主播大秀

Emlyn Gomer Roberts - Ar Drywydd y Duwiau, adolygiad

Rhan o glawr y llyfr

15 Ebrill 2010

闯卯苍颈测蝉

  • Adolygiad Janice Jones o Ar Drywydd y Duwiau gan Emlyn Gomer Roberts. Gwasg Gwynedd. tt.298. 拢9.95

Nofel dditectif ddoniol oedd nofel gyntaf Emlyn Gomer Roberts, Y Ddraig Goch,ac mi wnes i fwynhau ei darllen yn fawr.

Er fy mod ychydig yn amheus o'i ail gyfrol, Ar Drywydd y Duwiau, gan nad yw cyfrolau sy'n cynnwys elfennau o ffantasi ymysg fy ffefrynnau, mae hon hefyd yn nofel werth chweil.

Clawr y llyfr

Yn sicr, roedd y nofel hon yn f'atgoffa o Igam Ogam, cyfrol fuddugol Ifan Morgan Jones yn Eisteddfod 2008: y cymeriadau od, y tirwedd lled ddieithr, yr ymgais i ganfod rhyw wynfyd tu hwnt, tu draw.

Hawdd ei darllen

Mae Ar Drywydd y Duwiau yn nofel swmpus ond yn rhwydd iawn i'w darllen gan ei bod wedi'i rhannu'n 104 o benodau byrion.

Ar ddechrau bob pennod dyfynnir adnod o'r Cofanct, sef llyfr sanctaidd yr hen grefydd sydd bellach ar fin cael ei ddiddymu'n llwyr gan Engral, Uwch-archoffeiriad y grefydd newydd a gaiff ei ymgorffori yn nhestun sanctaidd yr Archest.

Nid yw'r plot yn un newydd nac yn un cymhleth: yr hyn sydd yma, mewn gwirionedd, yw helfa. Mae'r pobl dda yn dianc ac yn cael eu dilyn gan y bobl ddrwg, sydd yn eu tro yn cael eu dilyn gan ragor o bobl ddrwg sydd yn y man yn dangos eu bod hwythau yn bobl dda (ar y cyfan).

Yr hyn sy'n gwneud y llyfr yn wahanol ac yn ffres yw'r cymeriadau a'r lleoliadau ffantastig sydd wedi deillio o ddychymyg yr awdur.

Heb ddifetha'r llyfr i ddarpar ddarllenwyr, gellir datgelu bod Sbargo a Lenia, mab a merch yr Uwch-offeiriad, am ddianc oddi cartref am resymau da, a hanes eu taith o balas eu Tad i gatref y duwiau ar ben Mynydd Aruthredd yw corff y gwaith.

Gosod y llwyfan

Mae'r awdur yn gosod y llwyfan llenyddol yn y ddwy bennod gyntaf ac mae'n dipyn o gamp i'r darllenydd ddygymod 芒'r holl enwau dieithr, megis 'y Gattws' a 'Mirael, y Ddinas Aur', heb s么n am filwyr y 'Cira Seth'.

Yna daw un o ddarnau mwyaf effeithiol y nofel ar sawl lefel wrth i Sbargo a Lenia ddianc gyda'u cyfaill, Merfus, yn 'y wagan gachu', y tri ohonynt

. . . at eu canol mewn carthion a dyn a 诺yr beth arall, tra rhowliai'r wagen yn nes at Fur Mawr y Gattws a'r Cira Seth oedd yn ei wylio.

Mae'r cymeriadau hyn, a'r cymeriadau eraill sy'n y nofel, yn rhai hynod ddiddorol, gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt yn gymysgedd gredadwy o dda a drwg fydd yn bodloni'r darllenydd.

Mae defnydd y cymeriadau hyn o iaith lafar yn cyfoethogi'r gwaith, gyda nifer o'r perlau yn dod o enau Pili, un o gyd-deithwyr Sbargo, perlau megis "[e]lla bod y Duwia'n laru ar iwsio handls drysa o hyd" a "箩卯苍颈测蝉".

Gwrthgyferbyniad llwyr i'r iaith lafar, ffraeth, a ddefnyddir gan y cymeriadau hyn yw iaith or-ffurfiol Brwgaij, iaith a fyddai'n gwneud i bregethwr cynorthwyol pum seren ymddangos fel petai'n llefaru mewn bratiaith.

Meddai Brwgaij wrth y criw cyn iddynt fentro i Fynydd Aruthredd:

"Gorffwys sydd rinwedd heddiw . . . Eich pererindod sydd eto'n faith, a rhydd gyfle i baratoi lluniaeth gogyfer 芒 hi."

Ambell gam gwag

Ceir ambell gam gwag, megis pan fo cymeriad 'ar goll yn ei m/feddyliau', ond brychau m芒n iawn yw'r rhain. /p>

Fel y nodwyd, yr helfa yw prif linyn stor茂ol y gyfrol ac mae'r awdur yn llwyddo, ar y cyfan, i gynnal y tensiwn gydol y nofel.

Petai rhywun yn dadlau bod elfen James Bond yn perthyn i'r helfa, yna yn sicr mae diweddglo'r gyfrol yn atgoffa rhywun o anturiaethau Dr Who. Nid diweddglo gor-dwt a theidi mohono, a phwy a 诺yr nad oes yma addewid am ddilyniant?

Gyda pheth dadlau ymysg beirniaid yngl欧n 芒 dilysrwydd ac argyhoeddiad gweithiau sy'n ceisio cyflwyno realaeth trwy gyfrwng llenyddiaeth Gymraeg ei hiaith, efallai'n wir yn byddwn yn gweld mwy o awduron yn troi at genres megis ffantasi a'r cais am y man gwyn, man draw.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.