel Jones yr Hendre yn Diolch am ei Gynhaeaf', ond yn rhyfedd iawn cawsant dderbyniad da mewn cyfieithiadau Saesneg.

Cyhoeddwyd detholiad o'i stor茂au byrion yn y gyfrol Y Llwybr Arian (1934).

Ei waith mwyaf

Campwaith Tegla Davies oedd ei nofel G诺r Pen y Bryn (1923), sy'n disgrifio tr枚edigaeth ffermwr cyfoethog yn ystod Rhyfel y Degwm yn yr 1880au, pan wrthododd llawer o amaethwyr Ymneilltuol dalu'r degwm at gynnal Eglwys Lloegr, a chosbwyd nifer ohonynt o'r herwydd.

Mae arwriaeth John Williams yn diflannu yn wyneb cosb a blacm锚l, ac mae'n ceisio iach芒d o'i gywilydd mewn tr枚edigaeth ysbrydol.

Dyma un o arloeswyr y nofel Gymraeg ar gyfrif ei arddull cywrain a'i ddadansoddiad seicolegol treiddgar. Bu Tegla yn gynhyrchiol fel golygydd a cyfrannodd yn gyson i'r wasg Gymraeg.

Bu'n olygydd ar Y Winllan (1920-28) ac Yr Efrydydd (1931-35), yn ogystal 芒 Chyfres Pobun. Rhwng 1946 a 1953 ysgrifennodd golofn wythnosol i'r Herald Cymraeg.

Cyhoeddwyd detholion o'i erthyglau ac ysgrifau yn Rhyfedd o Fyd (1950), Y Foel Faen (1951) ac Ar Ddisberod (1954). Ymddangosodd detholion o'i bregethau a'i sgyrsiau radio dan y teitl Yr Hen Gwpan Gymun ym 1961, a'i hunangofiant dan y teitl Gyda'r Blynyddoedd ym 1952.

Bu farw Edward Tegla Davies ym 1967. Gwelir plac er cof amdano ar wal Yr Hen Gi芒t yn Pen Stryt, Llandegla-yn-I芒l, y t欧 lle ganwyd ef.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.