主播大秀

Crazy Heart

Jeff Bridges

12 Mawrth 2010

Lowri Haf Cooke yn adolygu'r ffilm a enillodd Oscar yr actor gorau i Jeff Bridges 2010

15Pedair   seren

  • Y S锚r: Jeff Bridges, Maggie Gyllenhaal, Colin Farrell a Robert Duvall.
  • Cyfarwyddo: Scott Cooper Marshall.
  • Sgrifennu: Addasiad Sgript Scott Cooper o nofel Thomas Cobb.
  • Cerddoriaeth: T-Bone Burnett a Stephen Bruton.
  • Hyd: 112 munud

Derbyn ei haeddiant

Adolygiad Lowri Haf Cooke

O'r diwedd, bron i ddeugain mlynedd ar 么l derbyn ei enwebiad Oscar cyntaf, mae Jeff Bridges wedi ennill y wobr sy'n cadarnhau ei statws fel actor gorau ei genhedlaeth - a hynny am chwarae cymeriad go gyfarwydd.

Bad Blake yw'r gwrth-arwr gaiff ei bortreadu gan Bridges yn Crazy Heart; canwr gwlad oedrannus sydd wedi hen ffarwelio 芒'i gyfnod euraidd ac yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn teithio pellteroedd maith er mwyn chwarae mewn bariau diddim i eneidiau colledig eraill.

Byw'r ystrydeb

Yn yfwr trwm, mae Bad yn byw ar amynedd a thrugaredd yr ychydig sy'n ei gofio pan oedd ar ei anterth ac yn gwrthod yn l芒n 芒 derbyn cyngor ei reolwr i ddechrau sgwennu unwaith yn rhagor, er mwyn ennill cytundeb anferth gyda'i 产谤辞迟茅驳茅 Tommy Sweet - seren ddisgleiriaf s卯n arwynebol Nashville erbyn hyn

. Mae e'n byw'r ystrydeb a'i ganeuon yn cofnodi'r bywyd caled greodd iddo'i hun dan yr argraff mai dyna sy'n gwneud canwr gwlad go iawn.

Ond pan ddaw y newyddiadurwraig ifanc Jean Craddock (Maggie Gyllenhaal) i'w holi ar gyfer portread mewn papur lleol, caiff Bad ei drywanu gan wirioneddau mawr a sylweddoli am y tro cyntaf pa mor wag yw gwadu byw.

Oes na obaith o achubiaeth i'r hen ddyn drwg ynteu ydy hi'n rhy hwyr iddo wneud yn iawn am gamgymeriadau'r gorffennol?

Heb fod yn gwbl wreiddiol

Nid stori cwbl wreiddiol mo Crazy Heart ac y mae iddi ambell i gyffyrddiad go gawslyd, gyda rhannau sylweddol o'r cynhyrchiad yn dwyn i gof The Wrestler - ffilm a greodd argraff fawr y llynedd, diolch i berfformiad trydanol Mickey Rourke.

Fodd bynnag, yr hyn sydd yn ganmoladwy yw'r gerddoriaeth ffantastig gan T-Bone Burnett a'r diweddar Stephen Bruton a pherfformiadau cynorthwyol caboledig gan Maggie Gyllenhaal, Colin Farrell a Robert Duvall, fel angylion amrywiol "Bad" Blake.

Mae'r ffilm yn ennill marciau ychwanegol am dro annisgwyl o onest yn y stori a phrif g芒n y tu hwnt o deimladwy, The Weary Kind gan Ryan Bingham a gipiodd Oscar am g芒n wreiddiol orau 2010. Enillydd haeddiannol iawn.

Yn naturiol, mae'r cl么d mwyaf yn mynd i Bad Blake ei hun ac afraid dweud fod Jeff Bridges yn cynnig perfformiad gwych fel actor ac fel cerddor.

Cyson wych

Ac mae'n deg nodi hefyd ei fod ymhlith yr ychydig actorion sydd wedi cyflwyno perfformiadau cyson wych gydol ei yrfa - mewn ffilmiau fel The Last Picture Show, Starman, The Fisher King, The Big Lebowski, a - fy ffefryn personol i - The Fabulous Baker Boys.

Yn actor cynnil mae'n grefftus, didwyll a diymhongar hefyd ac wedi chwarae cymeriadau amrywiol ar hyd ei yrfa gan lwyddo'n gynnar iawn i oresgyn cyhuddiadau o ffafriaeth fel mab i'r actorion Lloyd a Dorothy Dean Bridges.

Gwir fod Bad Blake yn gymeriad sinematig lled gyfarwydd y gwelsom ei debyg droeon o'r blaen ond Jeff Bridges sy'n sicrhau ein cydymdeimlad o eiliadau cynta'r ffilm, ac ef a'i berfformiad ysgubol yw gwir galon Crazy Heart.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.