主播大秀

Terry Jones

Terry Jones

Awdur, actor, cyfarwyddwr ffilm ac aelod o griw comedi enwog, Monty Python's Flying Circus.

Bachgen Bae Colwyn

Ganwyd Terence Graham Parry Jones ar Chwefror 1 1942 ym Mae Colwyn. Er i'w deulu symud o Fae Colwyn i Claygate yn Surrey pan oedd yn bump oed, mae'n ystyried ei hun yn Gymro go iawn. Fe brofodd hynny, meddai, drwy gapteinio t卯m rygbi'r ysgol!

Aeth ymlaen i Rydychen i astudio Hanes y Canol Oesoedd ac mae ei ddiddordeb byw yn y pwnc wedi para hyd heddiw. Yn Rhydychen y cyfarfu 芒 Michael Palin gan greu partneriaeth ysgrifennu comedi hynod lwyddiannus a weithiodd ar gyfresi arloesol fel 'At Last the 1948 Show' a 'The Frost Report'.

Ar raglen Frost y cyfarfu'r ddau 芒 gweddill y criw Monty Python, sef John Cleese, Terry Gilliam, Graham Chapman ac Eric Idle. yn y 60gau daeth y gyfres gomedi, 'Monty Python's Flying Circus' yn gwlt ymhlith gwylwyr ifainc y 主播大秀. Yn adeiladu ar etifeddiaeth cyfres gomedi radio 'The Goons', roedd y Pythoniaid yn cyfuno sgetsus hollol swreal gyda digrifluniau o gymeriadau fel gwragedd ty busneslyd, (sef y 'Pepperpots' oherwydd bod eu hetiau'n debyg i bot pupur), a dynion dosbarth gwaith o Swydd Efrog yn gwisgo hancesi am eu pennau.

Roeddent hefyd yn tarfu ar draws y 'pedwerydd wal' ac yn stopio sgets yn ei hanner os oedd hi'n 'rhy sili.' Roedd Terry Jones yn adnabyddus iawn am ddynwared y 'Pepperpots' yn effeithiol iawn ac am chwarae'r organ yn noeth!

Ffilmiau Python

Criw Python
Criw Python

Yn y 70gau canol, daeth Python i ben ar y teledu gan fod John Cleese o'r farn bod y gyfres wedi cyrraedd diwedd ei hoes ar y sgrin fach. Ond roedd ganddynt syniadau ffres am ffilmiau. Diolch i nawdd y Beatle, George Harrison, cafodd y Pythoniaid y cyfle i gynhyrchu tair ffilm, 'Monty Python and the Holy Grail' (1974), 'The Life of Brian' (1979) a 'The Meaning of Life' (1983).

Fe fu Terry'n ysgrifennu a pherfformio myrdd o gymeriadau cofiadwy gyda'r Pythons gan gynnwys mam Brian yn y ffilm a gododd wrychyn arweinwyr Cristnogol y dydd, 'Life of Brian'. Ond fe hefyd a gyfarwyddodd eu ffilmiau i gryn glod.

Ers hynny, mae wedi gweithio'n llwyddiannus ar ei liwt ei hun ar ffilmiau enwog eraill fel 'Personal Services', 'Erik the Viking' a 'Labyrinth'. Cafodd ei gyfres hanes i'r 主播大秀, 'Medieval Lives' ei henwebu am Emmy yn 2004.

Ar 么l magu teulu ei hun, aeth Terry ati i ysgrifennu ar gyfer plant a chyhoeddi llyfrau fel 'The Curse of the Vampire Socks', 'Fantastic Stories', 'Nicobonimus' a gyda'i hen gyfaill Michael Palin, 'Dr Fogg's Encyclopaedia of All Knowledge.'

Mae Terry Jones yn noddwr Theatr Colwyn ac agorodd yr adeilad ar ei newydd wedd yn Hydref 2011.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.