主播大秀

Matthew Rhys

Matthew Rhys

Y dyn i chwarae Burton

Portread gan Lowri Haf Cooke

Creodd yr actor Matthew Rhys gryn gynnwrf ddiwedd Tachwedd 2010 pan ddychwelodd i Gymru i hyrwyddo'i gyfrol newydd ar Batagonia.

Roedd pawb am gael pum munud ag ef ac am dridiau doedd dim modd osgoi ei lais ar y radio na'i wyneb rhadlon ar y teledu gan fodloni'r nifer sy'n dilyn ei yrfa ers rhai blynyddoedd.

Dyma actor amryddawn - a Chymro i'r carn - sydd wedi rhagori ar lawer i lwyfan ond sydd wedi ennill cynulleidfa dorfol diolch i acen Americanaidd!

O Gaerdydd

Fe'i ganed yng Nghaerdydd ar Dachwedd 8 1974 yn fab i'r athrawon Glyndwr a Helen Evans - y naill o Fachynlleth a'r llall o Abergwaun.

Mae ganddo goeden deulu eang sy'n egluro'i bresenoldeb mewn aduniadau ar hyd a lled Cymru.

Profodd fagwraeth fodlon iawn yn yr Eglwys Newydd ac un o'i hoff atgofion ef a'i chwaer fach, Rachel, fel plant oedd gwrando ar eu tad yn canu Dwy Gwningen Fechan - c芒n ag iddi stori drist fyddai'n peri dagrau mawr i'r plant, ond sy'n rhoi boddhad mawr i'r teulu cyfan erbyn hyn pan gaiff Glyn ei daro gan yr awen.

Matthew gyda chwaer ei gyfaill Ioan Gruffudd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008

Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd ac Ysgol Gyfun Glantaf gan wirioni'n llwyr am gyfnod ar chwarae rygbi.

Ond yn 16 oed ymunodd 芒 Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd mai "pipe dream" oedd actio yn yr ysgol ond i ennill rhan Elvis Presley yn y sioe gerdd, Elfis! ym 1993 yn drobwynt a gwefreiddiwyd y gynulleidfa gyda'i berfformiad brwdfrydig fel Y Brenin.

Dilyn Ioan Gruffudd

Roedd eisoes wedi ceisio am le mewn sawl ysgol ddrama ond ar noson ola'r sioe gerdd honno cyhoeddodd y prithathro, J E Malcolm Thomas y newyddion fod Matthew wedi derbyn lle yn RADA, gan ddilyn yn 么l troed disgybl arall, Ioan Gruffudd.

Tyfodd cyfeillgarwch mawr rhwng y ddau Gymro oddi cartre yn Llundain a bu Ioan o gymorth mawr wrth i Matthew ddod i arfer 芒'r pwyse mawr ar fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Er bod gweithio o leiaf ddeng awr bob dydd yn dipyn o sioc i'r system daeth i arfer 芒'r drefn ac yn dilyn dwy flynedd o hyfforddiant actio, llwyddodd i ennill rhan gyson yn y gyfres deledu Backup ar 主播大秀1 a rhan Boyo yn addasiad ffilm Marc Evans o'r ddrama House of America gan Ed Thomas, gyferbyn 芒 Lisa Palfrey a Si芒n Phillips.

Roedd wedi perfformio mewn dwy ddrama gan Ed Thomas - East from The Gantry a Songs From a Forgotten City - tra yn RADA ond roedd bod ar set ffilm - hyd yn oed ffilm ag iddi gyllideb go isel- yn brofiad gwych, a dilynwyd hynny gan ymddangosiad yn y ffilm Bydd yn Wrol - cynhyrchiad a enillodd glod mawr a gwobr BAFTA iddo fel Actor Gorau ym 1997.

Dros y blynyddoedd nesa, cydbwysodd waith llwyfan - yn cynnwys rhan fel anarchydd hoyw yng nghynhyrchiad Peter Gill o Cardiff East ar gyfer y National Theatre - gyda nifer gynyddol o rannau mewn amrywiaeth o ffilmiau gan ddechrau 芒 Heart (1997) gyda Christopher Eccleston a Rhys Ifans, ac Elizabeth(1998) gyda Cate Blanchett, cyn cipio rhan yn Greenstone - drama gyfnod ar deledu wedi'i gosod yn Seland Newydd, adeg rhyfeloedd y Maori.

Gyda'i arwr

Yr un flwyddyn, 1999, enillodd ran Demetrius yn Titus, addasiad uchelgeisiol Julie Taymor o Titus Andronicus ar gyfer y sinema - ac er i'r beirniaid ladd ar y cynhyrchiad ei hun roedd y profiad o ffilmio yn un gwerthfawr tu hwnt, gan iddo gyd actio ag un o'i arwyr pennaf, Anthony Hopkins.

Creodd Hopkins argraff fawr ar y cyw actor gyda'i baratoadau trwyadl ar gyfer pob golygfa ac am gyfadde ei fod yn dal i deimlo nad oedd wedi "cyrraedd" uchelfannau Hollywood, hyd yn oed ar 么l ennill yr Oscar am Hannibal Lecter.

Dilynwyd hynny gan ymddangosiadau mewn cyfres o ffilmiau annibynnol gan gynnwys dwy ffilm Gymreig gyferbyn 芒 Jonathan Pryce, The Testemony of Taliesin Jones (2000) a'r gomedi boblogaidd Very Annie Mary (2001), pan ddisgleiriodd mewn rhan fechan fel hanner y cwpwl hoyw Hob a Nob gyda'i hen f锚t Ioan Gruffudd.

Yn wir, cynigodd y cynhyrchiad hwn - sy'n ffefryn gyda nifer - lwyfan i'r ddau berfformio'u dynwarediadau dihafal o bersonoliaeth Radio Cymru nid anenwog ...

Canmoliaeth Kathleen Turner

Ond personoliaeth arall fu'n gyfrifol am roi'r hwb fwyaf sylweddol i'w yrfa yn y flwyddyn 2000, pan lwyddodd Matthew i greu argraff fawr ar Kathleen Turner mewn rhagbrawf ar gyfer addasiad theatr o'r clasur sinematig The Graduate.

Meddai Turner ar y pryd, "He can really act. With acting it's like dancing where one leads and the other follows and then they change over. Well he can dance!"

A gwirionodd cgynulleidfaoedd a beirniaid y West End ar ei bortread o Benjamin Braddock.

Dros y degawd diwethaf parhaodd i gyfrannu i gynyrchiadau ar ffilm fel Whatever Happened To Harold Smith (2000), Peaches (2000), The Abduction Club (2002), Deathwatch (2002), fersiwn animeiddiedig o'r Mabinogi (2003) a Love and Other Disasters (2006) - ac ar lwyfan, y Llais Cyntaf yn llwyfaniad Michael Bogdanov o Under Milkwood yn 2003 a dau gynhyrchiad i'r RSC gan gynnwys Edmund yn King Lear a Romeo yn llwyfaniad Peter Gill o Romeo a Juliet.

Ar y teledu

Ond yn bur annisgwyl, ar y teledu yr enillodd enwogrwydd rhyngwladol. Ar 么l chwarae newyddiadurwr yng nghyfres The Lost World (2001) a llofrudd mewn penod o Columbo (2003) symudodd i Los Angeles i drio'i lwc yn Hollywood, ac ennill rhan flaenllaw mewn peilot ar gyfer drama deuluol o'r enw Brothers & Sisters yn 2006.

Bu pennod gyntaf y ddrama honno - sy'n dilyn hynt a helynt teulu cefnog y Walkers yn Los Angeles - yn llwyddiant aruthrol, diolch yn bennaf i sgript gadarn, a pherfformiadau cryfion gan gast sylweddol, yn cynnwys Sally Field, Calista Flockhart, Balthazar Getty ac 'Annie Mary' ei hun, Rachel Griffiths.

Pedair blynedd yn ddiweddarach ac mae'r ddrama'n dal i ddenu miliynau o wylwyr yn yr Unol Daleithiau a thu hwnt, a Matthew 芒 dilyniant enfawr fel Kevin Walker - cyfreithiwr hoyw sy'n wynebu cymhlethdodau carwriaethol, yn enwedig yn dilyn priodas 芒'i gariad, Scotty, a'u hymdrechion i gael plentyn.

Patagonia

Am naw mis y flwyddyn felly, y mae Matthew yn gaeth i Kevin a'i acen Americanaidd ond dros y blynyddoedd diwethaf llwyddodd i wasgu sawl cynhyrchiad arall i'w sgediwl swreal gan gynnwys perfformiad trawiadol fel Dylan Thomas yn The Edge of Love gyda Sienna Miller a Keira Knightley a rhan fechan Mateo yn Patagonia gan Marc Evans gyferbyn 芒 Nia Roberts a Matthew Gravelle - fydd allan fis Mawrth 2011.

Y mae'r ffilm hon - gafodd dderbyniad ffafriol tu hwnt yng Ng诺yl Ffilm Llundain yn yr hydref - yn cynrychioli penllanw i'w ramant 芒'r paith maith ar 么l cael ei hudo yno droeon dros y pum mlynedd diwethaf ar gyfer cynyrchiadau niferus ar gyfer y sgr卯n fach.

Gwefr arbennig

Ac er y carai ddychwelyd i Gymru yn barhaol y mae'r wanderlust yn dal i gorddi gan olygu mai parhau wnaiff y teithio rhyngwladol am y tro yn dilyn anturiaethau yn India, y Ffindir a phrofiad bythgofiadwy yn dilyn yn 么l troed arwr arall, Ernest Hemingway, wrth redeg rhag y teirw yn Pamplona, Sbaen.

Mae'r actor wedi disgrifio'r wefr arbennig sydd i'w phrofi wrth berffeithio'i grefft ar lwyfan theatr ond fel un a wirionodd ar ffilmiau yn blentyn, mae'n anochel y bydd yn dymuno datblygu'i yrfa sinema ar 么l creu enw iddo'i hun yn LaLa Land.

Yn sicr, pe bai'r Fonesig Liz yn fodlon rhoi s锚l ei bendith ar addasiad i'r sinema o'r gyfrol Furious Love; Elizabeth Taylor, Richard Burton and The Marriage of a Century, ni fyddai neb gwell na Math i chwarae'r hen Rich.

Nid yn unig y mae Burton yn arwr iddo ers blynyddoedd ond o astudio lluniau o Burton ar ei brifiant mae'r tebygrwydd rhyngddynt yn rhyfeddol.

Creu cysylltiadau

Ond fel nifer o actorion ifainc yn Hollywood, mae ei yrfa'n llwyr ddibynnu ar gyfuniad o ffawd, ffortiwn a ffuantrwydd y "grymoedd goruwch" yn eu swyddfeydd swanc.

Yn ffodus iddo ef, llwyddodd yn barod i greu cysylltiadau amhrisiadwy trwy weithio ag actorion a chyfarwyddwyr diddorol ond bydd y blynyddoedd nesaf - y tu hwnt i deledu - yn rhai tyngedfennol yng ngyrfa'r Cymro oddi cartre.

Ac o gofio'r hyn a ddywedodd Anthony Hopkins wrtho dros ddegawd yn 么l dim ond Matthew ei hun all farnu pryd y bydd yntau "wedi cyrraedd".

Tlws Si芒n Phillips

Fis Mai 2011 Dyfarnwyd Tlws Si芒n Phillips i Matthew i'w gyflwyno iddo . yn ugeinfed Seremoni Wobrwyo'r Academi Brydeinig yng Nghymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, Mai 29.

Meddai Matthew; "Mae derbyn Tlws Si芒n Phillips gan BAFTA yng Nghymru yn golygu cymaint i mi. Yn ddigon eironig, Si芒n chwaraeodd r么l fy mam yn fy swydd actio cyntaf, felly mae'r anrhydedd yn golygu cymaint mwy gan mai ei gwobr hi ydyw.... Mae derbyn cydnabyddiaeth y rheini o gartref yn wir yn arbennig iawn."


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.