主播大秀

Colorama

Colorama

Ganwyd Colorama yn 2005-yn greadigaeth Carwyn Ellis, Cerddor amryddawn a hyfforddwyd yn y Royal Academy of Music yn Llundain ac a fu'n perfformio gyda rhai o enwau mwya y byd pop a roc- o Oasis i Paul Weller a Neil Young. Ymunodd ei ffrind pennaf a hen gyfaill o ddyddiau Coleg, David Fletcher, meistr ar y bas-dwbl, 芒'r band gan ddechrau eu gyrfa fel 'Colorama' yn gigio yn Lerpwl.

Ond ar 么l dwy flynedd, symudodd y band i Gymru a rhyddhawyd yr albwm cyntaf, yn Siapan yn unig, 'Cookie Zoo' ar Noise McCartney / Bad News Records (Victor Entertainment) yn Ebrill 2008.

Cynyddodd boblogrwydd y band seicadelig a melodaidd wrth iddynt swyno'r dyrfeydd yng Ngwyliau Glastonbury, Latitude, 主播大秀 Game, S诺n ac eraill. Ond yn 2009, ar 么l perfformiad grymus yn Glastonbury, bu farw David Fletcher yn sydyn o drawiad y galon ac yntau ond yn 37 oed, oedd yn golled enbyd i'r band.

Ym mis Medi 2009, rhyddhawyd albwm cyntaf y band yn y DU, Magic Lantern Show ar Redbricks Recordings, yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a'r Saesneg. Erbyn hyn roedd Luca Guernieri wedi ymuno ar y drymiau a David Page ar y gitar fas. Un o'r caneuon mwyaf trawiadol oedd y swynol 'Dere Mewn', sydd yn glasur erbyn hyn. Disgrifwyd hi yn "g芒n anhygoel" gan Huw Stephens ac yn "Soft Psych Classic" gan Sean Rowley. Cafodd yr albwm ei chwarae yn gyson gan y brif orsfeydd radio gan godi proffil y band yn sylweddol.

Yn 2010, rhyddhawyd yr albwm 'Box', ar labelau Noise McCartney / Bad News Records (Victor Entertainment) yn Siapan a 'See Monkey Do Monkey Recordings' yn y DU. Yn fuan wedi hyn, rhyddhawyd sengl Nadoligaidd ganddynt, 'Cerdyn Nadolig', unwaith eto yn waith arbennig o felodig, ag enillodd y safle cyntaf iddynt ar Siart C2

Sesiynau

Colorama

5 Ionawr 2009

Sesiwn gan Colorama - 3 c芒n newydd

Colorama

5 Ionawr 2009

Sesiwn gan Colorama - 3 c芒n newydd

Erthyglau

Colorama

colorama i chwarae glastonbury bbc cyflwyno

17 Mehefin 2009

Mwy o fandiau o Gymru i chwarae Glastonbury

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

主播大秀 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.