主播大秀

Ioan Gruffudd

Ioan Gruffudd

07 Hydref 2011

Lowri Haf Cooke yn bwrw golwg dros fywyd a gyrfa Ioan Gruffudd yr actor o Gymro a fentrodd o Gwmderi i LA

Y gyfres ddiweddara i gipio'r penawdau yn yr Unol Daleithiau ydy Ringer, drama ddirgelwch am ddwy efaill sydd dan bwysau ac yn cyfnewid bywydau gan beri dryswch i bawb.

Fel ag yn achos Bette Davis yn y ffilm Dead Ringers, chwaraeir y ddwy chwaer, Siobhan a Bridget, gan yr un actores, Sarah Michelle Gellar - Buffy the Vampire Slayer gynt.

Ond yn sownd rhwng y ddwy ac yn ddiarwybod o'r twyll y mae'r Cymro golygus Ioan Gruffudd - yma'n chwarae g诺r Siobhan, Andrew Martin sy'n filiwnydd o Sais gydag ambell gyfrinach ei hun.

Teg dweud mai derbyniad cymysg gafodd y gyfres yn dilyn darllediad y rhaglen gynta ar Fedi 13, gyda sawl adolygydd yn ei chymharu 芒 telenovela druenus llawn trosiadau trwsgl.

Ond ambell un hefyd - gan gynnwys Linda Stasi o'r New York Post - yn ei disgrifio'n ddrama ddiddorol ac iddi botensial mawr.

Trueni felly i'r un adolygydd gyfeirio'n sarhaus at rai o'r enwau dan sylw;

"Between the Ioans and the Siobhans, it's hard to know how to pronounce anyone's name," meddai.

Arwr y 'Titanic'

Mae hi bron yn bymtheng mlynedd ers i Ioan ymddangos fel arwr munud olaf yn y ffilm Titanic (1997) gan James Cameron ond i rai ni fyddai oes gyfan yn ddigon o amser i ddod i arfer ag enw mor amgen.

Pob parch felly i'r Cymro am lynu'n gadarn wrth ei hunaniaeth Gymraeg, gan resymu i bawb ddysgu sut i ddweud Schwarzenegger erbyn hyn.

Tra'n hyrwyddo Ringer, dywedodd yr actor iddo dderbyn rhan Andrew Martin am sawl rheswm; y sgript- sy'n adleisio elfennau film noir; y sicrwydd o waith hir dymor wrth i'r diwydiant ffilm barhau i gynhyrchu blocbysters mawrion ar draul ffilmiau gwreiddiol bychain - a'r cyfle i archwilio ochor dywyll ei gymeriad ar 么l gyrfa gyfan o chwarae'r "dyn da".

Hefyd, wrth gwrs, does dim dianc rhag y ffaith fod teledu yn gyfrwng sy'n ail gartref iddo er pan oedd yn fachgen.

Plentyn Caerdydd

Ganed Ioan Gruffudd yn Llwydcoed ger Aberd芒r ar Hydref 6, 1973 a phan oedd yn blentyn ifanc symudodd ei rieni - yr athrawon, Peter a Gillian Gruffudd - y teulu i Gaerdydd, ac fel ei frawd iau, Alun, a'u chwaer fach, Siwan, mynychodd Ioan Ysgol Gynradd Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd ac wedyn, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

'Pobol y Cwm'

Yn ei arddegau cynnar gwnaeth argraff mewn ffilm deledu i'r 主播大秀 o'r enw Austin - cyfle a arweiniodd at gael ei ddewis i bortreadu Gareth Wyn rhwng 1987 a 1994, mab y tafarnwyr Megan a Reg Harries (Lis Miles a Huw Ceredig) yn Pobol y Cwm.

Mewn cyfweliad ag Alun Thomas ar y Post Cyntaf 主播大秀 Radio Cymru, talodd Ioan deyrnged i'r diweddar Huw Ceredig fel dyn a fu'n "ddylanwad enfawr" am y saith mlynedd y bu'n chwarae Gareth Wyn.

"Roedd fel mentor a dweud y gwir. Fe ddysgodd e i mi sut i fyhafio fel actor ifanc, sut i ddysgu fy ngeiriau, sut i fod yn broffesiynol ac yn fwy na dim sut i fwynhau," meddai.

Cyn gadael Cwmderi am byth ym 1994, cafodd Ioan gyfle i bortreadu William Jones mewn addasiad o nofel T Rowland Hughes ar gyfer S4C ym 1993.

Graddiodd o'r Deri Arms - ac Ysgol Gyfun Glantaf - i fynd i goleg RADA, flwyddyn cyn ei gyfaill mawr Matthew Rhys.

