主播大秀

Arwyn Herald - casgliad o'i luniau

Llun o Arwyn Roberts ar glawr y llyfr

Cafodd casgliad o luniau gan dynnwr lluniau papurau lleol yn ardal Caernarfon dderbyniad gwresog ers ei gyhoeddi cyn y Nadolig 2010 - a hynny y tu allan i'w fro ei hun.

A dim rhyfedd hynny gan fod Arwyn - Arwyn Herald - Roberts yn adnabyddus i bobl o bob cwr o Gymru oherwydd ei waith ers dros 30 mlynedd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Yn frodor o Rosgadfan, Caernarfon, dechreuodd Arwyn Roberts ar ei yrfa yn argraffydd gyda phapurau'r Herald - Yr Herald Cymraeg a'r Caernarfon & Denbigh Herald - pan adawodd yr ysgol yn 16 oed.

Clawr y llyfr

Achosion da

Newidiodd gwrs a dod yn dynnwr lluniau pen chydig a chafodd ei lyfr Drwy Lygad y Camera sy'n gasgliad o'i luniau dros y blynyddoedd ei gyhoeddi er budd dau achos da, Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd ac Ambiwlans Awyr Cymru.

"Dwi wastad wedi bod yn rhan o waith codi arian at achosion da, naill ai drwy 'ngwaith neu ddigwyddiadau lleol," meddai Arwyn. "Ond wedi i mi golli Mam y llynedd, ro'n i eisiau gneud rhywbeth i ddweud diolch am y gofal anhygoel gafodd hi am bythefnos anodd ar Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd. Dwi hefyd wedi gwneud llawer gyda'r Ambiwlans Awyr dros y blynyddoedd - wedi tynnu llunia o'r hogia'n cael cinio diwrnod Dolig ac ati - a tydi rhywun byth yn gwybod pryd fydd angen eu cymorth."

O blith miloedd

Dewisodd luniau i'w cyhoeddi o blith miloedd o ddelweddau o'i archif bersonol.

"Fe benderfynais i ddewis petha oedd yn dod i'r cof yn hawdd," meddai gan ychwanegu iddo gydweithio gyda'i gyfaill Ian Edwards a fu'n ohebydd gyda phapurau'r Herald ond sy'n awr ar Y Byd ar Bedwar.

Mae'r llyfr wedi ei rannu fesul thema, o adloniant ac eisteddfodau i wleidyddiaeth a thrychinebau lleol ac o selebs i blant ysgol.

"Dwi'n si诺r y bydd rhai o'r llunia 'ma'n codi gw锚n," meddai Arwyn. "Rhowch hi fel 'ma - doedd yr Wythdegau ddim yr amser gorau o ran steiliau gwallt, ac mae rhai selebs wedi gwella wrth iddynt fynd yn h欧n!" meddai.

Hanes Cymru

Gw锚l ei gyfrol fel adlewyrchiad o hanes Cymru dros dri degawd.

"Yn ystod canol yr Wythdegau a dechrau'n Nawdegau, roedd yr holl brotestio dros yr iaith, dros ddeddf eiddo, Meibion Glynd诺r a'r streiciau, doedd 'na ddim Cynulliad. Roedd hi'n amser cyffrous i fod yn ffotograffydd.

" Wrth ddethol y lluniau mi gefais i sioc faint o'n hen adeiladau ni sydd wedi diflannu - o ffatris Corsets a Chorona i waith brics a chwareli. Dwi'n tristau wrth edrych yn 么l a gweld faint o'n hanes ni sydd wedi mynd yn angof a chofio sut oedd pethau ers talwm."

Yr Orsedd

O ran uchafbwynt personol dywed Arwyn mai cael y gwahoddiad i ymuno 芒'r Orsedd, a chael yr enw barddol Arwyn Herald, fu braint fwyaf ei yrfa hyd yn hyn.

"Dwi wedi bod yn Eisteddfota ers cyn cof, felly roedd yn anrhydedd mawr. Roeddwn i'n methu coelio mod i'n cael y fath gydnabyddiaeth am waith sy'n rhoi llawer o bleser i mi. Ydy, mae'r oriau'n gallu bod yn hir a 'da chi'n aml yn gweithio tra mae pawb arall yn mwynhau rhyw ddigwyddiad neu'i gilydd. Ond erbyn hyn, mae'r camera bron yn rhan ohonof i."

  • Cyhoeddir Drwy Lygad y Camera gan Wasg Carreg Gwalch. 拢9.50.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.