主播大秀

Waldo Williams

Waldo Williams

Un o feirdd mwyaf Cymru yr ugeinfed ganrif.

Bardd a heddychwr

Heddychwr, cenedlaetholwr a chydwladwr oedd Waldo Williams, a lwyddodd i weu'r elfennau hyn yn ei bersonoliaeth yn undod cain yn ei farddoniaeth. Ar ben hynny, dewisodd fyw yn unol 芒'i egwyddorion - a dioddef y canlyniadau heb g诺yn.

Allan o'i ddaliadau politicaidd a chrefyddol gwnaeth gerddi pwerus a chofiadwy, gan gynnwys rhai sydd ar gof pob Cymro a Chymraes gwerth ei halen.

Magwraeth ddi-Gymraeg

Ganwyd ef ym 1904 yn fab i ysgolfeistr yn Hwlffordd yn Sir Benfro; gwelir plac ar wal y t欧 ysgol yno.

Saesneg oedd iaith y cartref ac roedd y bachgen yn saith mlwydd oed cyn dysgu Cymraeg gan blant Mynachlog-ddu yng ngogledd y sir; ym 1915 symudodd y teulu i Landysilio. Heddychwyr a radicaliaid oedd ei rieni.

Ym 1923 gadawodd Ysgol Ramadeg Arberth i fynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle darllennodd Saesneg a ffoli ar y beirdd Rhamantaidd. Dechreuodd farddoni tra'n fyfyriwr ac i'r cyfnod hwn y perthyn y gerdd enwog 'Cofio'.

Heddychiaeth

Daeth yr Ail Ryfel Byd 芒 sioc a her iddo. Ar ben hynny collodd ei wraig Linda ym 1943, prin flwyddyn ar 么l ei phriodi. Gadawodd Gymru am ychydig i fynd yn athro yn Lloegr.

Ysgrifennodd ei farddoniaeth mwyaf ingol yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd ffrwydro'r bomiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki.

Lluniodd hefyd nifer o gerddi am genedlaetholdeb Cymreig, yn eu plith 'Preseli', 'Cymru'n Un', a 'Cymru a'r Gymraeg'.

Ysgogwyd y cerddi hyn gan y bygythiad i deuluoedd bryniau'r Preseli gan y lluoedd arfog a oedd am ddefnyddio'r tir yn faes saethu. Mae'r ewyllys i wrthsefyll grymoedd y Wladwriaeth a geir yn ei gerddi wedi ysbrydoli mwy nag un genhedlaeth o ymgyrchwyr Cymreig, gan gynnwys aelodau Cymdeithas yr Iaith.

Bu Waldo Williams yn ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1959 ond nid oedd yn wleidydd arferol.

Ceir amlinelliad o'i ddaliadau politicaidd yn glir iawn yn ei ddarlith 'Brenhiniaeth a Brawdoliaeth'. Erbyn hynny roedd y bardd wedi troi'n Grynwr o argyhoeddiad dwfn iawn.

Ei unig gyfrol

Argyfwng arall yn ei fywyd oedd y rhyfel yn Korea. Penderfynodd na fyddai'n talu ei dreth incwm fel protest yn erbyn rhan y Llywodraeth Brydeinig yn y rhyfel, a threuliodd chwe wythnos yn y carchar o ganlyniad.

Wedi protestio felly, cafodd ei berswadio i gyhoeddi ei unig gyfrol o farddoniaeth, sef Dail Pren (1956), ac ar sail y gyfrol fach hon mae ei fri fel bardd mawr ei genedl yn gorffwys o hyd.

Mae Dail Pren yn cynnwys amrywiaeth o gerddi, ond mae'r rhan fwyaf yn mynegi undod Duw 芒 byd natur yn ogystal 芒 phersonoliaeth gyfriniol y bardd ei hun.

Mae'r pwyslais ar werth a phwysigrwydd yr unigolyn a'i gyfrifoldeb moesol a chymdeithasol yn y cyd-destun lleol a chenedlaethol. Iddo ef roedd pob un ohonom yn chwaer a brawd i'n gilydd, ac roedd yr egwyddor hon yn rhywbeth real ac ymarferol.

Un o'i gerddi mwyaf, yn ddi-os, yw 'Mewn Dau Gae'. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yng Ngwdig ger Abergwaun, lle bu'n athro yn yr ysgol gynradd. Cymeriad mwyn a hoffus oedd ganddo, a hiwmor ffraeth.

Bu farw ym 1971 a fe'i claddwyd ym mynwent capel Blaenconyn, rhwng Llandysilio a Chlunderwen, lle mae ei garreg fedd yn dwyn y geiriau 'Gwyn eu byd y tangnefeddwyr'. Saif carreg goffa ger Mynachlog-ddu gyda'r arysgrif syml 'Waldo 1904-1971' arni.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.