主播大秀

Ned Thomas - adolygiad o 'Bydoedd'

Ned Thomas

04 Tachwedd 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o Bydoedd 'Cofiant Cyfnod' gan Ned Thomas. Lolfa. 拢9.95

  • Gwrando hefyd: Ar ddiwedd yr adolygiad hwn gellir gwrando ar Sioned Williams yn trafod y llyfr ar Raglen Dewi Llwyd, 主播大秀 Radio Cymru, Tachwedd 21 2010.

Pan roddais i "Ned Thomas" yn Google cefais fy arwain yn gyntaf i ddalen sy'n cychwyn fel hyn:

"Ned mainly carries out clearance work and quarry digging. Ned is sometimes clumsy, but can always be relied on by his friends."

Un o drenau Thomas y Tank ydi'r Ned hwnnw yn Google ond 'Ned Thomas Y Byd' yw un y cofiant dipyn yn wahanol hwn.

Galwodd y llyfr yn fath o lyfr taith ac y mae sawl lle a gwlad ynddo. Neu fydoedd bychain y bu'r awdur yn byw ynddyn nhw gan gychwyn yn Lloegr, lle cafod ei eni, yr Almaen, wedyn, yn blentyn yn syth wedi'r Ail Ryfel Byd, Rwsia, Sbaen a maes o law yn 么l i Gymru lle bu'n rhoi ei welediad rhyngwladol ar waith mewn sawl cylch.

Clawr Bydoedd

Nid oes gwadu iddo fod yn fywyd difyr ac yn un go wahanol i'r hyn a gawn yn y myrdd - yn y gormodedd, bosib - o hunangofiannau Cymraeg a gyhoeddir y dyddiau hyn.

'Y Byd'

Ond er y lleoedd pell a dieithr, a'r olwg wahanol ar bethau, fuaswn i'n synnu dim na fydd nifer yn cychwyn ar eu taith i fydoedd y gyfrol hon gyda'r Byd ei hun - y papur newydd dyddiol Cymraeg yr ymdrechodd Ned Thomas mor ddiwyd a chyda chymaint s锚l i'w sefydlu.

Dyna wnes i, beth bynnag. Wedi golwg frysiog ar y dalennau agoriadol neidio dros y lleill i ddalen 192, "Papur Dyddiol Cymraeg? Ymgyrch Y Byd 2000-08.

A chael fy atgoffa i'r diweddar R Bryn Williams gyfeirio at fenter y Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia fel un o fethiannau godidocaf cenedl y Cymry.

Mae'n ddisgrifiad sy'n ymylu ar fod yn un teg o "ymgyrch Y Byd" hefyd - a chymryd bod yr hoelen olaf wedi ei rhoi yn yr arch honno.

Dwi'n amau y byddai Ned Thomas yn cytuno 芒 hynny. Yn wir, rwy'n amau a fyddai ef yn cydnabod bod yna arch hyd yn oed ac mai adroddiadau o'r un waden a'r rhai am farwolaeth Mark Twain yw'r rghai am farwolaeth y fenter er mor anodd yw hi bellach i'r gweddill ohonom argyhoeddi'n hunain bod rhagor o hoedl yn y fenter honno.

Beth bynnag am hynny fe fu yna ddisgwyl ymhlith nifer ohonom sydd a'n bysedd yn y brywesau hyn am ymateb arian byw y fenter i'r diwedd siomedig.

Eglura Ned Thomas mai menter a dyfodd gyda dyfodiad datganoli oedd hi.

"Heb ddatganoli, fyddwn i erioed wedi meddwl bod papur dyddiol Cymraeg yn bosibl," meddai.

Yn eironig iawn grymoedd datganoli a'i tarodd yn ei dalcen hefyd a Ned Thomas yn gweld hynny fel tor addewid chwerw.

Gymaint chwerwach, si诺r o fod, am mai Gweinidog o Blaid Cymru oedd yn gofalu am y pwrs allasai fod wedi rhoi cychwyn i'r cyhoeddiad.

"Roedd ymrwymiad i'r papur dyddiol ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad 2007. Wedi'r etholiad, cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod hwythau hefyd o blaid . . . a phan gyhoeddwyd rhaglen clymblaid yr enfys (Plaid Cymru, Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol) roedd ymrwymiad yno," meddai Ned Thomas gan ychwanegu:.

"Mae'r ymgymeriad i'w weld yn blaen yn y ddogfen Cymru'n Un, rhaglen y glymblaid (Llafur-Plaid Cymru) a ddaeth yn lywodraeth."

Dim rhyfedd bod yr ymgyrchwyr mor dalog y cyfnod hwn; "Roedd yr un undod pleidiol tu 么l i'r papur ag oedd tu 么l i'r Sianel yn etholiad 1979," meddai.

