Prifweinidogion pop Cymru sy'n creu cerddoriaeth mwy sgleiniog na ph锚l disgo Caryl P Jones circa 82. Melod茂au bachog, geiriau anthemig a chytganau sy'n treiddio i'ch isymwybod, adeiladu cegin a dechre coginio cacennau a'u bwydo nhw i'ch ymennydd. Petai 'na stadiwm ym mhob pentre yng Nghymru 'se'r Sibrydion di chwarae nhw gyd, ddwywaith.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Ffurfiwyd y Sibrydion yn 2005 o lwch y Big Leaves pan benderfynodd y brodyr Gwynedd, Osh a Mei, barhau ar eu taith i ddosbarthu bachau bythgofiadwy i glustiau'r Cymry gyda'u cyfeillion newydd Rhys Roberts (gynt o Anweledig) a Dan 'Ffloss' Lawrence.
Rhwng rhyddhau Trwmgwsg ar label Crai yn 1998 ac Alien and Familiar yn 2003, teithiodd y Big Leaves ledled y wlad a chyrraedd anterth eu gyrfa gyda'r albwm Pwy Sy'n Galw yn y flwyddyn 2000 ar label Crai, gyda chaneuon fel Pryderus Wedd, Meillionen, Synfyfyrio a Seithenyn yn profi talent y ddau frawd i gyfansoddi caneuon pop crefftus.
Rhyddhaodd Sibrydion yr albwm diweddaraf, UwchBen y Drefn ar label Jig Cal yng Ngorffennaf 2011. Cafodd yr albwm adolygiadau da gyda chlod am "Yr amrywiaeth eclectig o ddulliau Cerddorol...gydag agoriad roc a rol sy'n gafael yn eich clustiau ac yn hawlio'ch sylw'. (MMP)
Aelodau
- Meilir Gwynedd: Gitar, llais
- Osian Gwynedd: Allweddellau, llais
- Rhys Roberts: Bas
- Dan 'Ffloss' Lawrence: Gitar, llais
- Dafydd Nant: Drymiau
Yn dilyn llwyddiant bandiau fel Catatonia, Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci tu hwnt i glawdd Offa, roedd gan sawl band yng Nghymru yn y cyfnod yma obsesiwn am lwyddiant yn y farchnad Saesneg (ystyriwch y cynnydd yn y nifer o grwpiau gydag enwau Saesneg ar ddiwedd y 90au).
Yn sydyn iawn doedd pobol ddim yn teimlo cywilydd cyfadde eu bod nhw am ganu'n Saesneg a thrio'i "gwneud hi" yn Lloegr. Doedd y Big Leaves ddim yn eithriad, ond er i Liam Gallagher ddweud mai'r g芒n Fine oedd ei hoff g芒n yn 2000, methodd y grwp greu digon o argraff ar y sin gerddorol rhyngwladol ac fe chwalodd yn 2003.
O bosib dyma sy'n gwneud s诺n y Sibrydion mor arbennig: gyda'r stigma o drio gwerthu recordiau i'n cymdogion estron wedi mynd, roedd y band yn swnio'n fwy hyderus, ac hefyd yn swnio fel petae'r brodyr jysd yn cael hwyl yn recordio.
Mae'r hwyl i'w glywed yn amlwg ar Blithdraplith - c芒n sy'n swnio fel ceffyl wedi'i wneud o hen kazoos yn carlamu trwy dwnel tanddearol i ddianc o wersyll carcharorion yn yr ail rhyfel byd.
Dilynodd y band yr albwm Jig Cal yn 2005 gyda Simsalabim (y ddau ar un o ganghennau asgell-chwith Sain, Rasal) yn 2007. Trwy ychwanegu Dafydd Nant (sydd hefyd yn aelod o Bob, ac efo Osh a Mei yn The Peth) ar y drymiau, roedd Osh yn rhydd i chwarae'r allweddellau, a magodd s诺n byw y band fwy o bwysau na'r hen fenyw 'na nath fyta pry, prycopyn, aderyn, cath, ci a chibab.
Roedd y brodyr unwaith eto yn eistedd yn hapus ar ben t诺r caws mawrion canu cyfoes Cymraeg.
Ond yn wahanol i'r tro diwethaf iddyn nhw fod ar y cader Caerffili yma, llwyddodd y band lle fethon nhw'r tro cynta pan ryddhawyd Campfire Classics ar label eu hunain, Delloroso, yn 2009.
Roedd cefnogaeth y wasg Brydeinig yn syfrdanol, gyda'r Times yn eu dewis fel cryno ddisg yr wythnos ac yn glafoerio "[Campfire Classics] kicks off with some spaghetti-western guitar - introducing another of the band's musical reference points - before exploding into the souped-up pop of Coupe de Grace (complete with delicious la-la-las) and the 1970s Beach Boys sound of Desperados, with honky-tonk piano, gloriously inappropriate fuzz guitar and a gorgeous, yearning chorus: 'This feeling - will it ever let me go?'".
Dywedodd y Guardian, "...an ultra-melodic Crazy Horse, an appealing blend of bubblegum and country... Lively and lovely", a'r Word yn clodfori "[a] peach of a record... the brothers decidedly gifted when it comes to strong tunes and neat arrangements."
Gyda'r peiriant pop Gwynedd yn annhebyg o redeg allan o st锚m yn fuan, mae'n siwr fydd na ddigonedd o ddefaid du, chiwawas a cheffylau kazoo yn cyrraedd ein clustie ni'n 'o fuan.
Huw Evans, o grombil morfil ym M么r yr Iwerydd
Newyddion
Sesiwn Fawr Dolgellau 2008
17 Mawrth 2008
Pnawn dydd Sul ar raglen Lisa Gwilym, fe gyhoeddwyd pwy fydd yn chwarae yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni!
Ennillwyr Gwobrau'r Ffatri Bop
30 Tachwedd 2007
Pwy enillodd beth ar y noson fawr, a chyfle i weld fideos arbennig o gefn y llwyfan.
Taith Sibrydion
25 Medi 2007
Sesiynau
Sibrydion
25 Hydref 2007
Sesiwn acwstig ar gyfer C2 - a fideo ohonyn nhw yn y stiwdio yn recordio un o'r traciau
Sibrydion
22 Mai 2006
Adolygiadau
Sibrydion
Awst 06, 2007
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
主播大秀 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.