主播大秀

Dafydd Iwan

Dafydd Iwan

Canwr protest ac un o ffigyrau mwyaf amlwg y sin pop a gwerin yng Nghymru hyd heddiw.

Discograffi

  • Yma Mae Ngh芒n (Sain) 1972
  • Mae'r Darnau Yn Disgyn I'w Lle (Sain) 1976
  • Bod Yn Rhydd (Sain) 1979
  • Ar D芒n (Sain) 1981
  • Rhwng Hwyl A Thaith (Sain) * 1982
  • Yma O Hyd (Sain) * 1983
  • Gwinllan A Roddwyd (Sain) 1986
  • Dal I Gredu (Sain) 1991
  • Caneuon Gwerin (Sain) 1994
  • C芒n Celt (Sain) 1995
  • Yn Fyw Cyfrol 1 (Sain) 2001
  • Yn Fyw Cyfrol 2 (Sain) 2002
  • Man Gwyn (Sain) 2007

* Gydag Ar Log.

Casgliadau Pwysig

  • Y Dafydd Iwan Cynnar (Sain) 1998
  • Goreuon Dafydd Iwan (Sain) 2006

Ganwyd Dafydd Iwan Jones ym Mrynaman ym 1943. Symudodd y teulu i'r Bala pan oedd Dafydd yn ei arddegau. Mae'n cael ei adnabod fel canwr protest ac un o ffigyrau mwyaf amlwg y sin pop a gwerin yng Nghymru hyd heddiw.

Ar 么l ymddangos ar raglen newyddion Y Dydd ym 1965, arwyddodd i label Welsh Teldisc. Recordiodd nifer o EPs i'r cwmni rhwng 1966-1969, rhai gydag Edward Morris Jones. Erbyn heddiw mae caneuon fel Mae'n Wlad I Mi, Wrth Feddwl Am Fy Nghymru a Carlo yn cael ei ystyried yn glasuron.

Ym 1969 sefydlodd Cwmni Recordiau Sain gyda Huw Jones a Brian Morgan Edwards. Rhyddhaodd gyfres o EPs dylanwadol ar Sain, oedd yn cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, fel Gorau Cymro, Cymro Oddi Cartref, Peintio'r Byd Yn Wyrdd a Pam Fod Eira Yn Wyn. Mae nifer o'r caneuon yma, a rhai o'r cyfnod Welsh Teldisc, ar gael ar Y Dafydd Iwan Cynnar (Sain, 1998).

Ym 1972, ail-recordiodd nifer o'i hen ganeuon Welsh Teldisc yn Stiwdio Rockfield gyda Dave Edmunds, ar gyfer Yma Mae Ngh芒n (Sain, 1972).

Mae rhai yn ystyried Mae'r Darnau Yn Disgyn I'w Lle (Sain, 1976) fel ei albwm cyntaf a chryfaf, oedd yn cynnwys y ffefryn Mae Rhywun Yn Y Carchar. Mae'r LP ar gael yn ei chyfanrwydd ar Y Dafydd Iwan Cynnar.

Recordiwyd * Bod Yn Rhydd* (Sain, 1979) yn sgil methiant y refferendwm ar ddatganoli, ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu hynny.

Mae Ar D芒n (Sain, 1981) yn recordiad byw gyda Hefin Elis a Tudur Huws Jones, Rhwng Hwyl A Thaith (Sain, 1982) a Yma O Hyd (Sain, 1983) gydag Ar Log, sy'n cynnwys dwy o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, Yma O Hyd a Cerddwn Ymlaen.

Roedd Gwinllan A Roddwyd (Sain, 1986) yn deyrnged i Saunders Lewis, DJ Williams a Lewis Valentine, hanner can mlynedd ers llosgi Ysgol Fomio Penyberth.

Roedd rhaid aros pum mlynedd tan * Dal i Gredu* (Sain, 1991), oedd yn cynnwys Yr Anthem Geltaidd a fabwysiadwyd ym 1990. Roedd Caneuon Gwerin (Sain, 1994) yn brosiect ar y cyd gyda Tudur Morgan a C芒n Celt (Sain, 1995) yn gasgliad o ganeuon newydd a rhai oedd wedi eu recordio o'r newydd.

I ddathlu ei ymddeoliad o ganu yn gyhoeddus recordiwyd Yn Fyw Cyfrol 1 a 2 (2001 a 2002) yn fyw gyda band newydd. Ym 2007 rhyddhawyd * Man Gwyn* (Sain, 2007), sy'n cynnwys teyrnged i'w arwr Gwynfor Evans, Daeth Yr Awr, Daeth Y Dyn.

Rhyddhaodd gasgliad newydd o ganeuon yn 2009, Dos I Ganu. Sbardunwyd yr albym, a'r g芒n-deitl, gan y faner a osodwyd ar bont yng Nghaernarfon adeg etholiad Mai 2008, yn dilyn helynt ad-drefnu ysgolion Gwynedd.

Gari Melville

Newyddion

'Yma o Hyd' i'r Top 40?

7 Tachwedd 2007

Mae ymgyrch wedi cychwyn i gael y g芒n 'Yma o Hyd' i mewn i 40-uchaf y siartiau Prydeinig er c么f am Ray Gravell.

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

主播大秀 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.