主播大秀

Eurwyn Williams - Y Bwthyn Cymreig

Rhan o glawr y llyfr

17 Ionawr 2011

  • Adolygiad Richard Glyn Roberts o Y Bwthyn Cymreig [:] Arferion Adeiladu Tlodion y Gymru Wledig, 1750-1900, gan Eurwyn Wiliam (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2010). Pris: 拢29.95.

Ym mharagraffau cyntaf pennod gyntaf y gyfrol ysblennydd hon dadleuir fod traddodiadau pensaern茂ol gwerinol Cymru'n haeddu mwy o sylw gan haneswyr a hynny oherwydd nad yw pensaern茂aeth fawreddog nac yn gyffredin nac yn gynrychioladol o aneddfeydd trwch y gymdeithas.

Symbolau

Yn hytrach symbolau ydyw tai byddigions o 'hanes gwleidyddol'. Gellid ychwanegu, yn fwy diamwys, mai symbolau ydynt o ormes wleidyddol ac economaidd, ac mai'r ochr arall i'r ormes honno - ochr y derbynnydd - a gynrychiolir gan y bensaern茂aeth gynhenid hithau.

Clawr y llyfr

Mae elfen o ddadlau achos yn yr ymdriniaeth hon 芒 chartrefi dosbarth gweithiol cefn gwlad Cymru, yn neilltuol yn y bennod agoriadol, lle cyfiawnheir maes yr astudiaeth, a'r bennod glo lle crybwyllir rhai o'r ystyriaethau sy'n gyrru'r gwaith ac sy'n dwyn perthynas 芒 phryderon cyfoes, megis cadwraeth ein treftadaeth adeiledig a chynaladwyedd.

Dwyseir yr argyhoeddiad o berthnasedd cyfoes y gwaith gan gymariaethau dibrin ag arferion adeiladu ac anheddu tlodion heddiw.

Wedi bod yn 'rhy ynysig'

Ar dro hefyd ymestyn yr elfen ddadleuol i gorff y llyfr. Wrth gloriannu'r ffynonellau deil yr awdur "fod awduron Cymru'r gorffennol wedi bod yn rhy ynysig ac amddiffynnol wrth ymateb i sylwadau'r twristiaid cynnar o Loegr" am mai lladd ar ddosbarth yn hytrach na chenedl a wn芒i y rheini at ei gilydd.

Onid y pwynt allweddol, digrybwyll yma, yw fod trwch y genedl dan sylw yn perthyn i'r un dosbarth?

Yn yr un modd, ac o safbwynt y presennol, gellid gweld yn sylw Dafydd Elis-Thomas am 'dai fforddiadwy' eu cyfnod (yn ei ragair i'r llyfr) addefiad o realiti annymunol yr argyfwng tai yn y Gymru wledig heddiw i'r rhai tua gwaelod yr hierarchaeth gymdeithasol.

Heb ddilyn y trywydd hwn ymhellach, mae'r rhannau hyn o'r llyfr lle gwyntyllir barn argraffiadol yn amlygu'r clymau symbiotig rhwng y gwyddorau dynol a phryderon cyfnod.

Wyth pennod

Rhennir y llyfr yn wyth pennod: y cyflwyniad a'r bennod glo y cyfeiriwyd atynt eisoes; pennod ar hanes patrymau anheddu a phennod gyffredinol ar adeiladau traddodiadol Cymru lle trafodir yr amrywiadau rhanbarthol a hanesyddol ar gynllun syml y bwthyn traddodiadol ac y cesglir ynghyd hefyd, mewn adran neilltuol ddiddorol, yr hyn a wyddom am yr arfer o godi tai unnos.

Yna neilltuir pennod yr un i drafod waliau, toeon a thu mewn y bythynnod a'r dulliau a'r deunyddiau a ddefnyddid i adeiladu gwahanol rannau cragen ac elfennau hanfodol bwthyn.

Ceir, yn ogystal, bennod ar y preswylwyr a'r adeiladwyr, boed yn unigolion a godai eu tai eu hunain neu'n grefftwyr a gyflogid gan rai mwy cefnog i gwblhau'r gwaith, yr amser a gymerai'r cyfryw waith ac amcan o'r costau.

Cyfaredd manylder

Yn eu manylder y mae cyfaredd y penodau hyn. Darllenwn am ychydig arfau dethol y saer gwlad o'u cymharu 芒 helaethrwydd cynnwys cist arfau saer dodrefn o Lundain; y dulliau amryfal o godi muriau o glai; adeiladwaith simneiau o fangorwaith; y gorgyffyrddiad hwy ar doeau llechi sy'n agored i'r tywydd a manylion technegol cyffelyb.

Crybwyllir hefyd grefftau atodol megis cynhyrchu brwsys gwyngalchu ac arferion diflanedig fel hel poethwal - sef bonau eithin llosg - yn danwydd.

Ochr yn ochr 芒'r cofnod materol a thystiolaeth ddarluniadol a ffotograffig, tynnir ar lu o ffynonellau ysgrifenedig, yn gofnodion sylwebwyr o'r tu allan i Gymru, rhai ohonynt, fel Edmund Hyde Hall, awdur diragfarn A Description of Caernarvonshire, yn fwy goleuedig na'i gilydd, ynghyd ag ysgrifeniadau deallusion brodorol fel Gwallter Mechain.

Iolo Morganwg

Rhoir pwys arbennig ar dystiolaeth hunangofiannau Cymraeg y ganrif ddiwethaf, o Hen Atgofion W J Gruffydd ymlaen.

Yn flaenaf ymysg y deallusion brodorol hyn mae Iolo Morganwg. Gwyddys mai saer maen oedd Iolo wrth ei waith ond, oddieithr mewn un erthygl gan Richard Suggett, ni chafwyd ymdriniaeth drwyadl 芒'r agwedd hon ar fywyd Iolo a'r modd y gorymylai ei briod grefft yn fynych ar ei waith hynafiaethol.

Dyfynnir yma'n helaeth o draethodau anghyhoedd ganddo ar gyfansoddiad morter a chyfrinion eraill crefft y saer maen.

Lluniau

Yn 么l arfer y Comisiwn Henebion, brithir tudalennau'r llyfr gan ffotograffau dethol a chynlluniau sy'n rhwyddhau amgyffred y darllenydd o'r pwnc fel yr arlwyant hefyd wledd i'w lygaid.

Hoffais yn arbennig rai o'r lluniau o grefftwyr wrth eu gwaith - y llifiwrs yn y pwll llifio ar dudalen 121 a'r t枚wr yn naddu pegiau ar dudalen 154.
Richard Glyn Roberts.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.