主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
T Llew Jones
T Llew Jones (1915-2009)

Ganwyd: 1915

Magwyd: Pentre-cwrt, Llandysul.

Addysg: Ysgol ramadeg Llandysul


Un o hoff awduron llyfrau plant yng Nghymru

T Llew Jones oedd un o awduron enwocaf llyfrau Cymraeg i blant. Mae cenedlaethau o blant ysgol wedi darllen ei lyfrau ac yn cael eu swyno ganddynt.

Fe'i anwyd ym Mhentre-cwrt ger Llandysul yn y flwyddyn 1915 a mynychodd yr ysgol Ramadeg leol.

Bu'n gweithio fel athro am 35 mlynedd - yn Ysgol Gynradd Tregroes, ac yna yn Ysgol Coedybryn ger Llandysul lle y bu'n Brifathro am gyfnod.

Dechreuodd ysgrifennu straeon pan oedd yn blentyn, ond yn ystod y 1950au dechreuodd gyhoeddi rhyddiaith a barddoniaeth.

Enw ei nofel gyntaf oedd Trysor Plas y Wernen. Fel sawl un o'i lyfrau roedd wedi ei osod ym mro ei febyd, Ceredigion. Fe ysgrifennodd dros hanner cant o lyfrau yn y pendraw, gan gynnwys 35 o lyfrau i blant.

Yn stor茂wr medrus, mae ei lyfrau yn tynnu ar chwedlau, cymeriadau a llefydd lleol. Mae ogofau y smyglwyr ym mae Ceredigion, Twm Sion Cati, Sion Cwilt a Barti Ddu oll yn ymddangos yn ei waith.

Dydy hi ddim yn syndod fod ei dalentau wedi ennill cryn adnabyddiaeth iddo. Yn 1958 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ac efe oedd y bardd buddugol y flwyddyn olynol hefyd.

Yn 1991 fe dderbyniodd wobr Mary Vaughan Jones, gwobr sydd yn cydnabod cyfraniadau sylweddol i lenyddiaeth plant yng Nghymru. Mae hefyd wedi ennill gwobr llenyddol Tir na n'Og ac yn 1977, rhoddwyd gradd anrhydeddus iddo gan Brifysgol Cymru.

Mae rhai o'i lyfrau wedi eu cyfieithu i'r Saesneg ac eraill, megis T芒n ar y Comin a Dirgelwch yr Ogof wedi eu addasu ar gyfer y teledu.

Mae T Llew Jones hefyd wedi sefydlu enw iddo'i hun fel chwaraewr gwyddbwyll gwych. Yn wir mae ef a'i fab Iolo wedi ysgrifennu yr hyn a gredir i fod yr unig lyfr Cymraeg sydd yn esbonio cymhlethdodau'r g锚m hwn.

Cyfrannydd cyson i rhaglennu teledu a radio Cymraeg, roedd yn byw ym Mhontgarreg ger Llangrannog yng Ngheredigion ac ym mis Mawrth 2005 fe enillodd y gadair yn Eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion.

Dathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed ym mis Hydref 2005.

Yn 93 oed, bu farw ym mis Ionawr 2009.

  • Awdur plant yn marw
  • Cyfarchion i T Llew
  • Diolch i T Llew


  • Cyfrannwch

    Mari Caernarfon
    Rwyf yn hoff iawn o tan ar y comin ac rwyf yn hoff iawn or llyfrau eraill hefyd dachi yn dda am ysgrifennu storiau wnawn byth eich anghofio
    Sun Oct 18 15:54:40 2009

    Angharad Jones o Llanymddyfri
    Tan ar y comin oedd ei llyfr gorau yn fy marn i.
    Sun Apr 19 10:26:29 2009

    Cari Jones o Abertawe
    Roedden ni'n hoff o lyfrau T.Llew.Jones ac roedden i eisiau cwrdd ag ef, ond does sdim gobaith rhagor oherwydd bu farw ar 19eg o Ionawr 2009. Byddaf wastod yn cofio T.Llew.Jones fel person cariadus a caredig!
    Thu Apr 16 19:48:08 2009

    Danika
    Rhwy ddim wedi gweld t llew jones rhwy eisiau oherwydd roedd yn gwneud llyfraju arbenning ac rhwy eisiau bod yn ysgrefenydd ond geddes i ddim amser i ddod ond mae ef wedi marw nawr ac mae hwnna yn gweneud fi'n drist pobamser
    Sat Jan 31 10:32:05 2009

    Esyllt Jones o Gaerdydd
    Mae ei lyfrau yn wych - rwy wedi darllen nhw i gyd.
    Sat Jan 19 15:23:38 2008

    Hollie, Llannerch y Medd
    Llyfrau yn arbennig.
    Mon Apr 16 13:21:12 2007


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy