主播大秀

Ffa Coffi Pawb

Ffa Coffi Pawb

Ffa Coffi Pawb oedd y labordy cerddorol a fu'n rhan allweddol o'r twf aruthrol mewn grwpiau pop yn y 1990au yng Nghymru.

Aelodau

  • Gruff Rhys: Llais, gitar, offerynnau
  • Rhodri Puw: Gitar
  • Dewi Emlyn: Bas
  • Dafydd Ieuan: Drymiau

"O'n i isio bod mewn band ers o'n i'n bum mlwydd oed!" meddai Gruff Rhys n么l yn 1998. Dyna'r unig ffaith sy wir rhaid gwybod am ein prif artist pop, sydd bellach yn brifleisydd y Super Furry Animals.

Ffa Coffi Pawb oedd y gr诺p cyntaf i gyflwyno ei ddoniau arbennig i'r gynulleidfa Gymraeg nol yn 1986. Furfiwyd Ffa Coffi Pawb gan ddau fachgen ysgol o Fethesda - Gruff a Rhodri Puw - wedi eu hysbrydoli gan grwpiau Dyffryn Ogwen fel Maffia a bandiau o'r dyffryn nesaf fel Y Cyrff o Lanrwst, Dyffryn Conwy.

Yn 么l Huw Gwyn (pennaeth label cynta'r grwp - Casetiau Huw), roedd y band "yn shambolig, yn perfformio'n chwil... rhyw fath o Jesus and Mary Chain Cymraeg, yn defnyddio drils ar lwyfan i greu s诺n llawn ffidbac, law yn llaw ag agwedd gwrthdrawiadol oedd yn synnu cynulleidfa oedd yn eu gweld nhw".

Mae casetiau cynnar y grwp - Marwolaeth (1986), Valium (1987) a Dalec Peilon (1988) yn sicr yn adleisio arddull y Mary Chain, ond hefyd mae dawn Gruff i ysgrifennu caneuon melodig, bachog, 'poppy' a chlyfar, i'w glywed yn glir.

Ar y pryd roedd Ffa Coffi yn ymddangos fel grwp a oedd yn hapusach yn arbrofi ac ymestyn eu hunain yn gerddorol yn hytrach na cheisio datblygu neu blesio unrhyw griw o ffans penodol neu creu gyrfa saff a llewyrchus yn y diwydiant cerddoriaeth.

Roedd parodrwydd y band i gynnwys y synnau diweddara o'r s卯n bop Brydeinig ar gyfer eu cerddoriaeth eu hunain yn hollbwysig - adlewyrchiad pendant o'r ffaith bod y gr诺p mewn cariad gyda diwylliant cerddoriaeth bop o bob lliw a llun, heb snobyddiaeth am gerddoriaeth masnachol.

Wrth i'r gr诺p sefydlogi, ac ychwanegu doniau cerddorol Dafydd Ieuan a Dewi Emlyn tra'n creu perthynas agos iawn efo prif gynhychydd y cyfnod - Gorwel Owen - llwyddon nhw i greu synthesis oedd yn cwmpasu elfennau roc clasurol y chwedegau law yn llaw 芒'r s卯n ddawns a Baggy, git芒r ecstatig Bowie, a rhyddmau'r oes Glam, yn ogystal ag elfennau mwy tanddaearol fel Tecno, House, a hyd yn oed roc canol y ffordd.

Mae egni a dyfeisgarwch eu cynnyrch mewn albyms fel Clymhalio (1991), Hei Vidal (1992) a senglau 12" fel Allan o'i Phen (1990) a Cymryd y Pys (1991) i label Ankst yn dangos dawn creu cerddoriaeth bop gwbl unigryw ag ysbrydoledig yn y Gymraeg.

Er i'r gr诺p chwalu yn 1993 heb lwyddo i greu fawr o enw tu allan i Gymru, mae'r casgliad o oreuon - Ffa Coffi Pawb Am Byth (2004) - a ryddhawyd yn sgil llwyddiant y Super Furries, wedi sicrhau bod cerddoriaeth y gr诺p yn cael ei mwynhau a'i chlodfori ar draws y byd o'r diwedd.

Emyr Williams


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

主播大秀 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.