主播大秀

Annette Bryn Parri: 'Bywyd ar Ddu a Gwyn'

Annette Bryn Parri ar glawr y llyfr

10 Rhagfyr 2010

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Bywyd ar Ddu a Gwyn.Huangofiant Annette Bryn Parri. Y Lolfa. Pris 拢9.95.

Hyfrydwch bywyd

Bu darllen hunangofiant Annette Bryn Parri yn ysbaid o hyfrydwch. Merch gymwynasgar, hwyliog, ddawnus, ddiwylliedig, ddiymhongar - geiriau felly ddaeth i'm meddwl.

Dydw i ddim yn eu hadnabod hi ac ni chyfarfyddais i hi erioed ond fe'i gwelais yn cyfeilio ar deledu lawer gwaith.

A chan mai y piano yw fy hoff offeryn a cherddoriaeth biano yw fy hoff gerddoriaeth ni allwn ond ei hoffi a'i hedmygu.

Yr hyn a'm swynodd yn y gyfrol hon oedd ei phortreadau o bobl eraill. Mae yma ddarnau hyfryd o sgrifennu cynnes; am y teulu, wrth reswm.

Ac mae ei darlun o'r Mrs Gabrielson ecsentrig a fu'n athrawes, ffrind ac yn ysbrydoliaeth iddi yn ddarn o sgrifennu cyfoethog.

Clawr y llyfr

Mae hyd yn oed y Miss Marjorie Clementi yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion, a oedd, dybia i, yn dipyn o hen ast yn cael triniaeth digon annwyl a charedig.

Anwylach fyth yw'r darlun a gawn o'i chyd-aelodau ar staff Coleg y Brifysgol, Bangor - Bedwyr Lewis Jones, William Matthias a John Hywel. Portreadau cynnes a gwerthfawrogol bob un.

Nawr, fe wyddwn mai Annette Bryn Parri yw hoff gyfeilyddes amryw o gantorion sy'n fyd enwog ond ceir yr argraff yn y gyfrol o ddynes sydd yr un mor hapusaf yn cyfeilio mewn eisteddfodau a mwynhau clonc tra'n helpu'r merched i olchi'r llestri yn y cefn pan nad oes ei hangen ar y llwyfan.

O Syr Geraint Evans a Bryn Terfel i eisteddfodau cylch yr Urdd rhoddodd o'i dawn a'i hamser, a'i gorau.

Crwydro'r byd

Cafodd grwydro'r byd fel cyfeilyddes. Dewisodd beidio bod yn unawdydd neuadd gyngerdd er cymaint yr anogaeth a'r pwyso arni o du'r coleg ym Manceinion. Mynnodd yr amser i fod yn wraig ac yn fam i dri o blant.

Ond roedd yn ddewis a roddodd iddi'r cyfle i gael y gorau o'r ddau fyd. Dyna'i llwyddiant yn arwain C么r y Traeth, yr holl waith teledu, cyfeilio ar recordiau ac ni sylweddolais, nes darllen yma, iddi hi a'i dwy chwaer wneud cymaint o ganu cefndir i gantorion ysgafn poblogaidd Cymru.

Ac y mae hanes ei gwaith gyda phlant ag anghenion yn wefr i'w ddarllen - darn arall o'r llyfr sy'n deffro'r emosiynau.

Mae rhywun jyst yn teimlo nad oes dim yn ormod o drafferth iddi a bod popeth werth y drafferth o'i wneud yn dda bydded hynny'n berfformio mewn t欧 gwair neu sgubor yng Ngharno neu mewn Neuadd Gynhadledd yn Basle.

Digon o straeon

Mae yma ddigon o straeon da am droeon trwstan hefyd - ambell un ardderchog o amheus.

Cychwynnodd ei gyrfa'n rhyfeddol o ifanc gyda llwyddiannau cynnar di-rif. I feddwl y medrai chwarae cyfeiliant Arafa Don yn bump oed!

Mae siomedigaethau wrth reswm, ond bywyd wedi ei fyw ar yr uchelfannau sydd yma yn bennaf.

Bywyd sy'n un hwr锚 fawr, fendigedig.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.