主播大秀

Ffilm Lloyd George ar DVD

Golygfa o'r ffilm

Ffilm gafodd ei hatal gyda phapurau mil o bunnau!

mae'r hyn sydd wedi bod yn cael ei galw yn " ffilm fawr goll Lloyd George" yn awr ar gael inni gyd diolch i Archif Genedlaethol Sgrin a sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Chwefror 2009 cyhoeddwyd ar DVD The Life Story of David Lloyd George.

Mae hanes y ffilm, sy'n para 152 munud, bron iawn mor ddiddorol 芒'i chynnwys ac "yn ferw o helynt a dirgelwch" yn 么l yr Archif.

Golygfa o'r ffilm

Rhwystrwyd ei dangos pan y'i gwnaed ynm 1918 a bu ar goll am 76 o flynyddoedd nes iddi gael ei darganfod yn 1994 yn sgubor un o wyrion Lloyd George gan Archif Ffilm a Theledu Cymru - rhagflaenydd Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Yn dilyn dwy flynedd o waith adfer Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yn gyhoeddus mewn premier yng Nghaerdydd, 1996.

Fe'i disgrifiwyd fel "darganfyddiad y ganrif" gan yr hanesydd ffilm Kevin Brownlow a ddywedodd hefyd y gallasai'r ffilm petai wedi ei rhyddhau ym 1918 fod wedi bod mor fawr ei dylanwad 芒 Birth of a Nation yn yr Unol Daleithiau a newid cwrs y sinema Brydeinig.

Fe'i gwnaed ar gyfer yr Ideal Film Company gan Maurice Elvey ac mae'n olrhain bywyd Lloyd George o'i blentyndod yn Llanystumdwy hyd ddiwedd y Rhyfel Maw

Defnyddiodd Elvey, un o gyfarwyddwyr prysuraf y cyfnod, filoedd o ecstras mewn golygfeydd stiwdio ac ar leoliad.

Chwaraewyd rhan Lloyd George gan Norman Page sy'n hynod o debyg iddo.

Mae'r archif yn cyfeirio at ei berfformiad fel un "meistrolgar" o "daith hir" y gwleidydd o fro ei febyd i binacl ei yrfa wleidyddol yn arweinydd rhyfel.

"Darlunnir rhai o gerrig milltir ei fywyd - y dylanwadau cynnar, yr uchelgais a'r diwygio cymdeithasol - drwy ddyfeisiau trawiadol megis 么l-fflachiadau lliw a rhagweledigaethau proffwydol," meddai datganiad gan yr Archif.

"Mae diwedd y ffilm, ble gwelwn y gweddwon trallodus yn disgwyl am w欧r a meibion na dd么nt fyth yn 么l, yn corddi'r emosiwn heddiw fel y byddai wedi gwneud bron ganrif yn 么l."

Golygfa o'r ffilm

Cyfansoddwyd cerddoriaeth ar gyfer y DVD gan Neil Brand.

"Yn ddi-os mae dirgelwch yr atal yn 1918 yn rhoi gwefr ychwanegol i'r delweddau," ychwanegir gan holi ai llywodraeth glymblaid y dydd roddodd stop ar y prosiect am resymau gwleidyddol ynteu a gafodd Lloyd George ei hun 'draed oer'?

"Yr unig beth a wyddom i sicrwydd yw i'r cwmni cynhyrchu dderbyn t芒l o 拢20,000 - mewn ugain papur 拢1,000 - am beidio rhyddhau'r ffilm!" meddir.

"Mae 'na lawer o ddamcaniaethau gogleisiol - a gobaith yr Archif yw y bydd y gynulleidfa ehangach fydd nawr yn ei gweld, yn dod 芒 ffocws - a ditectifs - ffresh i'r dirgelwch."

Mae deunydd ychwanegol y DVD yn cynnwys:

  • Cyflwyniad gan yr actor Philip Madoc a chwaraeodd ran Lloyd George yn nrama 主播大秀 Cymru The Life and Times of David Lloyd George1981.
  • Cyfweliad gyda Neil Brand.
  • Cyfweliad gyda Kevin Brownlow yr hanesydd ffilm.
  • Llyfryn 16-tudalen, The Life Story of David Lloyd George, 152 gyda 47' o ddeunydd ychwanegol, ar gael o siop y Llyfrgell Genedlaethol.

Y pris yw 拢18.99.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.