Yng Nghernyw

Ar ei flwyddyn olaf disgleiriodd Ioan mewn cynhyrchiad o Hedda Gabler Ibsen - profiad a arweiniodd at ennill rhan amlwg mewn fersiwn newydd o'r saga Gernywaidd Poldark ar gyfer ITV ym 1996.

Diolch i'w wynepryd clasurol, ei RP perffaith, a'i dueddiad taranllyd o lefaru'i linellau, Jeremy Poldark oedd y cyntaf mewn cyfres faith o gymeriadau hanesyddol iddo'u cipio dan drwynau sawl actor arall.

Ioan Gruffudd

Yn eu plith yr oedd:

  • y bardd John Gray yn y ffilm Wilde (1997) gyda Stephen Fry, Jude Law a Michael Sheen o Bort Talbot;
  • dau longwr amlwg - y swyddog Harold Lowe o'r Bermo ym munudau olaf Titanic (1997) a Horatio Hornblower, arwr mawr nofelau C S Forrester, a addaswyd ar gyfer y teledu ac a ddarlledwyd ar ITV rhwng 1997-2003;
  • a chymeriad Pip yn addasiad y 主播大秀 o Great Expectations (1999), ar y cyd 芒 Charlotte Rampling fel Miss Havisham, a'r Cymro Daniel Evans fel cyfaill Pip, Herbert Pocket.

Bu i'r ddwy gyfres deledu fynd benben 芒'i gilydd yng nghategori'r gyfres deledu orau yng ngwobrau teledu'r Emmys ym 1999, gyda Horatio Hornblower yn cipio'r anrhydedd dan drwyn 'rhen Pip.

A thua'r un cyfnod, cafodd gyfle i bortreadu Iddew o Gymro mewn cymuned lofaol yn 1911 gyferbyn 芒 Nia Roberts yn y rhamant hanesyddol Solomon a Gaenor - cynhyrchiad a enwebwyd am Oscar y ffilm orau o dramor, ond a gollodd i deyrnged Pedro Almodovar i famau ym mhobman - Todo sobre mi madre (All About My Mother).

Gyda'r Mileniwm newydd daeth cyfle i Ibortreadu cyfres o gymeriadau cyfoes ar ffilm a theledu, gan gynnwys dwy ffilm Gymreig.

Agorodd y ffilm dditectif Happy Now 糯yl Ffilm Ryngwladol Caerdydd yn 2001 a chynigodd Very Annie Mary y cyfle i Ioan a Matthew Rhys gael hwyl fawr wrth bortreadu'r p芒r comig Hob a Nob.

Gydag Alice

Ond cyflwyniad hyd y oed yn fwy arwyddocaol a gafwyd ar set ffilm 102 Dalmations yn 2002, lle chwaraeodd Ioan yr arwr Kevin Sheperd - perchennog cartre c诺n amddifad, a gelyn diweddara Cruella De Vil.

Na, nid i'r seren ryngwladol Glenn Close ond i Alice Evans - y ferch a chwaraeodd ei gariad yn y ffilm. Priododd y ddau ym Mecsico yn 2007 ac mis Medi 2009 ganed merch fach iddynt- Ella Betsi Evans Gruffudd.

Er nad yw'r ffilm ei hun yn glasur, y mae'r bartneriaeth rhwng Ioan ac Alice yn un gadarn ac ymddengys i'r ddau ganfod enaid hoff cytun, ac roedd hi'n benderfyniad ar y cyd - ac yn arwydd o uchelgais gyrfaol y ddau - i sefydlu eu hunain yn barhaol yn Los Angeles, lle maen nhw'n byw hyd heddiw.

Diolch i CV cynhwysfawr o waith ffilm a theledu- gan gynnwys y brif ran yn y ddrama dywyll am y brwydro yn Bosnia, Warriors (1999) ac addasiad cynnar o nofel Man and Boy gan Nick Hornby i'r 主播大秀 yn 2002- dechreuodd Ioan ar y broses lafurus o ragbrofi ar gyfer 'peilots' teledu Americanaidd gan dderbyn rhan amlwg Lukas Gold mewn cyfres gyfreithiol wedi'i gosod yn y dyfodol, Century City, a barhodd am naw pennod yn 2004.

Yn 2003, gwnaeth gyfraniad i ddau gynhyrchiad Cymreig a gafodd dderbyniad ffafriol tu hwnt, gan gynnwys ffilm animeiddiedig Y Mabinogi, a dathliad cyfoes Marc Evans o'r traddodiad barddol, ar y cyd 芒 nifer o enwau mawrion eraill, yn Dal: Yma/Nawr.

