主播大秀

A Prophet (Un Proph猫te)

Golygfa o'r ffilm

09 Chwefror 2010

18Pedair seren

  • Y S锚r: Tahar Rahim, Niels Arestrup.
  • Cyfarwyddo: Jacques Audiard.
  • Sgrifennu: Thomas Bidegain a Jacques Audiard, yn seiliedig ar sgript wreiddiol Abdel Raouf Dafri a Nicolas Peufaillit.
  • Hyd: 155 munud

Ffilm garchar - ond yn wahanol

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Ma na ambell ffilm sy'n datblygu rhyw fomentwm rhyfeddol yn gynnar iawn yn ei hoes, ac yn wir, clywais ganmoliaeth wresog i Un Proph猫te ymhell cyn iddi gael ei rhyddhau yma yng Nghymru.

Creodd gryn argraff ar gynulleidfaoedd G诺yl Ffilm Cannes y llynedd gan golli, o drwch blewyn mae'n debyg, i archwiliad Michael Henke o wreiddiau Nats卯aeth yn White Ribbon am y Palme D'Or.

Mae hi'n wynebu'r un gystadleuaeth am yr Oscar y ffilm estron orau eleni ac er nad ydw i'n rhagweld yr aiff y ffilm Ffrengig 芒 hi mae hi'n sicr yn un gwerth ei gweld.

Os mai gangster films yw eich dileit, efallai y bydd diddordeb gennych glywed i sawl un gymharu Un Proph猫te a The Godfather gan mai dilyn y mae daith anochel dyn ifanc i uchelfannau'r isfyd trais a thor-cyfraith.

Ond o ystyried iddi gael ei gosod mewn carchar, efallai y byddai'n werth crybwyll Hunger, The Shawshank Redemption, a chyfres ddiweddar Mesrine yn gefndryd creadigol iddi hefyd.

Diwrnod cyntaf

Cyfarfyddwn arwr y ffilm - dyn ifanc o'r enw Malik El Djebena - ar ddiwrnod cyntaf ei ddedfryd o chwe blynedd mewn carchar Ffrengig cyfoes.

Yn blentyn amddifad, anllythrennog, i rieni o dras Mwslimaidd fe'i magwyd yn bennaf mewn cyfres o sefydliadau i droseddwyr ifainc.

Mae heb neb i ofalu amdano o fewn i'r carchar - a'r tu allan.

O fewn dim, manteisia Capo'r carcharorion - gangstyr o Gorsica o'r enw C茅sar Luciani (Niels Arestrup) - ar y sefyllfa hon a "gwahodd" Malik i dderbyn cynnig amhosib i'w wrthod; yn syml, llofruddio carcharor arall - dyn o'r enw Reyeb - a thrwy hynny sicrhau ffafriaeth a gwarchodaeth Luciani.

Hynny, neu wynebu ei farwolaeth ei hun.

Er na chawn wybod y rheswm y tu 么l i'w ddedfryd gwyddom, o ymateb Malik i'r her hunllefus, nad llofrudd mohono o ac mae traean gynta'r ffilm yn llawn tensiwn wrth inni wylio'r paratoadau torcalonnus ar gyfer ei fedydd t芒n.

Cael ei dderbyn

Ond cynydda hyder Malik wrth iddo gael ei dderbyn i griw Luciani a datblygu rhwydweithiau busnes newydd trwy wersi darllen y carchar.

Ond fel y gwelwn, mae chwarae'r ffon ddwybig yn profi'n g锚m beryglus iawn a rhaid i Malik droedio'n ofalus iawn os yw am dorri'n rhydd o'r mentor melltigedig a chreu dyfodol cadarn iddo'i hun.

Heb ddatgelu dim rhagor, hoffwn eich sicrhau fod Un Proph猫te ymhlith y ffilmiau mwyaf cynhyrfus i mi ei gweld ers tro ac er ei bod dros ddwyawr a hanner wnes i ddim diflasu unwaith.

Teitl amwys

Efallai i'r crynodeb uchod awgrymu stori garchar weddol ystrydebol ond mae iddi elfennau cwbwl annisgwyl gan gynnwys is-stori uwch-naturiol sy'n ychwanegu haenen athronyddol i'r cynhyrchiad ac yn cynnig eglurhad posib am y teitl amwys.

Ceir cyfarwyddo cadarn gan Jacques Audiard sy'n llwyddo i gynnal y tensiwn trosgynnol drwyddi draw ac mae'r actio naturiolaidd gan bob aelod o'r cast yn gaboledig - yn enwedig gan Tahar Rahid fel Malik, sy'n llwyddo i ennill teyrngarwch y gynulleidfa o'r cychwyn cynta.

Yn sylfaenol, mae Un Proph猫te yn ffilm sy'n dathlu'r ysfa reddfol i oroesi yn wyneb pob anhawster.

Ni chafodd Malik sylfaen werth s么n amdani mewn bywyd ond, yn eironig ddigon, mewn carchar pwdr caiff y rhyddid i benderfynu pwy yw yn go iawn - ac i ddewis ei ffawd ei hun.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.