主播大秀

Mr Nice

Rhys Ifans yn y ffilm

29 Mehefin 2010

Golwg rhag blaen yng Nghaeredin o ffilm ddiweddaraf Rhys Ifans

15Pedair seren allan o bump

  • Y S锚r: Rhys Ifans, Chlo毛 Sevigny, David Thewlis, Omid Djalili, Jack Houston, Crispin Glover, William Thomas, Sara Sugerman, Luis Tosar.
  • Cyfarwyddo: Bernard Rose.
  • Sgrifennu: Addasiad Bernard Rose o'r hunagofiant "Mr Nice" gan Howard Marks.
  • Hyd: 120 munud

Rhys Ifans yn gwneud ei farc

Adolygiad Lowri Haf Cooke

A minnau newydd newydd ganmol Rhys Ifans am berfformiad didwyll a diymhongar fel ffrind gorau Ben Stiller yn Greenberg, ro'n i ar bigau'r drain i'w weld fel Howard Marks yn yr addasiad hir ddisgwyliedig o'r hunangofiant Mr Nice, a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ng诺yl Ffilm Ryngwladol Caeredin 2010.

Yn un peth, dyma'r tro cyntaf i'r actor o Ruthun gael gafael ar brif ran mewn ffilm sylweddol ers ei berfformiad caboledig fel Peter Cook yn Not Only But Always yn 2004- er iddo ddwyn sawl ffilm o dan drwynau eraill, diolch i'w dalent annhymig i sgleinio yn y ffilmiau salaf - gan gynnwys The Boat That Rocked y llynedd.

Sut goblyn?

Ro'n i ymhlith y miloedd o fyfyrwyr a fwynhaodd bob gair o gofiant afieithus y smyglwr cyffuriau o Fynydd Cynffig pan gafodd ei chyhoeddi ym 1997 - cyfrol am ei dwf anhygoel yn grwt o'r Cymoedd aeth yn fyfyriwr i Rydychen cyn datblygu'n ffigwr dylanwadol yn y farchnad Marijuana rygwladol y 70au a'r 80au, hyd at y cwymp anochel, pan gafodd ei garcharu am gyfnod sylweddol yng ngharchar Terre Haute, Indiana ddiwedd yr Wythdegau.

Howard Marks

Ond rhaid cyfadde, ar 么l ailddarllen y ddiweddar, dechreuais amau sut goblyn y gallai Bernard Rose a'i griw gynnwys y cyfan mewn un ffilm.

O weld y ffilm , rhaid dweud nad oedd fy amheuon yn gwbl ddi-sail.

Fel yn y gyfrol, natur episodig sydd i'r cynhyrchiad sy'n hercian yn gronolegol o un bennod hwyliog ym mywyd Marks i'r llall.

Yn wahanol i'r llyfr, fodd bynnag, nid cyfnod o adlewyrchu mewn cell yn Terre Haute sy'n fframio'r ffilm ond ymddangosiad gan Marks ar lwyfan theatr gyda'i gefn tuag atom yn paratoi i ddiddanu'r awditoriwm gorlawn o'i flaen.

Ac i fod yn deg, dros y ddwyawr nesa, wrth iddo'n tywys ar hyd ei fywyd hyd yma, dyna - ar y cyfan - a gawn.

Du a gwyn

Cyflwynir, mewn du a gwyn, gyfnod cynharaf Howard - fel bachgen ysgol lled ddireidus gaiff ei fwlio am fod yn ddeallus ac yn dda-i-ddim ar y cae rygbi, cyn cael ei dderbyn i Brifysgol Rhydychen er mawr lawenydd i drigolion pentre Garw.

Ond, yn addas iawn o ystyried safbwyntiau cadarn yr athronydd 'alternatif', unwaith iddo gael cyflwyniad i'r cyffur gan ei gyd fyfyrwyr yng ngholeg Balliol, mae'r ffilm yn trawsnewid yn antur amryliw gan ddatblygu'n caper cartwaidd a chanmoliaethus o fywyd gwallgo'r Cymro carismataidd.

Wrth i'r cynhyrchiad egluro llwybr damweiniol Marks ar y briffordd i ddrwgenwogrwydd cyfarfyddwn 芒 nifer o brif gymeriadau'r hunangofiant gyda phob un ohonynt yn chwarae rhan allweddol yn rhwydwaith ryngwladol Marks .

Ymysg y rhain y mae Malik (Omid Djalili) yr allforiwr hashish arhydeddus ym Mhacistan; y mewnforiwr yn Iwerddon - Jim 'The Kid' McCann (David Thewlis); y cyflenwr Califforniaidd, Ernie Combs o'r Brotherhood of Eternal Love (Crispin Glover); ei gyd-fyfyrwir a'i gyswllt M16, Hamilton McMillan (Christian McKay); ei wraig ffyddlon Judy Marks (yr Americanes Chlo毛 Sevigny), a'i elyn penna, yr heliwr di-flino, Craig Lovato o'r DEA (Luis Tosar, a welwyd ddwetha fel penaeth cartel cyffuriau yn Miami Vice!)

Hwyl aruthrol

Does dim dwywaith fod na hwyl aruthrol ar hyd y ffordd ac mae actio pawb - gan gynnwys nifer o Gymry, fel William Thomas fel Tad Marks - yn rhagorol.

Roeddwn wedi edrych ymlaen yn aruthrol at gael gweld pwy fyddai'r dyn i bortreadu un o'r cymeriadau mwyaf cofiadwy, sef Jim McCann, yr aelod IRA honco bost o Belffast a chefais i mo'n siomi, diolch i tour de force gan yr actor Seisnig David Thewlis, sy'n gyfarwydd i nifer bellach fel Remus Lupin yn y gyfres Harry Potter.

Yn ogystal 芒 thrac sain diddorol gyda sg么r wreiddiol gan Philip Glass, ceir defnydd helaeth o effeithiau arbennig gan gynnwys delweddau tafluniol slo-mo wedi'u tintio i gyfoethogi'r golygfeydd "dan ddylanwad".

Am resymau golygyddol, bu'n rhaid i'r sgwennwr gyfarwyddwr - sydd hefyd yn gyfrifol am y gwaith camera hynod drawiadol mewn lleoliadau mor amrywiol 芒 Bae Caerdydd, Abertawe ac Alicante - hepgor sawl cymeriad a chywasgu rhannau sylweddol gan gynnwys carchariad cytaf Marks, a'i ddelio diweddarach y Dwyrain Pell - yn ogystal 芒 throi dwy wraig yn un, yn achos Judy.

Er y gellir maddau'r newidiadau hyn rhaid cyfadde imi gael fy siomi'n enbyd gan y ffaith na threuliwyd braidd ddim o'r cynhyrchiad yn cydbwyso effaith ei ddedfryd lawdrom ar ei deulu nac arno ef er bod hynny'n digwydd yn y gyfrol.

Heb chwistrelliad da o'r elfen ddynol yma mae'r gwrth arwr o'r Garw ar adegau yn dioddef o dd么s go hegar o fegalomaia a bod mewn peryg o droi'n dipyn o ben bach erbyn diwedd y ffilm.

Fflach o ddireidi

Wrth lwc, mae'r fflach hollbresennol o ddireidi yn llygaid Rhys Ifans yn ein hatgoffa mai dihangfa ac nid dedfryd yw dwyawr mewn sinema a does dim dadl fod yr actor ar ei orau yma, mewn rhan sy'n ei siwtio i'r dim.

Roedd yr ymateb yng Nghaeredin i'r ffilm yn ffafriol tu hwnt a bydd yn ddiddorol iawn gweld sut dderbyniad gaiff y cynhyrchiad pan gaiff ei rhyddhau'n genedlaethol yn yr Hydref.

Serch eu poblogrwydd gyda chynulleidfaoedd, dydy comed茂au ddim yn tueddu i gipio llawer o gongs adeg y tymor gwobrwyo ond yn fy marn i mae perfformiad Ifans o'r un safon 芒'i bortread o Peter Cook a rnillodd wobr BAFTA iddo bum mlynedd yn 么l.

Ac yntau wedi hen sefydlu'i hun fel actor cynorthwyol gwerth ei halen yn Hollywood, mae'n braf iawn ei weld yn dychwelyd i Gymru i serennu mewn cynhyrchiad sy'n gwneud y gorau o gyfaredd a charisma y talent aruthrol o Ruthun.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.