Ond fel gyda honno, er cystal yr edrychai pethau ar y cychwyn daeth y daranfollt ac ni ddaeth yr arian a ddisgwylid.

Ac yn 么l Ned Thomas fe wnaed mwy na drwg i'r Byd:

"Yr hyn wnaeth ddrwg i'r llywodraeth yng Nghymru, ac i Blaid Cymru yn arbennig, oedd y dadleuon amaturaidd ac anghyson a ddefnyddiwyd wedi'r digwyddiad i gyfiawnhau'r penderfyniad," meddai.

Mae'n datgelu hefyd iddo gael galwad ff么n gan rywun yn cynnig protestio trwy ymprydio i farwolaeth ond nid oedd ef ei hun o blaid y math yna o weithred yn yr achos arbennig hwn.

Beth felly yw'r dyfodol? Oes yna ddyfodol? Does yna ddim dweud hynny ac mae rhywun yn siomedig nad yw'r perwyl hwnnw yn cael ei ddilyn.

Ta beth, mae'n bennod y bydd darllen mawr arni ac yn un sydd ymhell o fod wedi rhoi caead ar y piser. Bydd hwnnw'n dal i ffrwtian.

Ymgyrchydd Pencarreg

Lle nesa? Gyda'r holl wledydd dieithr eraill yn ein gwahodd mae'n debyg mai pennod am ymrafael Cymreig arall fydd yn hudo sawl darllenydd. Hanes sefydlu S4C a rhan Ned Thomas yn hynny yn un o'r triawd gyda Meredydd Evans a Pennar Davies a weithredodd yn uniongyrchol ym Mhencarreg i'w sicrhau.

Gyda'r Sianel yn gymaint o bwnc trafod y dyddiau hyn mae'n ddifyr ac yn fuddiol dychwelyd at yr hanes cynnar hwn ac mae'n ddiddorol nodi i'r gyfrol gael ei "lansio" a defnyddio'r derminoleg gyfoes ddeuddydd rali yng Nghaerdydd i brotestio yn erbyn toriadau arfaethedig.

A diau bod neges Ned Thomas am y cychwyn yn haeddu'r un ystyriaeth heddiw:

"Ni fydd sianel Gymraeg yn datrys holl broblemau'r iaith heb s么n am broblemau economi Cymru, ond mae teledu yn fater pwysig [. . .]Yn raddol sylweddolais y byddai cenedl a oedd yn bodloni ar y driniaeth a dderbyniodd ym mater y sianel yn fodlon derbyn popeth. I mi gweithred fach symbolaidd yn dangos ein bod yn gwrthod y fath driniaeth oedd gweithred Pencarreg," meddai.

Wedi'r Rhyfel

Yn yr Almaen y cychwyn yr hanes lle'r oedd tad Ned Thomas y plentyn yn farnwr a rhan yn y gwaith o ddadnatsio y wlad honno wedi'r Ail Ryfel Byd.

Buan iawn y gwelwn wrth ddarllen, er bod elfennau personol iawn yn y gyfrol, yn naturiol, nad hunangofiant yn yr ystyr traddodiadol mo hwn a hyd yn oed wrth adrodd am brofiadau personol arddull y sylwebydd gwrthrychol sydd yma ac fe wnaeth yntau y pwynt mewn cyfweliad radio mai arsylwi ar bethau hyd braich y mae gan ei droi ei hun yn llygad dyst yn hytrach nag yn wrthrych.

Ond fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan un sy'n diffinio 'bydoedd' fel yr endid sy'n bodoli o fewn ieithoedd gwahanol y bu ef yn rhan ohonynt y mae yma fwy nag arsylwi oeraidd. Mae yma athroniaeth i ymh茅l 芒 hi a sylwedd i gnoi cil arno.

A'r cyfan yn cael ei fritho gan seibiau difyr fel ei brofiad yn cael ei gwrso gan ferched dengar ym Moscow a chael ei gyhuddo o fod yn ysb茂wr yng Nghymru pan ddychwelodd i fyw yng Ngheredigion yn y Chwedegau.

Mae'r bennod honno yn un y bydd yn rhaid i'r rhai hynny ohonom sy'n cofio erthyglau Emyr Llew yn Tafod y Ddraig a'r cynnwrf achosodd hynny ar y pryd, ei darllen.

Cawn hanes hefyd cyhoeddi'r gyfrol wych honno, The Welsh Extremist a sefydlu'r cylchgrawn Planet a chanolfan Mercator.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

A dyna ni. "Welcome to my world," ganodd Jim Reeves yn y Pumdegau ac Elvis wedyn. Croeso hefyd i Bydoedd cofiant Ned Thomas o gyfnodau difyr ac amrywiol yn ei fywyd.
Glyn Evans.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.