主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanbedr Pont Steffan
Siwan yn Sweden Siwan yn Sweden
Dyddiadur Siwan Davies o Lanybydder ar Daith Gyfnewid Ysgol Gyfun Llambed i Kalix a Stockholm yn Sweden, yn Chwefror 2007.

  • Lluniau o'r daith yma.

    Nos Fercher
    Chwefror 21ain, 2007

    15 ohonom, a 3 athro, yn gadael Llambed am Heathrow i hedfan i Stockholm ac yna i Lule氓. Y bwriad? Wel, i fynd ar daith gyfnewid gyda Ysgol Kalix ac i aros gyda teulu merch o'r chweched dosbarth.

    Dydd Iau
    Wedi teithio trwy'r nos a dydd, dyma ni'n cyrraedd ysgol Kalix am 5.30 y nos a chwrdd 芒'n hosts! Yr oeddwn i a'm ffrind Angharad yn aros gyda Emelie Johansson a'i theulu, a chawson groeso o'r eiliad gyntaf. Noson dda o gwsg wedi diwrnod blinedig!

    Dydd Gwener
    Codi'n gynnar i fod yn yr ysgol erbyn 8! Cael taith o amgylch yr ysgol oedd yn cynnwys nifer o wahanol adeiladau arbenigol. Roedd ganddynt salon trin gwallt, adran blymio a stafell gwaith coed. Roedd yr ysgol fel coleg - gallai'r disgyblion fynd a dod fel y mynnent. Cerdded drwy dymheredd o -30掳C i dref Kalix i gael gwybodaeth am Kalix Kommun sef Cyngor Tref Kalix. Cawsom wybod am nifer o bethau yn cynnwys gwahanol lefelau'r cyngor, trethi a faint oedd llefydd fel ysbyty Kalix yn cyflogi. Cerddom yn 么l i'r ysgol, ac yr oedd hi hyd yn oed yn FWY oer erbyn hynny!

    Cawsom wers arlunio yna gwers seicoleg gan wylio fideo Swedeg! Dal bws i d欧 Mamgu a Thadcu Emelie wedyn, a chael 3 gwahanol fath o gacennau ffein ofnadwy! Casglu tywel a bant 芒 ni i'r sauna. Roedd e'n lyfli! Wedi cael cawod, mas 芒 ni i'r oerfel gyda'n gwalltiau'n wlyb a dyma fe'n RHEWI!! Dyna'r profiad rhyfedda 'to! N么l yn yr ysgol roedd swper croeso yn ein haros. Dyma drial eog heb ei goginio - wna i byth ei flasu eto! Ych!! Dysgom ambell air Cymraeg i'n hosts yna ei bwrw am adre i wylio DVD.

    Dydd Sadwrn
    Dal y bws ben bore, a bant 芒 ni i Rovaniemi yn y Ffindir i weld yr Arcticum Museum lle cedwir trysorau'r Samis, yna i weld Santa. Roedd y lle fel byd delfrydol! Cawsom lun gyda'r dyn ei hun, yna crwydro o amgylch y lle a'r siopau. Druan 芒 Tom, un o'n criw, a gwympodd ar y llethr i芒, a gorfod iddo gael 5 pwyth! Daeth e yn 么l i realiti yn go gloi! Cael swper hyfryd gan dad Emelie, Ulf, yna draw i barti ffrind Emelie, Jennifer! Cawsom llawer o sbri yn cyfuno tair iaith a chyfeillgarwch. Rhaid oedd gadael yr hwyl a mynd adre, gan fod Emelie wedi blino! Er y buaswn i ac Angharad wedi medru cadw fynd am rai oriau eto! Gwely erbyn 4y.b!

    Dydd Sul
    Dydd i dreulio gyda Emelie ac fe gawsom fynd am dros awr ar Snow Mobiles y teulu, a gweld prydferthwch ardal Sangis, trwy llawer o goedwigoedd a'r eira fel siwgwr eisin. Methu siarad yn deidi oedd y broblem wedi cyrraedd adre, gan fod fy mochau a'm gwefusau wedi rhewi! Cael blasu "moose" i ginio - resait arall ffein gan dad Emelie - roedd hwn yn dipyn o gogydd! Gwylio Emelie yn treinio Floor Ball yn y nos!

    Gan fod mam a tad Emelie yn byw ar wah芒n, fe wnaethom fynd i aros dwy noson gyda'i mam mewn fflat yn Kalix. Felly cawsom y siawns o brofi bywyd y dre a'r wlad.

    Dydd Llun
    Codi am bump i ddal bws i Kiruna, lle'r ymwelom 芒 mwynfeydd haearn a'r Gwesty I芒 byd enwog! Roedd hi'n anodd credu ein bod dros 300m o dan y ddaear pan yn y mwynfeydd - roedd y lle'n edrych fel amgueddfa! Stopio mewn eglwys fechan hyfryd, ar y ffordd i'r Gwesty I芒. A dyna chi le oedd hwn - popeth allan o i芒! Hyd yn oed y gwydrau yn y bar!! Mynd o amgylch ugain ystafell wely, gyda 8 ohonynt wedi eu cynllunio gan aelodau o'r cyhoedd. Roedd hawl priodi yn y capel bach gan eistedd ar grwyn ceirw!! Unwaith daw'r tywydd twym, mae popeth yn dadleth a rhaid aros tan y gaeaf nesa cyn adeiladu gwesty newydd arall!!

    Dydd Mawrth
    Dysgu ambell air a chyfri o 1 i 10 yn Swedeg., Gwneud cyflwyniad ar Gymru i aelodau'r chweched dosbarth yn yr ysgol. Cerdded i Kalix i siopa wedi cinio a chael torri fy ngwallt yno!! Mewn tri gair - gwahanol ond neis! Chwarae yn yr eira gyda'r 'sparc' wedyn, sef cart bach pren oedd yn llithro'n esmwyth o un man i'r llall Draw i t欧 Lotta sef host arall yn y nos i chwarae g锚mau a gwylio DVD Pretty Woman! Lot o sbort a sbri!

    Dydd Mercher
    Yn yr eiraDiwrnod o chwaraeon. Fe wnaethom sglefrio-i芒 mewn arena yn Kalix. Draw i'r 'Hill' wedyn sef llethr sgio ac eira-fyrddio. Coginio selsig ar d芒n agored, a mynd lawr y llethr ar ben mat mawr oren! Mae bwyd wastad yn ffeinach mas yn yr awyr agored! Cyrraedd adre a cael siawns i yrru snow mobile! Roedd hi'n ryfeddod pa mor rhwydd yr oedd y cerbyd bach yn mynd trwy eira dwfn iawn! Roedd hi'n gymaint o hwyl chwarae yn yr eira doeddwn ddim am fynd i fewn i'r t欧! Ysgrifennom DIOLCH yn yr eira tu fas i gartref Emelie.

    Dydd Iau
    Mynd i wers Economeg, ac yna dau gyflwyniad arall ar Gymru cyn mynd am dro i siopa yn Kalix (roedd Angharad eisiau prynu gratwr caws oedden nhw'n defnyddio yn Sweden!) Draw i d欧 Mamgu a Thadcu Emelie eto, a tro hyn cawsom waffles cartref, hufen ac eirin! Lyfli! Adre i baratoi cyn ei throi hi am y bwyty yn Kalix i gael swper ffarwel! Cawson fwyd gwych a llun o ni a'r hosts gyda'n gilydd. Noson ffarwel wych i wythnos wych!

    Dydd Gwener
    StockholmAm 8 y bore dyma ni'n ffarwelio 芒'n cyfeillion newydd a gadael am faes awyr Lule氓 a hedfan i Stockholm. Yna dal y tr锚n i ganol bwrlwm prif ddinas Sweden a chwilio am ein hostel. Roeddem ni gyd yn cysgu mewn un ystafell fawr!! Bant 芒 ni i Amgueddfa Vasa i weld y llong a suddodd cyn gadael yr harbwr ac a gafodd ei chodi o waelod y m么r 300 o flynyddoedd yn ddiweddarach! Roedd y llong mewn cyflwr arbennig gyda'r cerfluniau yn anhygoel! Dal cwch i'r hen dref, Gamlastan wedyn, a chael golwg ar rai siopau yno.

    Swper yn y London Restaurant tua 2 funud o'r hotel a chael nosweth wych o siarad a bwyta! Aethom am dro wedi gorffen, a ffeindio siop Portmeirion rownd y gornel! Mae'r byd yn fach hyd yn oed yng nghanol Stockholm!!

    Dydd Sadwrn
    Amser rhydd yn Stockholm. Aethom i amgueddfa Gustav Adolfus, i Gamlastan i siopa, cinio mewn caffi bach cyn gweithio'n ffordd yn 么l. Roedd hi'n eithaf oer i gerdded y strydoedd a finne wedi gadael fy nghot yn yr hostel. Dyma ni gyd yn mynd i fwyty Eidalaidd i gael ein swper olaf. Cawsom fwyd ffein iawn unwaith yn rhagor, gyda pawb yn drist ddim mo'yn gadael!

    Dydd Sul Gadael yr hostel, gadael Stockholm a gadael Sweden. Anelu trwyn bws G&M ar hyd y draffordd i Lambed. Roedd pawb wedi blino ac eisiau bod adref yn rhannu'r holl brofiadau 芒'u teuluoedd!

    Mae'r atgofion yn fyw yn y cof, yr hanesion difyr yn dal i lifo o'n cegau, a pyliau o chwerthin yn ganol tawelwch, wrth ail fyw deg diwrnod bythgofiadwy ar daith i'n ysgol gyfnewid.

  • Lluniau o'r daith yma.

    Gan: Siwan Davies

    Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


  • Cyfrannwch

    Carys o Gaerdydd
    Dyna lwcus wet ti i fynd i Sweden felna! Fi 'di bod dwywaith ar wyliau gyda 'nghariad, a nawr fi'n gobeitho mynd nol gyda grant wrth Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (athrawes ydw i) i weld sut mae ysgoliion cynradd Swedaidd yn dysgu plant dan 7 oed mewn 'dagis'. Fi'n gobeitho y bydd hi'n dwym 'na yn ystod yr haf. Pan es i i Gothenburg, wedd hi'n 36 gradd, a phan es i i Stockholm y gaeaf wedyn, wedd hi -8! Fi'n falch dy fod ti wedi joio a rhannu dy brofiad.

    Angharad Isaac o Llambed
    Oedd wir, Siwan profiad wych a bythgofiadwy! Da iawn am yr erthygl!


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Trefi
    Radio Cymru
    Papurau Bro
    Bws 主播大秀 Cymru


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy