主播大秀

Cerys Matthews

Cerys Matthews

Prif leisydd y gr诺p Catatonia gynt, sydd bellach yn artist unigol llwyddiannus.

Ganwyd Cerys yng Nghaerdydd ond llaw feddyg yw ei thad a gorfu i'r teulu symud llawer yn ei ddilyn ef, i Abertawe gyntaf ac yna i ogledd Penfro ac yno mae'r teulu hyd heddiw.

Y deintydd oedd ei llysenw yn yr ysgol gynradd gan mai hi oedd yn tynnu dannedd babi'r disgyblion eraill!

Datblygodd ei diddordeb mewn cerddoriaeth yn ystod gwyliau'r ysgol yng ngogledd Penfro. Yno yr aeth hi ati i ddysgu chwarae'r git芒r acwstig a chwarae alawon y Beatles a hen alawon Cymreig.

Yn ystod haf 1992 ffurfiwyd Catatonia - ar 么l i Mark Roberts gyfarfod Cerys yn canu ar y stryd yng Nghaerdydd yn 么l y chwedloniaeth. Cawsant gynnig recordio ar y label Crai a threulio'r blynyddoedd nesaf yn teithio a chwarae mewn gigs o gwmpas Cymru.

Cyhoeddwyd albwm cyntaf Catatonia, 'Way Beyond Blue' yn 1996 gan roi cyfle ehangach i bobl glywed y r卯ffs git芒r popaidd a'i llais swynol ac unigryw. Ei llwyddiant mawr cyntaf oedd y sengl 'You've Got a Lot to Answer For'.

Yn 1998 cyrhaeddodd y sengl 'Mulder and Scully' y pump uchaf yn y siartiau yn y DU ac fe ddilynodd 'Road Rage' yn fuan wedyn. Mae'r ddwy g芒n ar yr albwm boblogaidd iawn, 'International Velvet' ac fe fu Cerys am gyfnod yn Frenhines Bop yn ymddangos ar dudalennau blaen cylchgronau poblogaidd.

Yn 1999, cyhoeddwyd albwm boblogaidd arall sef 'Equally Cursed and Blessed' a sylfaen ap锚l Catatonia oedd carisma Cerys, y caneuon pop llwyddiannus a pherfformiadau byw cryf iawn. Pan ryddhawyd yr albwm nesaf yn 2001 'Paper Scissors Stone' trefnwyd taith yr un pryd. Ond gohiriwyd y daith gan i Cerys adael y band ar sail blinder a phoen meddwl.

Yn 2002 recordiodd Cerys y thema i'r gyfres deledu i blant, 'Sali Mali' a threulio rhan o'r flwyddyn yn Nashville Tennessee gyda'i darpar 诺r yn paratoi albwm o ganeuon gwerin a gwlad. Cyhoeddwyd yr albwm ar 19 Mai 2003 sy'n gymysgedd o'r gwerin, gwlad a chaneuon gwreiddiol gan Cerys heb anghofio emyn Gymraeg.

Yn 2007, cyhoeddodd Cerys Matthews ei bod hi a'i g诺r yn ysgaru, a symudodd hi a'i dau o blant yn 么l i Gymru. Yn Nhachwedd 2007, roedd yn 么l yn y penawdau unwaith eto pan ddaeth yn bedwerydd yn y gyfres deledu realiti 'I'm A Celebrity ... Get Me Out Of Here.'

Erbyn hyn mae Cerys yn cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth ar 主播大秀 6 Music ac yn parhau i ryddhau albymau yn y Gymraeg a'r Saesneg yn cynnwys, 'Cockahoop' (2003), 'Never Said Goodbye, (2006),' Paid Edrych i Lawr' (2009) a 'Don't Look Down' (2009.) Yn 2010 rhyddhawyd ei halbwm, 'Tir', casgliad o ganeuon Cymraeg traddodiadol yn cynnwys Calon L芒n, Cwm Rhondda, Migldi-Magldi, Myfanwy a Sospan Fach. Dyma'r drydedd albwm iddi ryddhau o dan ei label ei hun "Rainbow City."

Ym Mai 2011 cyhoeddodd yr albwm, 'Explorer'. Y tro hwn, defnyddiodd dechneg tra gwahanol tra'n recordio. Penderfynodd y byddai'n recordio'r albwm heb unrhyw fformat na sain a baratowyd o flaen llaw ond yn hytrach, gadael i'r elfen 'fyrfyfyr' arwain y gwaith. Cyhoeddwyd llyfr i blant ganddi o'r enw, 'Tales From the Deep' hefyd yn 2011.

Newyddion

Cerys ar C2!

23 Ionawr 2008

Daf Du yn siarad efo Cerys Matthews, a gig Cerys i'w darlledu ar C2.

Cerys yng Ngwyl Dewi Sant

14 Rhagfyr 2007

Ar Fawrth 1af 2008 bydd Cerys Matthews yn hed-leinio G诺yl Dewi Sant yn Sir F么n.

Cerys yng Ngwyl Dewi Sant

14 Rhagfyr 2007

Ar Fawrth 1af 2008 bydd Cerys Matthews yn hed-leinio G诺yl Dewi Sant yn Sir F么n.

Adolygiadau

Adolygiad CD Cerys Matthews Awyren

15 Hydref 2007

Curig Huws a Steffan Rhys Williams yn adolygu Awyren = Aeroplane

Erthyglau

Cerys Matthews

Cerys Matthews

5 Hydref 2009

Rhan gyntaf sgwrs Hefin gyda Cerys Matthews.

Cerys Matthews

18 Hydref 2007

Gwranda ar sgwrs Lisa Gwilym efo Cerys Matthews

Cerys Matthews

18 Hydref 2007

Gwranda ar sgwrs Lisa Gwilym efo Cerys Matthews

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

主播大秀 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.