主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hywel Davies ar Last Suspect Atgofion ennill y Grand National i'w ardal
Ugain mlynedd yn 么l fe lwyddodd Hywel Davies, Cymro o Abertefi i ennill y Grand National.
Ar drothwy ras fawr 2005, fe fydd 主播大秀 Radio Cymru yn darlledu rhaglen arbennig lle bydd y joci hwnnw, a'i deulu yn hel atgofion, a hynny wrth edrych ymlaen i weld ei fab ei hun yn marchogaeth yng nghystadleuaeth eleni.

Bydd James Davies yn marchogaeth am yr eildro yn Aintree, a hynny ar gefn ceffyl o'r enw Astonville o stablau teulu enwog y Scudamores.

Yn O Aberteifi i Aintree (sy'n cael ei ddarlledu ar 主播大秀 Radio Cymru ddydd Mawrth, Ebrill 5, 主播大秀 Radio Cymru, 6pm ac yn cael ei ail-ddarlledu ar ddydd Gwener, Ebrill 8, am 12.20pm), bydd Hywel yn s么n am un o uchafbwyntiau ennill y Grand National n么l yn 1985, sef dychwelyd i dre Aberteifi i dyrfaoedd o filoedd o bobl.

"O'n i methu credu'r ymateb gan bobl Aberteifi pan enilles i," meddai. "Fi'n cofio'r diwrnod n么l yn Aberteifi fel tase fe ddoe. Finne a James y mab, oedd ond yn fabi ar y pryd ar gefn cart a ceffyl, gyda dros chwech mil o bobl yn dod i longyfarch. Ro'dd e'n anhygoel."

Mae'n chwedlonol bellach sut yr enillodd lawer o bobl Aberteifi lawer iawn o arian, a'r bwcis yn gwneud colledion anferth.

"O'dd y bwci yn Aberteifi ffeili talu mas am wythnos mae'n debyg," meddai Hywel. "Dim dim ond ras fi o'dd hi yn y diwedd....ond Grand National a enillodd Aberteifi."

Bydd O Aberteifi i Aintree yn adrodd hanes brawd Hywel hefyd, y diweddar Geraint Davies, oedd yn joci dawnus ei hun.

Fe drodd Geraint yn broffesiynol cyn Hywel. Enillodd ef ei ras gyntaf yn 1969 a chael cyfle ei hun ar y Grand National yn 1972, ond yn anffodus fe dynnodd ei geffyl lan cyn y Beechers ar yr eildro o gwmpas y cwrs. Wedi amrywiol anafiadau fe roddodd y gorau i rasio yn 1974, yn 24 oed, gan ddilyn busnes traddodiadol y teulu a mynd i bedoli yn ardal Aberteifi. Erbyn hyn mae mab Geraint, Tomos, yn parhau 芒'r gwaith yn yr ardal.

Ar y rhaglen, bydd mab arall Geraint, Ryan, yn s么n am yrfa ei dad a gyrfa ei ewythr, gan leisio ei edmygedd llwyr tuag at y ddau.

"Arwr o'dd e i fi a hefyd ma' fe'n wncwl i fi," meddai am ei ewythr Hywel, "bod y ddau'n gellid mynd da'i gilydd ro'dd hwnna'n rhywbeth anhygoel. Dad wedd y cynta' o'r teulu i droi'n broffesiynol, yn y pen draw 'nath ei frawd bach Hywel, wireddu ei freuddwydion e, a rho'th hynna cymaint o foddhad i Dad."

Bydd brawd arall Hywel, Dyfrig, sy'n byw yn Aberteifi, hefyd yn cyfrannu, gan s么n am gysylltiad agos y teulu gyda'r byd ceffylau.

"Mae ceffyle a cystadlu yn y gwaed 'da ni fel teulu...a chystadlu gyda'n gilydd ac yn erbyn ein gilydd hefyd yn elfen bwysig, a o'dd Hywel bob amser yn dod i ben a neud pethe'n well na pawb... a fi'n credu fydde fe di dod i ben a chystadlu yn unrhyw faes...tase fe wedi dewis mynd i chware rygbi mi fydde' fe di neud eitha' da fel chwaraewr rygbi hefyd."

Mae modd gwrando ar y raglen hon ar wefan 主播大秀 Cymru'r Byd - cliciwch yma.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy