主播大秀

Cymru ar ffilm

Halle Berry - Jamaica yng nghymru

Cefndir Cymreig ffilmiau enwog

Ffilmio golygfeydd yng Nghymru ar gyfer ffilmiau enwog

Ar raglen Nia Roberts ar 主播大秀 Radio Cymru bu cyfranwyr yn trafod broydd yng Nghymru lle cafodd golygfeydd ar gyfer sawl ffilm adnabyddus eu ffilmio.

Yr oedd y ffilmiau yn amrywio o'r ffilm James Bond, From Russia With Love gyda rhai golygfeydd wedi eu ffilmio yn Eryri i Moby Dick ym Mae Ceibwr ger Abergwaun.

Tomos Morse oedd yn rhestru'r lleoliadau ac ymhlith y ffilmiau a gafodd sylw yr oedd:

The World is not Enough ffilm James Bond lle defnyddiwyd pibell dd诺r yng Nghwm Dyli i gynrychioli pibell nwy yn Siberia.

Die another Day - ffilm James Bond arall gyda'r olygfa olaf o Halle Berry a Pierce Brosnan ar draeth yn Jamaica wedi ei ffilmio ar Draeth Penbryn, Aberteifi .

Yn 么l, Tomos Morse bu'n rhaid saethu'r olygfa ddwywaith gan fod tractor amethwr lleol, Emyr Brown, i'w weld yn gweithio ar lechwedd yn y cefndir.

Lawrence of Arabia - twyni Merthyr Mawr, Penybont-ar-Ogwr.

Moby Dick - Bae Ceibwr ger Abergwaun lle bu Gregory Peck yn gyrru o gwmpas mewn limos卯n rhwng ffilmio. Ymhlith yr ecstras yr oedd Jenny Ogwen.

An Englishman Who Went up a Hill - Gyrn Moelfre, Llanrhaeadr-ym-mochnant.

Tiger Bay - gyda John Mills yn . . . Tiger Bay, Caerdydd!

Human Traffic - Caerdydd.

Only Two Can Play - gyda Peter Sellers a Mai Zetterling yn Abertawe.

Holiday on the Buses - yng ngwersyll Pontins, Prestatyn.

Inn of the Sixth Happiness - ardal Beddgelert a Chapel Curig gydag Ingrid Bergman.

House of America - Banwen, uwchben Castell-nedd.

Time Bandits - Castell Rhaglan.

Half Light- gyda Demi Moore yn Llanddwyn a Niwbwrch, Ynys M么n.

The Vikings - gyda Kirk Douglas a Tony Curtis yng Nghaernarfon a Phen y Gogarth ger Llandudno.

First Knight - gyda Sean Connery, Richard Gere a Julia Ormerod yn ardal Trawsfynydd.

The Silent Village - Abercraf.

The Constant Husband - gyda Rex Harrison a Kay Kendell yng Nghei Newydd.

The Last Days of Dolwyn - gyda Richard Burton ifanc yn ardal Rhydymain.

Llawer o sefyllian

Bu Angharad ab Iorwerth yn siarad am ei rhan fel 'ecstra' ar y ffilm First Knight yn ardal Trawsfynydd gan gofio dyddiau hirion o sefyllian a disgwyl galwad i fod yn "Townswoman".

Am y prif actorion dywedodd na ddangosodd yr un ohonynt fawr o awydd "i gymysgu efo ni y werin datws".

Bu John Meirion Jones o Langrannog yn hel atgofion am ddwy fodryb iddo a gymerodd ran ymylol mewn ffilm ddi sain, Torn Sails.


Mwy

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.