Llai na ffantasig

Ar achlysur ei urddo i'r wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Meifod y flwyddyn honno, roedd ganddo farf drwchus i fynd gyda'r chyrls brown, gan ei fod ar ganol chwarae Lawsalot mewn fersiwn newydd o King Arthur gyda Clive Owen (Arthur) a Keira Knightley (Gwenhwyfar) ac er na lwyddodd y ffilm i gynhyrfu cynulleidfaoedd gymaint ag 芒 wnaeth Pirates of The Carribean - blocbyster ddiwethaf y cynhyrchydd Jerry Bruckheimer - roedd yn gam pellach i fyny'r ysgol i Ioan ac fe'i dilynwyd gan ei ran amlycaf eto, y gwyddonydd Reed Richards, Mister Fantastic, yn fersiwn Tim Story o gyfres comics Marvel, Fantastic Four (2005), yng nghwmni Jessica Biel, Michael Chiklis a Chris Evans.

Yn wahanol i addasiadau cyfoes eraill- fel cyfres SpiderMan ac X-Men - a lwyddodd i gyfuno d么s dda o hiwmor gydag antur ac effeithiau anhygoel, mynnodd y cynhyrchwyr lynu'n dynn at gynnwys y comics gwreiddiol sy'n golygu bod Fantastic Four a'r dilyniant Fantastic Four: Rise of The Silver Surfer (2007) yn ffilmiau difflach a dau ddimensiwn a hawliodd y llysenw anffodus - Fantastic Bore.

Ond wrth ddiosg y spandecs a'r acen Americanaidd, profodd Ioan lwyddiant annisgwyl yn Amazing Grace (2006), ffilm gryn dipyn llai am William Wiberforce, gwleidydd ac arweinydd y mudiad Prydeinig i ddiddymu caethwasiaeth yn ystod y Ddeunawfed Ganrif.

Yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru yn 2008, derbyniodd dlws Si芒n Philips am ei gyfraniad i fyd ffilm a theledu ac ers hynny mae wedi dyfalbahau yn Hollywood mewn amrywiaeth o rannau bychain.

Mae'n si诺r fod cael chwarae Tony Blair yn y biopic 'W' gan Oliver Stone (2008), a chariad Julia Roberts yn y ddrama deuluol Fireflies in the Garden (2008), yn swnio fel cyfleoedd gwych ar y pryd ond yn achos y ddwy ffilm, diflannodd ei gymeriad ar amrantiad.

Cafodd well hwyl ar chwarae athro ysbrydoledig - a hynny mewn acen Lerpwl effeithiol - yn y ddrama dywyll The Kid (2010 ond beth ddaeth dros ei ben yn derbyn rhan mor ddiddim 芒 phutain ag arbenigedd mewn campau d诺r yn y gomedi erchyll Horrible Bosses (2011)?

Dal ati

Wrth gwrs, mae'n hawdd iawn i eraill feirniadu, ac er mwyn cynnal unrhyw bresenoldeb yn LA rhaid parhau i weithio, a dyma sy'n egluro'i gyfraniadau lleisiol i gartwns fel Batman: The Brave and The Bold, American Dad a Family Guy - yn ogystal 芒'r stori i blant, Morgana's Secret Island gan Catrin Dafydd ar wefan 主播大秀 Wales History a 主播大秀 Cymru.

Fel yn achos Matthew Rhys, pan gafodd ei dderbyn i chwarae Kevin Walker yn y gyfres deledu Brothers & Sisters, roedd ennill rhan Andrew Martin yng nghyfres Ringer yn sicr yn achos i ddathlu.

Amser a ddengys am ba hyd wnaiff y gyfres barhau. Penderfynodd CBS, y sianel a gomisiynodd y gyfres ei phasio mlaen i'w chwaer rwydwaith, CW, ac yma ym Mhrydain, cawn gyfle i'w gweld cyn bo hir ar SKY Living HD - sianel sydd yn apelio at ferched yn bennaf.

Ac yntau'n actor a chanddo gorff cadarn o waith amrywiol dan ei wregys ac sydd yn llwyr ymwybodol o natur ddienaid ond ymarferol diwydiant adloniant LA, efallai mai'r adolygiad canlynol gan Mary McNamara o'r LA Times sydd 芒'r newyddion gorau eto i Ioan.

"Gruffudd does what he can, but the show is Sarah Michelle Gellar's to win or lose. And in this case, there's no re-casting, or blaming, the costar."


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.