主播大秀

Blwyddyn Gap

Rhan o glawr y llyfr

07 Rhagfyr 2009

Adolygiad Ian Gill o Blwyddyn Gap. Golygyddion, Bethan Marlow a Laura Wyn. Gwasg Gwynedd. 拢8.95.

Pe bai David Attenborough yn troi ei gamer芒u at rywogaeth 'y Cymry dosbarth canol', ac yn dilyn un o'r creaduriaid o'i blentyndod i'w lawn dwf, yna'r tebygrwydd yw y byddai'n gweld patrwm amlwg yn natblygiad cymdeithasol yr anifail - o arholiadau lefel 'A' i addysg prifysgol ac ymlaen at swydd a gyrfa.

Clawr y llyfr

Ond, fel y gwyddom o wylio'i gyfresi natur dros y blynyddoedd, mae Attenborough 'n awyddus i dynnu'n sylw at yr eithriadau sy' ym mhob llif naturiol; ac i'r perwyl hwn, efallai dylid gyrru copi o Blwyddyn Gap ato, i brocio'i ddychymyg.

Detholiad o brofiadau

Yr hyn gewch chi yn Blwyddyn Gap yw detholiad o brofiadau ac argraffiadau pymtheg o Gymry ifainc a benderfynodd gymryd hoe fach o'r daith arferol honno o'r ysgol i'r brifysgol i'r gweithle drwy godi pac a mynd i weld y byd.

Ambell un yn dewis mynd dramor i weithio (yn gyflogedig a/neu'n wirfoddol), tra bo' eraill yn mynd am y profiad o weld.

Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae'r arch bacbacwraig, Bethan Gwanas, yn cynnig cynghorion synhwyrol yngl欧n 芒 materion ymarferol fel pres a phasport aballu mewn rhagair difyr, cyn mynd ymlaen i awgrymu mai un o'r hanfodion i deithiwr ydi ymdrechu i ddysgu'r iaith leol. .

Mae hynny'n ddigon teg, ond fel mae'n cyfrannwr o Sbaen yn darganfod, mae byd o wahaniaeth rhwng estoy echo polvo ac estoy echando polvo. .

Wna' i ddim manylu ond am wn i fod y camddealltwriaeth uchod yn un enghraifft o 'stori na fasech chi'n ei rhannu hefo pawb - Mam a Dad, Nain a Taid, Anti Bet ayyb' mae'r golygyddion- Bethan Marlow a Laura Wyn - yn cyfeirio atynt yn y cyflwyniad. .

Dim enw

Ond wrth gwrs, mae'r straeon yn cael eu rhannu hefo pawb sy'n bodio'r llyfr 'ma, a'r hyn sy'n gwneud y penderfyniad golygyddol i beidio rhoi enw awdur ar y straeon ymddangos yn fwy od, ydi'r ffaith fod y cyflwyniad yn cael ei ddilyn gan restr lawn o'r cyfranwyr a ble buon nhw; felly, does dim rhaid i Anti Bet na neb arall fod yn sleuth arbennig o graff i weithio allan pwy gafodd anffawd mewn toiled yn y Ffilapinau neu drafferthion yn croesi'r ffin o Periw i Bolifia. .

Hyd y gwn i, aeth 'r un o'r pererinion ar daith hefo'r bwriad penodol o gyfrannu at lyfr ar y diwedd; felly'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y gyfrol mewn gwirionedd, yw pytiau dyddiadurol personol o fywyd tramor, yn hytrach na llawlyfr sy'n cynghori rhywun sut i deithio o A i B. .

Defnyddiol

Serch hynny, mae'r llyfr yn cynnig cyfeiriadur defnyddiol i unrhyw ddarllenydd sy'n magu blas ar ddilyn 么l troed y teithwyr ond sy'm yn si诺r iawn o sut i fynd o'i chwmpas hi. .

Does yna'n dwy waith amdani fod sawl cyfranwyr wedi gweld a phrofi pethau rhyfeddol - ac yn gwybod sut i greu darluniau trawiadol hefo geiriau. .

Gwnaeth y sylw, "Hanoi ydi'r unig ddinas lle mae hi'n saffach croesi'r ffordd efo dy lygaid wedi cau!" imi wenu ac yn enghraifft o sgwennwr yn dal ei afael ar y foment. .

Ceir esiampl debyg, ond cwbwl wahanol, yn y dyfyniad nesaf: .

"Os gallwch chi ddychmygu pob cyfandir yn y byd yn sownd yn ei gilydd ar un adeg, wel, Ethiopia ydi'r unig ddarn o dir sydd wedi aros yn ei unfan." .

Mae'n cyfleu llonyddwch cyntefig y tirwedd, yn dydi? Tra bo' disgrifiad ein cyfrannwr o weld ysgrifen Siapaneaidd ym maes awyr Nagoya "yn gawl o siapie gwyllt", yn crynhoi dieithrwch y wlad honno a'i diwylliant i'r dim. .

Wrth gwrs, ni all llyfr fel hyn beidio 芒 s么n am hiraeth. Mae un cyfrannwr yn yr Himalaya "...filoedd o filltiroedd o adra, 4,000 medr i fyny o'r m么r -ac alla i ddim stopio meddwl am Nain"; cyn ychwanegu, "'mod i 'di gweld pa mor bwysig ydi'r henoed. Dwi 'di gweld faint o barch maen nhw'n ei gael ar yr ochr yma i'r byd...".

I mi, mae sgrifennu teithiol llwyddiannus yn cynnig mwy na chyfres o ddisgrifiadau manwl o'r hyn mae'r awdur yn ei weld; mae'r stwff gorau'n dadlennu'r awdur hefyd - ceir nifer o gyfraniadau addawol yn y gyfrol hon. .

Anthem y dolffin

Mae un o'r straeon mwya' bis芒r yn y llyfr yn mynd 芒 ni i arfordir gorllewinol ynys De Seland Newydd a phrofiad teithiwr yn nofio hefo dolffiniaid.

Yn 么l arweinydd y trip, un ffordd o ddifyrru'r creaduriaid yn y d诺r oedd drwy ganu iddynt:

"Darganfyddais fod dolffiniaid Seland Newydd yn hoff iawn o Hen wlad fy Nhadau. Dechreuais drwy ganu Calon L芒n ond doedd ganddyn nhw ddim diddordeb, ond pan ddechreuais ganu ein hanthem daeth pedwar neu bump i nofio o nghwmpas mewn cylchoedd. Yna, wedi i mi orffen yr anthem a dechrau canu Bing,Bong,Be, i ffwrdd 芒 nhw eto." .

Ac i brofi nad ffliwc oedd y cyfan, dyma'i ffrind yn dechrau canu'r anthem: "a heb air o gelwydd, ymhen dim roedd wyth dolffin yn nofio o'i chwmpas!" .

Tybed 芒 fydd esboniad o'r ffenomenon ryfedd hon yn cael ei gynnig yng ngyfres nesa' David Attenborough ?!


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.