主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Hywel Teifi Edwards

Ganwyd: 15fed o Hydref 1934

Magwyd: Aberarth

Addysg: Ysgol Ramadeg Aberaeron


Hanesydd a Darlledydd

Beirniad llenyddol ac hanesydd diwylliannol oedd Hywel Teifi Edwards.

Ganed a magwyd Hywel Teifi Edwards yn Llanddewi Aberarth, Ceredigion, ac aeth i Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu yn athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Garw, lle y cyfarfu 芒'i wraig Aerona, cyn ymuno ag Adran Addysg Oedolion, Coleg Prifysgol Abertawe yn diwtor llenyddiaeth Cymraeg. Daeth yn bennaeth ac Athro ar yr Adran Gymraeg yn y coleg cyn ymddeol. Bu'n aelod o'r Orsedd ac o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd yn arbenigwr ar hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn arbennig ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg. Safodd fel ymgeisydd seneddol dros etholaeth Llanelli yn 1983 a dros etholaeth Caerfyrddin yn 1987. Roedd yn dad i'r newyddiadurwr adnabyddus Huw Edwards sy'n cyflwyno newyddion cenedlaethol 10 o'r gloch y 主播大秀.

Yr oedd diddordebau ymchwil yr Athro Hywel Teifi Edwards yn ymwneud yn bennaf 芒 diwylliant Cymru Oes Victoria gan ganolbwyntio ar yr Eisteddfod Genedlaethol fel sefydliad sy'n adlewyrchu'r diwylliant hwnnw. Roedd yn awdur toreithiog wedi cyhoeddi neu olygu nifer o gyfrolau, gan gynnwys Yr Eisteddfod 1176-1976, a G诺yl Gwalia: Yr Eisteddfod yn Oes Aur Victoria 1858-1868. Ef a olygodd ddeg cyfrol Cyfres y Cymoedd a'i gyfrol ddiweddaraf, O'r Pentre Gwyn i Gwmderi, sy'n astudiaeth o ddelwedd y pentref yn llenyddiaeth y Cymry.

Roedd ganddo lais awdurdodol a thrawiadol, ac yn siaradwr cyhoeddus heb ei ail. Cydnabyddwyd y nodwedd hon gan ei bresenoldeb cyson ar nifer o raglenni teledu a radio amrywiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Yn 2007 fe ddewiswyd Hywel Teifi Edwards yn Lywydd Pwyllgor Deucanmlwyddiant Aberaeron.

Bu farw ar 4 Ionawr 2010.


Cyfrannwch

D Ben Rees o Lerpwl
Perswadiais fy nghyfaill hoff Hywel Teifi i ddod i ddarlithio i Lerpwl yn 2003 a 2008- yr unig droen- iddo fod yn y ddinas a chawsom ddarlithiau godidog ganddo.Yr oedd yn llinach darlithydd poblogaidd cyntaf cenedl y Cymry- Gwilym Hiraethog.Coffa da amdano,
Tue Jan 5 20:22:05 2010

WJ - Caerdydd
Gorau cyfarwydd ydoedd. Ni welir mo'i debyg eto. Heno mae Cymru'n wag o'i golli.Wylaf wers ...
Tue Jan 5 17:36:54 2010

Dylan a Carys o Gwmann
Arwr ac ysbrydolwr i'r ddau ohonom ac i'r holl Gymry a fu'n gwrando arno'n taranu. Cof da amdano fel athro Cymraeg cadarn a theg yn ystod ein dyddiau fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Abertawe. Bydd ei ddylanwad yn barhaol.
Tue Jan 5 12:32:20 2010


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy