'Band sy'n mynd i ddatblygu i fwy na hyn y gallan nhw ei ddychmygu nawr.' (Rhodri Llwyd Morgan)
Band roc ifanc o ardal Abertawe ydy Yr Angen. Enillodd y band gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 yn 2010 gan ddod yn fuddugol gyda'r g芒n Nawr Mae Drosto.
Aelodau'r band ydy Jac Davies (prif leisydd, gitar rythm), Jamie Price (gitar flaen), Gareth Jones (gitar fas) a David Williams (drymiau). Mynychodd holl aelodau'r band Ysgol Gyfun G诺yr yn Nhregwyr, Abertawe.
Pan yn rhoi eu beirniadaeth ar y bandiau yn y rownd derfynol, dywedodd Ian Cottrell fod Nawr Mae Drosto yn "hit radio enfawr.... hit stadiwm enfawr". Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan fod y band "wedi datblygu y tu hwnt i bob disgwyl". Ychwanegodd Bethan Elfyn: "Ma nhw'n fand cyffrous ar gyfer y s卯n a fyddwn i'n barod iawn i roi gr诺p fel yma mewn sesiwn gan eu bod yn swnio fel bod ganddyn nhw ganeuon a bod popeth yn barod i fynd."
Cyrhaeddodd y band rif 10 yn siart C2 yng Ngorffennaf 2010. Yn ystod haf 2010 chwaraeodd y band yn Yr Wythnos Fach i 主播大秀 Radio 1 , Maes B, G诺yl Bro Dinefwr a Sioe Frenhinol Cymru. Bu'r band hefyd yn recordio sesiwn ar gyfer C2, ac yn perfformio ar Faes B yn 2011. Chwaraeodd y band sesiwn acwstig i raglen Dodd Com ar C2 主播大秀 Radio Cymru yn Ebrill 2011.
Sesiynau
Sesiwn fyw Yr Angen yn arbennig i C2
21 Ebrill 2011
Sesiwn fyw a recordiwyd yn arbennig i raglen Dodd com.
Adolygiadau
主播大秀 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.