Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 17 Mai 2006
Lloegr
Popeth fydd angen i chi wybod am dîm Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd 2006


Gemau Grŵp B:

v Paragwai
10 Mehefin 1400 BST, Frankfurt

v Trinidad a Tobago
15 Mehefin 1700 BST, Nuremburg

v Sweden
20 Mehefin 2000 BST, Cologne



Llwyddodd Lloegr i sicrhau eu lle yn Yr Almaen wrth orffen ar frig grŵp rhagbrofol oedd yn cynnwys Cymru a Gogledd Iwerddon.

Ond mae peryg i'w paratoadau ar gyfer Yr Almaen gael eu drysu oherwydd y sylwadau dadleuol a wnaed gan eu rheolwr Sven Goran Eriksson mewn papur newydd y ddiweddar.

Hanes yng Nghwpan y Byd:
Gyda chymorth y llumanwr o Azerbaijan, llwyddodd Lloegr i gipio Tlws Jules Rimet yn Wembley ym 1966.

Ond ers hat-trick Geoff Hurst a sylw treiddgar Kenneth Wolstenhome, nid yw'r Saeson wedi cyrraedd y rownd derfynol o unrhyw bencampwriaeth.

Daeth Bobby Robson a dagrau Gazza o fewn trwch blewyn i'r rownd derfynol yn Yr Eidal ym 1990, ac ym 1986 (v. Ariannin) a 2002 (v. Brasil), collodd Lloegr yn rownd yr wyth olaf yn erbyn y tîm aeth ymlaen i godi'r gwpan.

Sêr y tîm:
Er gwaethaf ei anaf, bydd Wayne Rooney yn gobeithio chwarae rhan yn Yr Almaen ac adeiladu ar ei berfformiadau ym Mhortiwgal yn ystod Ewro 2004 a sicrhau ei le fel un o wir sêr y byd pêl-droed.

A thra bo David Beckham eisoes yn enwog ym mhob cwr o'r byd, bydd yn fwy penderfynol nag erioed o arwain Lloegr ymhellach na rownd yr wyth olaf.

Barn Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd:
Gyda'r cryfder sydd yn bodoli yng ngharfan Lloegr fe ddylai'r Saeson gyrraedd rownd yr wyth olaf heb unrhyw broblem ... ond mae'n debygol bydd Brasil yn eu disgwyl yn y rownd gynderfynol.


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Ìý
Y Timau
Ìý


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý