主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Proffeil Arlunydd - Ruth J锚n Evans
Proffeil o'r arlunydd Ruth J锚n Evans sy'n gweithio o'i th欧, sef yr hen siop sgidie ym mhentref Tal-y-bont yng Ngheredigion.
  • Ym mhle wyt ti'n gweithio?:
    'Wyn gweithio o gatre yn Nhal-y-bont. Rwy'n ffodus yn y t欧, yr hen siop sgidie oedd e'n arfer bod, felly lle oedd y siop sgidie dyna lle mae'r gweithdy nawr.
  • Sut ddechreuaist ti fel arlunydd?:
    Wedi gadael yr ysgol wen i'n gwybod mai celf oedd beth wen i moyn gwneud. Felly nes i gwrs sylfaen lawr yn Gaerfyrddyn am flwyddyn a wedyn ny ymlaen i Gaerdydd i wneud celfyddyd gain am dair mlynedd, wnes i arbenigo mewn argraffu. Ar 么l i fi adael Caerdydd, ddes i n么l i Aberystwyth am ychydig i weithio gyda'r Academi Gymreig fel dylunydd a ges i lot o waith freelance hefyd i wneud gwahanol bethau, fel cloriau llyfrau i wasg Y Lolfa a wedyn ges i'r cyfle i wneud y murlun cyntaf yn Nhal-y-bont yn 1991.
  • Sut fyddet ti'n disgrifio dy waith di?
    Fydden i'n disgrifio fe fel rhywbeth eitha 'steialised', eitha rhydd, hanieithol ond elfen gref o graphig ynddo fe. Syml iawn o ran cynllun fydden i'n gweud. Er mai'r graffeg yw'r maes dw i'n arbenigo ynddo, mae 'na gymaint o ochrau gwahanol i'r gwaith dw i'n gwneud fel paentio i gloriau llyfrau, felly mae'r arddull yn newid wrth yr alwad ond dw i'n gweld e yn datblygu ac yn newid o hyd.
  • Wyt ti'n cael dy ysbrydoliaeth o'r ardal 'ma?:
    Odw, ces i fy ngeni ddim yn bell iawn o Dal-y-bont, un o Gefn Llwyd ydw i yn wreiddiol so jyst dros Bont Goch fyna. Wy'n ymwybodol bo fi'n gyffyrddus yn gweithio yn yr ardal hyn achos bob tro dw i wedi bod bant wi wastod eisiau dod n么l. Dw i ddim yn gallu gweud bod y tirwedd neu'r tywydd neu beth bynnag yn effeithio arna i. Mae'r ffaith mai fan hyn dw i'n teimlo'n gartrefol a hapusa yn meddwl bod fi'n gallu creu gwaith 'ma. Mae'n bwysig hefyd bod fy nheulu fi i gyd yn byw yn reit agos ac yn cynnal ein gilydd. Heb hynny dw i ddim yn meddwl y bydden i'n hapus yn gweithio.
  • Lle mae dy waith di wedi cael ei arddangos?:
    O fewn Cymru yn fwy na dim. Sai wedi gwneud ymdrech mawr i ymddangos trwy Brydain o gwbl. Wi'n eitha lico dangos a bod y gwaith o fewn cyrraedd pobl gyffredin. Mae 'na ddarnau yn yr ysbyty, mae 'na ddarnau yn rhyw gaffi yn Aberystwyth, mae na ddarnau lan yn Ultra Cumida. Maen nhw'n cael eu dangos yn gyson ond falle ddim yn yr or茂elau mewn sefydliadau sydd 芒 phwysigrwydd.

  • Cliciwch yma i weld lluniau o furlun Tal-y-bont yn cael ei drawsnewid...
  • Angen bathodynnau a bagiau plastig!
    Mae Ruth J锚n wrthi yn casglu bathodynnau a bagiau plastig Cymraeg a dwyieithog ar gyfer cywaith arbennig. Os ydych chi'n gallu helpu rhowch wybod i ni..


    Cyfrannwch

    Derec Puw, Caergrawnt
    Diddorol iawn i glywed am gwaith Ruth Jen yn Nhalybont. Diddorol hefyd darllen am ei chysylltiad a Bontgoch. Cafodd hen daid i mi ei ladd yng nghwaith mwyn Bwlch Glas.Fydden i yn aml yn aros yn Elerch House yn Bontgoch yn y pum degau.
    Sun Jan 4 14:35:59 2009


    Ydych chi'n gyfarwydd gyda gwaith Ruth J锚n? Llenwch y blychau isod i cyfrannwch at y safle:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy