|
Newidiwyd diwethaf:
17
Mai
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am dîmÌýYr Eidal ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Grŵp E:
v Ghana 12 Mehefin 2000 BST, Hanover
v UDA 17 Mehefin 2000 BST, Kaiserslautern
v Y Weriniaeth Siec 22 Mehefin 1500 BST, Hamburg
Wedi'r Eidal ddod allan o'r het i wynebu Y Weriniaeth Siec, Ghana a'r UDA,Ìýdechreuodd yr wasg yn Yr Eidal ysgrifennu straeon negyddol dros ben am obeithion yr Azzurri
Yn ogystal â'r ffaith fod Y Weriniaeth Siec a'r UDA yn uwch ar restr detholion Fifa na'r Eidal, mae'r tîm fydd yn gorffen yn ail yn y grŵp yn mynd i orfod wynebu Brasil yn yr ail rownd.
OndÌýroedd eu hyfforddwr, Marcello Lippi, yn hyderus iawn gan ddatgan fod ei dîm â'r gallu i ennill eu grŵp ac osgoi Brasil.
Ond o gofio bod Yr Eidal yn dueddol o ddechrau pob pencampwriaeth yn araf, bydd yn ddifyr gweld ymateb eu carfan i'r angenrheidrwydd o orffen ar frig y grŵp.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Gwrthododd Yr Eidalwyr â chystadlu yn y bencampwriaeth cyntaf yn Wrwgwái ym 1930, ond er hyn, cawsant eu dewis i gynnal yr ail bencampwriaeth ym 1934.
Ac wedi ennill y tlws ar eu tomen eu hunain, llwyddodd yr Azzurri i amddiffyn eu coron yn Ffrainc ym 1938.
CafwydÌýblynyddoedd hesb yn ystod yÌý1950au a'r 1960au a methodd yr EidalÌýhyd yn oed â chyrraedd Cwpan y Byd 1958 yn Sweden.
Ym 1970, llwyddodd Yr Eidal i gyrraedd y rownd derfynol cyn colli yn erbyn Brasil ac ym 1982, llwyddodd Paolo Rossi i ysbrydoli'r Azzurri i'w trydedd buddugoliaeth.
Daeth Yr Eidal o fewn trwch blewyn i ennill unwaith eto ym 1994, ond, wedi gêm ddi-sgôr â Brasil,Ìýmethodd Roberto BaggioÌýy gic olaf o'r smotyn gan adael y Brasiliaid yn dathlu.
Sêr y tîm: Mae'r amddiffynnwr canol, Alessandro Nesta, wedi bod yn alweddol yn llwyddiant Yr Eidal yn y gemau rhagbrofol. Mae'n gyfforddus yn yr awyr, yn gyfforddus â'r bêl wrth ei draed ac mae ei gyflymder yn frawychus.
Profodd ymosodwr Fiorentina,ÌýLuca Toni, ei allu yn ystod y gemau rhagbrofol gyda'i goliau yn holl bwysig i'r Azzurri.
Barn Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd: Cafodd Yr Eidal bencampwriaeth siomedig tu hwnt yn 2002 felly byddent yn awyddus i wneud yn iawn am hyn, ac os yw'r garfan yn unedig, mae'r gallu ganddynt i ennill y bencampwriaeth.
|
|
|
|
|
|
|
|
Ìý Ìý Ìý
|
|
|
|
Dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|