主播大秀

The Rebound

Catherine Zeta-Jones a  Justin Bartha

28 Gorffennaf 2010

15Tair seren allan o bump

  • Y S锚r: Catherien Zeta-Jones, Justin Bartha, Megan Byrne, Andrew Cherry,Art Garfunkel a Joanna Gleason
  • Cyfarwyddo: Bart Freundlich.
  • Sgrifennu: Bart Freundlich.
  • Hyd: 94 munud

Cariad i Catherine

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Mae na snobyddiaeth mawr ymhlith beirniaid ffilm sy'n deddfu fod y rhan fwyaf o ffilmiau am ferched yn haeddu disgrifiad dilornus y "chick-flick" ac felly'n haeddu llai o s锚r am fod o "lai o sylwedd".

Ymhell cyn iddi agor yma, darllenais bethau go druenus am The Rebound - rom-com ddiweddara Catherine Zeta-Jones - a rhaid dweud ro'n i'n reit anfodlon wrth fynd i'w gweld yn pan agorodd hi dros y penwythnos.

Diddanu

Ond, er ei bod ymhell o fod yn glasur, mae The Rebound yn cynnwys digon o elfennau ffafriol i'n diddanu am ei hawr a hanner, gan gynnwys perfformiad naturiol iawn gan y Gymraes garismatig.

Yn wahanol i nifer o ffilmiau tebyg, sefydlir y stori sylfaenol yn syth bin, wrth i'r fam brysur Sandy Foster (Cartherine Zeta-Jones) fynd 芒'r plant i fyw yn Efrog Newydd ar 么l darganfod bod ei g诺r yn cael aff锚r.

Ar yr un pryd, dilynwn stori Aram Finklestein (Justin Bartha, priodfab The Hangover yn 2009) - dyn tipyn iau sy newydd ysgaru oddi wrth ei wraig Ffrengig, ac sydd wedi symud n么l gyda'i rieni Iddewig (Art Garfunkel a Joanna Gleason), sy'n gegrwth ei fod yn gweithio mewn caffi serch ei radd da.

Fel pob ffilm ramantus gwerth ei halen, mae'r meet-cute rhwng y ddau 诲颈惫辞谤肠茅别 yn digwydd yn y caffi dan sylw, ac yn fuan ar 么l hynny, caiff Aram ei berswadio i garco'r plantos tra bo Sandy yn diodde d锚t trychinebus 芒 chiropodydd cawslyd.

Gan godi cywilydd mawr ar ei rieni, daw Aram yn Manny llawn amser i'r plantos tra bo Sandy yn dychwelyd i weithio ac ymhen hir a hwyr mae rhamant rhyngddynt.

Y 'broblem' ydy fod Sandy bymtheng mlynedd yn h欧n nag Aram ac er nad yw'r actorion yn edrych yn rhy wahanol o ran oed - gyda Catherine yma'n ymddangos yn fwy naturiol dlws nag erioed o'r blaen - ymddengys fod hyn yn ddigon o argyfwng i'n tywys i ran olaf sy'n anffodus o felodramatig a fformiwlaig.

Ysgafnder hyfryd

Tan hynny, fodd bynnag, am ddwy ran o dair o'r ffilm, mae The Rebound yn ffilm ag iddi ysgafnder hyfryd, diolch i berfformiadau disglair gan Megan Byrne ac Andrew Cherry, fel y plant bach hynod ciwt, a sgript ffraeth sy'n sboncio rhwng y savvy a'r swreal.

Mae'r diolch am hyn yn bennaf i brofiad y sgwennwr-gyfarwyddwr Bart Freundlich, sy'n briod 芒'i Gougar ei hun- y seren bengoch Julianne Moore, sy' ddeng mlynedd yn h欧n nag ef.

Personol a newydd

Mae rhannau o'r ffilm yn sicr yn teimlo'n bersonol, a newydd iawn, i film-geek sydd wedi profi pob argyfwng carwriaethol posib - o'r ffrindie gorau sy'n ymserchu 芒'i gilydd yn When Harry Met Sally, i ddau ddieithryn sy'n syrthio mewn cariad dros yr e-bost yn You've Got Mail hyd at effeithiau OCD ar egin ramant Jack Nicholson a Helen Hunt yn As Good As It Gets.

Mae'n wir nad yw pob rom-com gystal 芒'i gilydd ond peth cwbl nawddoglyd yw dyfarnu pob un yn warthus ar sail rhagfarn rywiol.

Fely, os da chi'n chwilio am rywbeth i herio'r ymennydd, da chi ewch i weld Inception - ond os am bach o sbort efo Catherine Zeta-Jones , ewch i weld The Rebound yn lluoedd.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.