主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Steve Jarvis a Steve Lloyd o flaen y bws Pwy yw'r t卯m?
Dyma'r t卯m sydd yn gweithio ar fws 主播大秀 Cymru - stiwdio gymunedol symudol sy'n dod 芒'r 主播大秀 i drothwy eich drws.
Mae cymorth parod ar gael a chewch groeso cynnes a chyfeillgar gan y criw o dri.

Fe fydd Steve, Elin a Steve (oes, mae yna ddau i'ch cymhlethu chi ) yno i'ch cynorthwyo i ddefnyddio'r cyfrifiaduron, i syrffio'r we yn llwyddiannus a'ch galluogi i gyfrannu, naill ai i'r wefan hon neu i raglenni teledu a radio'r 主播大秀.

Steve LloydSteve Lloyd
"Fi yw'r cynhyrchydd sydd yng ngofal bws 主播大秀 Cymru a'r t卯m. Cefais fy ngeni yn Sir Gaerfyrddin, ac rwy'n dal i fyw yn y sir ... ac os hoffech anfon cerdyn yna mae fy mhen-blwydd ar Ddydd Sant Padrig!

"Pan oeddwn i'n yr ysgol, roeddwn i'n DJ Disgo symudol, ac yn gyflwynydd ar Radio ysbyty Glangwili. Fe weithiais fel cyflwynydd dwyieithog a chynhyrchydd radio masnachol am dros ugain mlynedd, cyn ymuno 芒 主播大秀 Cymru.

"Rwy'n mwynhau gweithio ar brosiect cyffrous y Stiwdios Cymunedol, ac yn edrych ymlaen at gyfarfod a sgwrsio gyda phobol, a darlledu o fws 主播大秀 Cymru. Yn fy amser hamdden, dw i'n mwynhau cerddoriaeth, teithio, ffuglen wyddonol a (gwylio!) rygbi."

Elin RowlandsElin Wyn Rowlands
"Helo, Elin ydw i. Cymraeg yw fy iaith gynta' ac rwy'n byw ym Machynlleth. Cefais fy magu yn y dref farchnad hynafol hon yng ngogledd Powys, a mynychais Ysgol Bro Ddyfi. Derbyniais radd mewn Cerddoriaeth a Chymraeg gan Brifysgol Cymru Bangor cyn parhau yn y Coleg ar y Bryn i ddilyn cwrs MA mewn Newyddiaduraeth Ymarferol.

Rwyf bellach wedi dychwelyd i'm bro, i weithio ar brosiect newydd ac arloesol gan y 主播大秀 - sef y bws! Wrth i'r bws ymweld 芒 llefydd ar hyd a lled y canolbarth fy ngwaith i fydd chwilio am straeon lleol diddorol, helpu pobl i syrffio'r we ac i gyfrannu i wefannau fel hon.

"Rwy'n mwynhau fy ngwaith yn fawr - cyfarfod 芒 phobol newydd a chael ymweld 芒 llefydd bendigedig ar draws y canolbarth.

"Mae fy niddordebau'n cynnwys cerddoriaeth, chwaraeon a chymdeithasu. Caf bleser yn gwylio pob math o chwaraeon gan gynnwys p锚l droed, rygbi, tennis a snwcer. Rwyf hefyd yn canu'r piano a'r corned, ac wrth fy modd yn mynychu pob math o wyliau a sioeau, megis yr Eisteddfod Genedlaethol, y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd a Sesiwn Fawr Dolgellau."

Steve JarvisSteve Jarvis
"Cefais fy ngeni a'm magu yng ngwm Tawe, de Cymru. Gadewais yr ysgol i sefydlu fy musnes fy hun, ond fe'i werthais fel busnes gweithredol ym 1998. Rwy'n briod gyda dau o blant ac yn dal i fyw yn yr ardal.

"Roedd 1998 yn flwyddyn o newid llwyr i fi, gan i mi fentro ar yrfa gyda Formula Un, yn teithio'r byd yn yn ffilmio ac yn amseru gyrwyr enwog fel Michael Schumacher gyda Ferrari a David Coulthard gyda McClaren. Rwy'n ystyried fy hun yn ffodus iawn, gan fy mod wedi teithio'r byd gyda rasio Formula Un. Bu'r profiad yn gyfle i mi weld cymaint o olygfeydd anhygoel, a phrofi blas cynifer o ddiwylliannau gwahanol.

"Er gwaetha'r bywyd cyffrous a'r lleoliadau ecsotig, yr oeddwn yn hiraethu am adref, a dyna pryd wnes i gais am y swydd hon gyda'r 主播大秀. Rwy'n ystyried y gwaith yn sialens ac yn bennod newydd cyffrous yn fy mywyd.

"Ymhlith fy niddordebau mae rygbi, p锚l droed, nofio, teithio bwyd da a gwin. Mae gen i fywyd cymdeithasol llawn ac rwy'n mwynhau treulio fy amser hamdden gyda'm teulu a'm ffrindiau."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy