主播大秀

Yr holi mawr

Martin Sheen a Frank Langella

26 Ionawr 2009

Frost / Nixon

Troedio llwybrau dynwared a dehongli

15Pedair seren

Adolygiad gan Glyn Evans

Actorion: Michael Sheen, Frank Langella, Kevin Bacon.

Cyfarwyddwr: Ron Howard.

Sgrifennu: Drama lwyfan gan Peter Morgan .

Hyd: 120 munud.

Gyda'r cyfweliad go iawn a deledwyd yn 1977 yn dal ar gael i'w weld diau y bydd sawl un yn holi pam mynd i weld y ffilm Frost / Nixon. Fy ngobaith oedd y byddai'n cynnig mwy na'r cyfweliad moel hwnnw sydd yn afaelgar ddigon ynddo'i hun.

Ac i Gymro yr oedd y diddordeb ychwanegol o weld Michael Sheen o Gasnewydd, Gwent, yn chwarae rhan Frost.

Mae pob math o drafferthion gyda'r math yma o ffilm - a'r ddrama lwyfan hynod lwyddiannus y seiliwyd hi arni - nid lleiaf amwysedd y ffin honno rhwng yr hyn a ddigwyddodd yn go iawn ar un ochr a ffrwyth dychymyg awdur yn ceisio troi hynny yn brofiad ar lwyfan neu ar sgrin ar yr ochr arall.

Rhan allweddol o'r broblem honno yw sut y mae'r actorion i chwarae rhannau'r cymeriadau.

Dynwared a dehongli

Yr hyn a gawn yma yw dau lwybr gwahanol gan ddau actor wrth iddyn nhw ymdrechu am lwybr canol rhwng dynwared a dehongli gyda'r pwyslais fwy ar ddynwared o safbwynt Sheen ond fwy ar ddehongli o safbwynt Frank Langella fel Nixon.

Bosib mai un rheswm am hynny yw fod mwy o debygrwydd corfforol rhwng Sheen a Frost na rhwng Langella a'r diweddar Arlywydd Richard Nixon gyda Sheen yn amlwg wedi gwneud ymdrech arbennig nid yn unig i feistroli llais Frost ond hefyd ei ystumiau corfforol.

O gau eich llygaid, gellid taeru ar adegau mai'r Frost ifanc circa 1977 sy'n wir yn siarad.

Ond er cystal yw Sheen, o bosib mai'r pwyslais ar yr elfen ddynwaredol hon sy'n cyfrif mai Langella ac nid Sheen sydd wedi ei enwebu am Oscar.

Mynd dan groen

Wrth gwrs mae gan Langella fwy i gael ei ddannedd ynddo gyda'r 'dyn drwg' bob amser yn fwy diddorol ac yr oedd yr angen yn fwy, wrth gwrs, i fynd dan groen Nixon. Mwy o gwestiynau i'w gofyn.

Er bod y tebygrwydd corfforol yn llai - yn un peth, sylwer ar ddwylo mawrion Langella o'u cymharu 芒 dwylo digon merchetaidd Nixon - mae ei berfformiad yn feistraidd er nad yn adlewyrchu'n agos union ymddangosiad Nixon na'i osgo yn ystod y cyfweliad a deledwyd.

Wrth gwrs, mae dulliau cynhyrchu a chrefft camera yn rhoi iddo fwy o bresenoldeb a'i gamp fawr yw creu ar sgrin gymeriad yr ydych yn cael eich swyno i gydymdeimlo ag ef un munud tra'n sylweddoli ei fod ar yr un pryd yn fwystfil dichellgar, hunanol, tywyllodrus ac ariangar ar y llaw arall.

Go brin bod angen egluro mai'r cefndir yw ymddiswyddiad Nixon yn dilyn sgandal Watergate, 1974 - digwyddiad a roddodd yr olddodiad gyda'r mwyaf cyffredin ei ddefnydd, gate i'r iaith Saesneg.

Ond er i Nixon ymddiswyddo yn dilyn y sgandal hwnnw wnaeth o ddim cyfaddef iddo wneud unrhyw ddrwg llai fyth ymddiheuro o gwbl - dim ond encilio i lyfu ei glwyfau yng Nghaliffornia.

Ac yno yn ei gartref , La Casa Pacifica y mae o yn 1977 yn ystyried sgrifennu ei hunangofiant ac yn chwilio am rhyw ffordd i adfer ei hun gerbron ei bobl.

Ffordd yn 么l i'r heulwen

Yr un pryd mae'r darlledwr David Frost yn wynebu trai poenus ei yrfa yntau gan ysu am ffordd i'w hadfer. Mae'n taro ar y syniad o gynnal cyfres o gyfweliadau teledu gyda Nixon gan obeithio dinoethi'r cyn Arlywydd gerbron y byd a'i gael i syrthio ar ei feiau.

Hwn fyddai'r treial na chafodd Nixon mewn llys barn.

Er mawr syndod iddo mae Nixon yn cytuno - ond am resymau cwbl hunanol gan ei fod yn tybio y byddai holwr meddal fel Frost - llai deallus nag ef ei hun - yn ei alluogi i reoli'r cyfan er ei les ei hun.

"It will be a long wet kiss," yw'r darogan gyda'r Cyrnol Jack Brennan (Kevin Bacon) pennaeth staff Nixon yn ei argyhoeddi:

"Dydi Frost ddim yn yr un cae a chi o ran gallu, Syr. Fe fyddwn ni'n adfer eich enw da. Mae'r syniad yn j么c," meddai'n hyderus am gynllun Frost.

Ond mae Frost hefyd yn dipyn o dderyn a'r un mor benderfynol o ddod allan ohoni orau ac megis dau ymladdwr mewn sgw芒r bocsio y mae'r ddau yn wynebu ei gilydd gyda'r holl herian meddyliol ac ymenyddol rhagbaratoawl ag sy'n bresennol cyn ffeit fawr.

Yn hen wleidydd cadnoaidd o hil gerdd mae Nixon yn sylweddoli'n iawn beth yw'r wobr:

"Mae'r ddau ohonom yn chwilio am ffordd yn 么l i'r heulwen - ond ni all y goleuni ond disgleirio ar un ohonom," meddai.

Tyndra a gwrthdaro

Mae gwylio'r rhagbaratoi yn y naill wersyll a'r llall - a hefyd ymdrechion Frost, sy'n ymylu ar yr amhosib, i godi arian i dalu am yr holl fenter yn wefreiddiol.

Llwydda Peter Morgan i greu tyndra a gwrthdaro arbennig nid yn unig rhwng y ddau wersyll ond o fewn y gwersylloedd hefyd.

Mae Oliver Platt a Sam Rockwell yn arbennig fel ymchwilwyr Frost a'u bryd ar groeshoelio Nixon gerbron y bobl. Yr unig ddau o bosib a chymhellion anrhydeddus.

Chwaraeir cyfaill Frost a chynhyrchydd y fenter, John Birt a ddaeth flynyddoedd wedyn yn bennaeth y 主播大秀, gan Matthew Macfadyen.

Er y gwyddom beth fu'r canlyniad; yn wyrthiol bron dydi hynny ddim yn tynnu oddi ar y ffilm ac mae'r ymrafael rhwng y ddau brif gymeriad yn ystod cyfnod yr holi y tu hwnt o fendigedig diolch i sgript ffraeth - a doniol ar adegau - Morgan sy'n osgoi'r demtasiwn o gyfleu Frost fel marchog gwyn wyneb yn wyneb 芒 dihiryn du.

Na, dyw'r Frost, seimllyd, benchwiban ddim yn gymeriad hoffus.

Ond yn nehongliad Langella o Nixon y mae'r ffilm hon yn rhagori ac er nad yw Langella yn adlewyrchiad ffeithiol gywir o'r Nixon a welwyd yn y cyfweliadau go iawn y mae'n llwyddo i gyfleu cymeriad gwirioneddol astrus ar gyfer y cynhyrchiad hwn; yn crwydro ar draws y sgrin fel rhyw arth fawr. Yn glwyfedig, yn ystrywgar ac yn dediberaidd yn eu tro.

llinellau da

Mae o yn wych - ac wedi cael llinellau gwych i'w dweud gan Morgan.

Wrth hel atgofion am ymweliad Arlywydd Rwsia 芒'r Unol Daleithiau ychwanega'n anfwriadol eironig:

"Fyddwn i ddim eisiau bod yn Arlywydd Rwsia - dydyn nhw byth yn gwybod pryd maen nhw'n cael eu tapio . . ."

O ran osgo ac actio mae hwn yn llawer mwy ac yn llawer gwell na'r dynwarediad a allai fod.

Ond er bod y ffilm yn ymffrostio yn ei henwebiadau Oscar mae'n amheus a fydd o ran cyfanwaith yn ennill gwobr - ar wah芒n i berfformiad Langella.

Dydi'r syniad o ymgiprys Dafydd a Goliath a addewir ddim yn cael ei wireddu a chamgymeriad yn sicr yw'r cyfweliadau dogfennol syth i gamera gyda'r prif gymeriadau. Torri ar rediad y ffilm yn hytrach nag ychwanegu ati maen nhw.

Pa mor ddifrifol

Dydw i ddim yn si诺r ychwaith a lwyddir i gyfleu, i genhedlaeth y mae'r hanes yn ddieithr iddi, gymaint oedd trosedd Nixon - ac yr oedd yn ddiddorol sylwi mai rhai o'r genhedlaeth a fyddai'n cofio'r helynt oedd pob copa walltog yn y dangosiad a welais i.

Ac y mae'n rhaid holi a wnaed y defnydd gorau o Rebecca Hall fel Caroline Cushing - cariad a 'bigodd Frost i fyny' ar yr awyren ar y ffordd i'r Unol Daleithiau - yn enwedig a hithau'n yn cael ei disgrifio fel "one of the world's most intriguing young talents"!

Go brin bod Frost / Nixon yn cadarnhau hynny, er gwaethaf ei gw锚n barhaus.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.