主播大秀

叠谤眉苍辞 - ffasiwn greadigaeth Sacha Baron Cohen

Bruno

18Dwy  seren

  • Y S锚r: Sacha Baron Cohen, Gustaf Hammersten.
  • Sgwennu: Sacha Baron Cohen, Anthony Hines, Dan Mazer, Jeff Schaffer
  • Cyfarwyddo: Larry Charles.
  • Hyd: 83 munud

Dychan braidd yn hen ffasiwn!

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Am ffilm gymharol fer, mae eistedd trwy ddangosiad o 叠谤眉苍辞 yn teimlo fel oes gyfan o ofyn, "Be nesa?"

Yn fras, dilynwn yr arbenigwr ffasiwn 叠谤眉苍辞 ar daith i ennyn enwogrwydd rhyngwladol, o gyflwyno rhaglen deledu yn Awstria, i gael ei wahardd o wythnos ffasiwn Milan, hyd at ei ymdrechion i greu argraff yn America, Israel a Libanus.

Gydol y ffilm, cawn ein "diddanu" gan gyfres o olygfeydd sy'n dathlu rhywioldeb a steil unigryw y fashonista di-glem wrth iddo geisio penderfynu pa achos i'w gefnogi - naill ai achub Darfur, neu arafu'r Cynhesu Byd-Eang.

Cwpwrdd dillad

Cawn gipolwg ar gwpwrdd dillad sy'n cynnwys popeth o lederhosen melyn i'r diweddara mewn Hassidic-chic, a phrofwn bob modfedd o anatomi yr Awstriad allblyg, sy'n ystyried babi bach croenddu gystal accessorymanbag-y-mis!

Heb ddatgelu gormod, bydd y rhai hynny a wirionodd ar reslo noeth Borat; Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan (2006) wrth eu boddau yn gweld Bruno yn ymaflyd 芒 pheiriannau, Pygmys, a phersonoliaethau o bob math.

Ond bydd sawl sy'n disgwyl ffilm 'well' nad yw'n dibynnu ar yr un hen driciau a'r hiwmor creulon sy'n llwyr ddibynnol ar haelioni ac ewyllys da cyfres o "gynghorwyr" diniwed, yn wynebu siom enbyd.

Syniadau a dawn

Does dim dwywaith bod Baron Cohen yn sgwennwr 芒 chanddo syniadau ac yn actor dewr sydd 芒 dawn amseru comig naturiol ac yn gwirioni ar groesi'r llinell.

Mae'r rhain oll yn hanfodion ar gyfer sgwennu a pherfformio sgetsus cyfoes llwyddiannus a dyna sut y saethodd y Llundeiniwr i stratosffer y selebs ar 么l cyflwyno'r cymeriadau eiconig Ali G, Borat a 叠谤眉苍辞 yn Da Ali G Show 'n么l ar droad y Mileniwm.

Trueni felly nad yw'r syniadau hynny wedi datblygu o gwbl ers bron i ddegawd - i'r graddau y byddai ail ddangosiad o ffilm gomedi Ben Stiller, Zoolander - am male-model di-glem - a ryddhwyd n么l yn 2001yn cael yn union yr un effaith ar gynulleidfa ac a gaiff 叠谤眉苍辞, os nad mwy.

Mae pob un o gymeriadau Baron Cohen yn herio rhagfarnau ac anwybodaeth yn ymwneud 芒 hiliaeth, crefydd a rhywioldeb, ac o fewn ffiniau sgets neu raglen deledu hanner awr maen nhw'n gweithio'n wych, wrth wawdio'r pennau bach a'r ffyliaid dan sylw.

Ond mae ffilm yn gyfrwng pur wahanol, ac yn mynnu gweledigaeth gadarn, stori gref a phrif gymeriad y gall y gynulleidfa uniaethu rywfaint ag ef neu hi ac ymateb yn emosiynol iddi.

Yn rhan o'r j么c

Mae'n wir fod 叠谤眉苍辞 yn annog ton ar 么l ton o gywilydd, anghrediniaeth a difyrrwch achlysurol ond un o brif broblemau'r ffilm, i mi yn sicr, oedd y teimlad trosgynnol fod pob cyfrannwr bellach yn rhan o'r j么c a bod y j么c ei hun wedi hen gyrraedd ei phwynt dirlawn.

Am ffilm sydd yn gwneud hwyl am ben gwacter arwynebol y byd adloniant, mae na rywbeth hynod anghynnes mewn gweld cameos cyfoglyd gan 眉产别谤-肠别濒别产蝉 fel Bono, Chris Martin ac Elton John. Ond dyna ni - beth arall ellid ei ddisgwyl gan ddiddanwr sy bellach yn byw yn Hollywood?

Sori 叠谤眉苍辞, ond mae cyfathrachu 芒 Coldplay mor 2005.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.