主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ei barn chi
Cyfle i chi fynegi barn am ddyfodol y Llyfrgell
A hithau'n flwyddyn ei chanmlwyddiant mae'r Llyfrgell Genedlaethol, yn gwahodd pobl i gyfrannu eu sylwadau a'u syniadau yngl欧n 芒'i dyfodol.

Rhan yw hyn o adolygiad trylwyr o'i holl weithgareddau ac o'i strategaeth ar gyfer ei dyfodol.

Bydd angen rhoi ystyriaeth arbennig i ofynion yr oes ddigidol a sut y bydd hynny yn effeithio ar bob agwedd o lyfrgellyddiaeth.

Ar ei gwefan mae'r Llyfrgell wedi cyhoeddi ei syniadau ei hun yn barod yngl欧n 芒'r dyfodol gan wahodd pobl i ymateb iddynt a chynnig eu syniadau eu hunain.

Mae ffurflen arbennig ar y we ar gyfer hynny.
Ymhlith y pethau mae'r Llyfrgell eisiau sylwadau pobl arnynt mae:
  • Yr hyn sy'n bwysig i chi ynghylch ei gwasanaethau.
  • Sut y dylid eu datblygu?
  • "Oes yna faterion yr ydym wedi'u hanghofio?" "Gallai ymgymryd 芒 swyddogaethau newydd olygu bod rhaid inni roi'r gorau i wneud rhai pethau," meddir gan ofyn pa wasanaethau ellid eu hepgor ym marn y cyhoedd.

    Ac meddai Andrew Green y Llyfrgellydd Cenedlaethol:

    "Rwy'n credu ei fod yn deg dweud fod y Llyfrgell, fel pob llyfrgell, wedi newid mwy dros y ddegawd ddiwethaf na thros y 90 mlynedd flaenorol.

    "Rydym nawr yn llawer mwy ymwybodol o'n cyfrifoldeb i gymdeithas yn ei ehangder ac mae amrywiaeth y gymdeithas honno'n llawer mwy hefyd.

    "Mae dyfodiad y rhyngrwyd yn golygu fod ein hymchwilwyr a'n defnyddwyr yn America neu Awstralia cyn bwysiced a'r rhai yn Aberystwyth neu Gymru. Edrychwn ymlaen at glywed sut hoffai'n defnyddwyr yng Nghymru ac yn fyd-eang, weld y Llyfrgell yn datblygu."

  • Os ydych chi am ymateb gallwch wneud hynny trwy glicio i ddarllen y sylwadau a dilyn y dolennau i'r ddalen ymateb.

    "Mae hwn yn amser i ddathlu, ond hefyd i sefyll ac ystyried y ffyrdd mae'r Llyfrgell yn cyflawni ei phrif swyddogaethau.

    "Mae'r Llyfrgell yn perthyn i bobl Cymru: eich llyfrgell chi ydyw. Rydym am i chi roi eich barn ar ei chyfeiriad i'r dyfodol," meddir.



  • Trefi
    Llyfrau
    Papurau Bro


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy