主播大秀

Genod Droog

Genod Droog

Ffrwydrodd y Genod Droog ar y s卯n gerddoriaeth yng Nghymru n么l yn Rhagfyr 2005 fel siwpyrband yn llawn egni, hwyl a sbri, ynghyd 芒 thalent o gyfansoddi. Gyda chymysgedd o felod茂au, rap a cherddoriaeth ddawns anthemig, doedd hi ddim yn hir cyn i'r Genod Droog mynnu ei hawl fel 'headliners' ym mhob g诺yl a gig.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Roedd y Genod Droog fel siwpyrgrwp wedi'i greu gan aelodau o fandiau llwyddiannus eraill. Roedd Dyl Mei ac Ed Holden yn gyn-aelodau o'r grwp hip-hop Pep Le Pew a'r Soffas, Gethin Evs gynt o Kentucky AFC ac roedd Nei ac Ed yn y band Diwygiad.

Prif amcan y band oedd mwynhau cerddoriaeth a chael parti ar lwyfan.

Roedd pob gig yn unigryw a'r natur anodd ei darogan yn ychwanegu cyffro. Daeth uchafbwynt yn 2006 pan gyflwynwyd perfformiad theatrig yn llawn egni, gwisgoedd dramatig, bal诺ns anferth a cherddoriaeth syfrdanol i ail lwyfan Maes B - yn wir, roedd hi fel gwylio hanes yn cael ei greu.

Aelodau

  • Gethin Evs (Gethin Evans): Llais, drymiau
  • Betsan Evans: Llais
  • Dull May (Dylan Meirion Roberts): Git芒r, sampler
  • Kim De Bills (Carwyn Jones): Bas, allweddellau
  • Mr Phormula (Ed Holden): Rapio, b卯tbocsio, llais
  • 9 Tonne (Aneurin 'Nei' Caradog): Rapio, ffliwt, llais, boran
  • Gwyneth Glyn: Git芒r, llais
  • Heledd: Trymped
  • Berwyn Jones: Trymped
  • Alex Moller 'Rice': Offerynnau taro

Wedi'r perfformiad gwych hon, cafodd y Genod Droog eu dewis i gynrychioli Cymru yn y Proms Trydanol cyntaf erioed yn Nhachwedd 2006. Perfformiwyd gydag aelodau o Ensemble Cymru yng nghlwb Barfly yn Camden gan wthio ffiniau ac arbrofi - sef prif amcanion y prosiect.

Yn Chwefror 2007 enillwyd dwy wobr yng Ngwobrau RAP 主播大秀 Radio Cymru am y Band Byw Gorau ac am Hoff Fand Gwrandawyr Radio Cymru; yn ogystal 芒 hynny, cawsant eu henwebu yn y categori Band Byw Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng ngwobrau'r Ffatri Bop 2007. Aeth y band ymlaen i berfformio fel prif fand Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2007 gan adlonni'r miloedd.

Rhyddhawyd yr albwm Ni Oedd y Genod Droog yn Awst 2008, ond roedd y band wedi dod at ddiwedd ei daith, gan deimlo nad oedd mwy i'w gyflawni fel gr诺p cyfrwng Cymraeg.

Perfformiwyd y gig olaf yn y Point fel rhan o 诺yl S诺n, gan ddod 芒'r band i ben mewn g诺yl sy'n cael ei hadnabod am gerddoriaeth wreiddiol ac arloesol.

Un peth sy'n sicr, roedd hi'n yffach o barti!

Lynsey Anne


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

主播大秀 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.