'Caneuon sy'n llawer rhy gafaelgar i gael eu hanwybyddu -band rydych chi'n ei adnabod yn syth.' (SMR o'r MMP)
Sefydlwyd y band Indie-Roc ifanc yn haf 2007 gan Tomos a Sion Owens. Yna ymunodd Gwilym Rhys, (er ei fod prin yn gallu chwarae gitar ar y pryd), ond wedi ychydig o ymarfer, mentrodd y band a chymryd rhan ym Mrwydyr y Bandiau yn Galeri Gaernarfon a dod yn ail. Roedd hyn yn ddigon o sbardun i'r band barhau ac ymunodd Robin Jones fel drymiwr.
Aeth y band ymlaen i ennill ail ym Mrwydr y Bandiau Maes B 2008 ac yna ennill Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn yr un flwyddyn. Wedi hyn, aeth Y Bandana o nerth i nerth gan chwarae 40 gig yn 2009 a mwy yn 2010.
Yn 2011 rhyddhaodd y band yr albwm, Y Bandana ar label Copa gan ennill clod am yr alawon gafaelgar a phopaidd. Gwnaeth C芒n y T芒n yn arbennig daro deuddeg a chipio gwobr y G芒n Orau am 2011 yng Ngwobrau Y Selar.
Gyda thinc stor茂ol 'Belle and Sebastian' ac asbri'r 'Arctic Monkeys', mae yna synnwyr digrifwch amlwg yn eu caneuon yn arbennig Clywch Clywch Buwch, Anturiaethau Sali Mali a Siwgr Candi Mel.
Ymhlith dylanwadau cerddorol Y Bandana mae yna ystod eang o artistiaid sy'n cynnwys Led Zeppelin, Queen, Jimi Hendrix Experience ac eraill. Yn wir, mae'n braf gwrando ar gerddoriaeth llawn egni sy ddim yn ddiflas a sy ddim yn cymryd ei hun yn rhy ddifrifol. Hir Oes i Y Bandana!
Sesiynau
Caneuon Nadolig Sesiwn C2
Caneuon Nadoligaidd 芒 recordiwyd yn arbennig i C2.
Adolygiadau
Eraill
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
主播大秀 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.