主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Byw dan y Bwa
Mae llyfr newydd Charles Arch, Byw dan y Bwa, yn cyflwyno ei atgofion o chwarter canrif cyntaf ei fywyd tra bu'n byw dan y bwa ar fferm deulu yng nghysgod abaty Ystrad Fflur, ardal Pontrhydfendigaid. Dyma ragflas o'r llyfr gyda Charles yn cofio'r eira mawr 1947.
Newid Byd

Fe erys y flwyddyn 1947 ar gof yn sicr am dri rheswm, yn gyntaf y tywydd mawr a'r colledion a ddaeth yn ei sgil, yn ail y Sgolarship, ac yn drydydd mynd i'r ysgol fawr yn Nhregaron.

Ar fore dydd Iau ddechrau mis Chwefror a finne'n mynd i'r ysgol, roedd hi'n bwrw eira ac erbyn tua un ar ddeg penderfynodd Miss Rees ein hanfon adre, a phawb wrth eu bodd. Yn ystod y pnawn cododd y gwynt gyda'r eira'n cael ei luwchio yn ddidrugaredd a'i yrru fel siwgwr eisin i mewn dan bob drws. Y diwrnod hwnnw bu'n rhaid i fi roi paraffin yn y lampau Tilley yn gynharach nag arfer gan iddi dywyllu'n gynnar.

Fel arfer byddai tair o'r lampau'n mynd allan o'r t欧 - un i'r beudy, un i'r stabal ac un arall i'r sgubor - a chryfed oedd y gwynt fel i mi fethu cyrraedd y mannau hynny cyn bod y tair lamp wedi eu diffodd. Taniodd Nhad ac Alf ddwy ohonynt yr eilwaith wedi i mi gyrraedd y stabal a chanfuwyd fod mantl y drydedd wedi ei chwalu'n deilchion.

Pan ddihunais fore trannoeth roedd fy stafell wely yn ddu fagddu fel bol buwch a meddyliais fy mod wedi deffro'n llawer rhy fore. Gorweddais yn dawel ar wastad fy nghefn rhag tarfu ar neb nes sylweddoli fod lleisiau'n dod o'r gegin. Dyma danio'r gannwyll a cheisio edrych allan drwy'r ffenest. Ond fedrwn i weld dim. Fodd bynnag, ar 么l gwisgo ac agor drws y stafell gwawriodd y rheswm dros yr holl dywyllwch pan sylweddolais fod ffrynt y t欧 i fyny at y to o dan eira! Mewn gwirionedd, roedd yna gymaint o fynydd o eira wedi ei luwchio fel y bu'r darn olaf yno tan yr wythnos gyntaf o fis Mehefin. Welais i erioed gymaint o eira, gyda'r beudy bron o'r golwg a dim s么n am glawdd yr ydlan na'r llidiart a arweiniai i'r cae bach. Roedd y gwynt yn dal yn gryf a'r eira'n cael ei luwchio ar brydiau fel na allem weld ar draws Cae Cefn T欧.

Roeddem ni'r plant wrth ein bodd gan fod yr argoelion am wyliau ychwanegol o'r ysgol yn edrych yn ffafriol. Buom wrthi'n twrio yn yr eira er mwyn dod o hyd i'r ieir, a bob tro y byddem yn canfod i芒r wedi marw, byddem yn mynd 芒 hi i'r t欧 i'w dangos. Ni chafwyd hyd i'r ceiliog coch R么d Eiland tan fis Ebrill pan ddaeth ei gorff i'r golwg o dan yr eira a bu'n rhaid magu ceiliog arall yn ei le. Bu Glenys wrthi am hanner diwrnod yn clirio'n galed nes cyrraedd y t欧 tatws gyda'r addewid y byddai Mam yn gwneud tships i ni os medrem ryddhau'r tatws. Noson fawr hyd yn oed o dan amgylchiadau arferol fyddai noson gwneud tships gyda ni'r plant yn awchu i grafu'r tatws ac yna ymladd am y ddysgl pan gaem ein galw at y bwrdd.

Dros y penwythnos bu'n rhewi'n ddi-stop gyda'r canlyniad i'r tap d诺r wrth y drws cefn wrthod gollwng yr un diferyn. Am bron i chwe wythnos wedi hynny, buom yn cario d诺r bob dydd o bistyll Cornwal. Clywn fy nhad yn siarad 芒'r gweision ac yn gofidio am y defaid. Ychydig iawn oedd i'w gweld a'r lluwchfeydd erbyn hyn wedi caledu fel sment. Ychydig oeddem i wybod y penwythnos hwnnw y byddai dros hanner y ddiadell yn marw ac mai dim ond un rhan o ddeg o'r cyfri arferol o 诺yn fvddai'n clywed c芒n y gog.

Darn o lyfr Charles Arch Byw dan y Bwa


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy