主播大秀

State of Play - telyneg hen hac

Newyddiadurwr - ystrydebol  ond apelgar

12APedair  seren

  • Y S锚r: Russell Crowe, Ben Affleck, Rachel McAdams, Helen Mirren, Robin Wright Penn, Jason Bateman.
  • Cyfarwyddo: Kevin Macdonald.
  • Sgwennu: Matthew Michael Carnahan a Tony Gilroy.
  • Hyd: 120 munud

Dyrchafur Wasg

Adolygiad Glyn Evans

Yn dilyn rhagddangosiad o The State of Play yn Llundain, Ebrill 20, dywedodd y cyfarwyddwr, Kevin Macdonald, mewn cyfweliad a drosglwyddwyd gan loeren i hanner cant o sinemau ar hyd a lled Prydain, mai cof niwlog oedd ganddo ef o'r gyfres deledu ragorol o'r un enw a ddarlledwyd gan y 主播大秀 yn 2003.

Byddai o fantais i gof y rhai aiff i weld State of Play 2009 fod yr un mor niwlog neu, yn well fyth, heb fod wedi gweld y gyfres honno o gwbl.

Yn wir, ar wahan i'r ffaith i'r gyfres deledu afaelgar honno fod yn sbardun does 芒 wnelo'r ffilm ddim byd 芒 hi mewn gwirionedd.

Ydi, mae hon, fel honno, yn troi o gwmpas ymchwiliadau newyddiadurwr o'r enw Cal McAffrey i dwyll a chynllwyn gwleidyddol ond nid yr un actor sy'n chwarae rhan McAffrey a thra bo cyfres y 主播大秀 wedi ei lleoli ym Mhrydain ar y Washington Globe yn yr Unol Daleithiau y mae McAffrey 2009 yn gweithio.

O'r herwydd, y peth gwaethaf allai rhywun ei wneud fyddai mynd ati i gymharu'r ffilm a'r gyfres - er bod rhai wedi dechrau gwneud hynny'n barod.

Ond y cyngor gorau yw anghofio'r hyn a fu a mynd i weld y ffilm fel newydd neu wnewch chi ddim ond drysu'ch hun yn cymharu a stwna sut mae Helen Mirren yn awr yn chwarae'r rhan a chwaraewyd gan Bill Nighy yn y gyfres deledu ac ymlaen ac ymlaen.

Twyll a chynllwyn

Ffilm gyffro yw hi am dwyll a chynllwyn gwleidyddol a chorfforaethol gydag islais o delynegu newyddiaduraeth ymchwil draddodiadol o gymharu 芒'r don 'newydd' o flogiau opiniyngar a phrin weithiau o ffeithiau caled.

Ac fe fydd sawl hen hac yn meddwi'n hiraethus ar y golygfeydd olaf tu cefn i'r 'credits' yn darlunio'r broses draddodiadol o argraffu a chyhoeddi geiriau a ffeithiau ar bapur i'w rhoi yn nwylo darllenwyr.

Darn arwyddocaol o ddialog yw blogwraig y Washington Globe, Della Frye (Rachel McAdams) yn dweud fod rhai ffeithiau mor bwysig yr ydych eisiau i ddarllenwyr gael olion inc ar eu dwylo wrth ddarllen amdanyn nhw!

Hithau hefyd wedi ei darbwyllo o ragoriaeth gwerthoedd yr hen hac McAffrey.

Creisus papurau

Er mai islais yn y ffilm yw'r thema o greisus sy'n bygwth newyddiaduraeth brint - yn enwedig yn yr Unol Daleithiau - y mae'n elfen bwysig ac yn un yr oedd Kevin Macdonald am ei bwysleisio yn ystod ei sgwrs wedi'r ffilm gyda John Mulholland o bapurau'r Guardian

Soniodd y ddau bod y creisis presennol mewn neuddiaduraeth draddodiadol yn rhoi'r byd mewn perygl dybryd - "great jeopardy" - gan ragweld ymhen yr ychydig flynyddoedd nesaf ddinasoedd cyfain yn yr Unol Daleithiau yn cael eu hamddifadu o bapurau newydd gyda rhybudd o'r un argyfwng yn ymestyn i wledydd eraill.

Heb os un o fwriadau'r ffilm yw rhoi cydnabyddiaeth i hen werthoedd newyddiadurol wrth i McAffrey nid yn unig dyrchio ar 么l y gwirionedd ond hefyd weddnewid agwedd y Della ifanc ar gychwyn ei gyrfa tuag at 'newyddiadraeth go iawn'.

Ond er mai'r bygythiad i bapurau newydd yw calon y ffilm - a hynny'n amlwg yn mynd i fod ag ap锚l arbennig i rai a rhywfaint o inc yn eu gwaed - y mae hefyd yn ffilm sy'n gweithio'n well na sawl ffilm ddiweddar fel thrilar wleidyddol.

Ac yn gwneud hynny ar sail plot trofaus ac eithaf cymhleth yn hytrach na chadwyn o olygfeydd ffrwydrol sy'n aml ond yn s诺n i gyd wrth ein twyllo i feddwl f fod rhywbeth yn digwydd.

Ymchwiliad seneddol

Mae'r stori'n troi o amgylch ymchwiliad seneddol dan gadeiryddiaeth y Cyngresydd Stephen Collins (Ben Affleck) yn yr Unol Daleithiau i weithgareddau cwmni corfforaethol PointCorp.

Ond pan fo prif ymchwilydd Collins yn cael ei lladd mewn amwain amheus mae McAffrey, hen gyfaill y gwleidydd, yn synhwyro rhyw ddrwg yn y caws ac yn cael ei sugno i ganol gwe o weithgareddau cynllwyngar hynod gymhleth sy'n hawlio holl sylw rhywun os am ddal gafael ar y stori.

Gellid dadlau, fel mae rhai wedi gwneud, bod un tro annisgwyl yn ormod i'r stori ond ar y cyfan mae'r deunydd yn cael ei drin yn gymeradwy iawn gyda'r pwsylais ar stori ystyrlon a deialog fachog - yn hytrach na golygfeydd gwyllt a swnllyd - yn plesio.

Nid bod y ffilm yn amddifad o olygyfeydd o dyndra fel ymlid McAffrey yn y lle parcio aml-lawr neu'r lladdfa yn yr ysbyty.

Perfformiadau

Drwyddynt draw mae'r perfformiadau yn rhagorol; Russell Crowe fel y gohebydd bler, esentrig, hynod ystrydebol mae'n wir ond ddim gwaeth oherwydd hynny; Ben Affleck fel y gwleidydd gonest golygus, Stephen Collins; Helen Mirren fel golygydd dan bwysau y Washington Globe; Robin Wright Penn fel Anna Collins y wraig a adawodd Stephen Collins.

Saerniwyd y berthynas gicio a brathu rhwng Crowe a Rachel McAdams yn gelfydd gan osgoi'r demtasiwn i'w cyflwyno'n gymeriadau du a gwyn gan fod elfennau i'w hoffi ym mhersonoliaeth y ddau ohonynt.

Go brin y bydd State of Play yn ennill Oscar i neb ond mae'n mynd i blesio sawl un er gwaethaf rhai elfennau cwbl ystrydebol fel gorchymyn i gael y stori mewn ychydig oriau ac i ddal y ddalen flaen.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.