主播大秀

Caelloi - hanes cwmni bysiau

10 Chwefror 2011

O ful i fysus

  • Adolygiad Glyn Evans o Llongau Tir Sych. Hanes cwmni bysiau Caelloi yn y gyfres 'Syniad Da'. Gwasg Carreg Gwlach 拢5.

Mae'r daith i Gyfandir Ewrop yn y llyfr hwn yn cychwyn gyda mul, echel, dwy olwyn a chydig o styllod yn 1851.

Yn gwmni adnabyddus bellach gyda fflyd o fysus moethus, fel 'cariwr' ym Mhen Ll欧n y dechreuodd cwmni Caelloi Cymru. .

"Syniad Da," ydi enw'r gyfres gymharol newydd hon o lyfrau a gyhoeddir gan Fyrddin ap Dafydd a'i Wasg Carreg Gwalch (syniad da arall!) ac heb os mae hynt cwmni Caelloi yn haeddu'r disgrifiad hwnnw.

"Mae'r cwmni hwn wedi bod yn trefnu gwyliau teithiol ers dros hanner canrif. Hwn oedd y cwmni cyntaf i gynnig gwyliau yng Nghaerdydd i ogleddwyr," meddai Myrddin ap Dafydd wrth gyflwyno'r llyfr.

Yn Ewrop

O fod yn cludo blawd a chynnyrch arall gyda cheffyl a chert o draethau Ll欧n i Bwllheli a lleoedd eraill mae gwledydd Ewrop ar 'r诺t' Caelloi erbyn hyn hefyd ac, yng ngeiriau Myrddin unwaith eto, "Yn ogystal 芒 mynd 芒 Chymry ar eu gwyliau i Ewrop, roedd Ewrop yn dod i wybod am Gymru drwy gyfrwng Caelloi."

Mae'n hanes difyr sut y tyfodd "cwmni cariwrs" ym Mhen Ll欧n - a ddefnyddiai yn ei dro, gert a mul, ceffylau a throliau a lor茂au i gludo nwyddau oddi ar longau hwyliau - yn gwmni sharibangs ac yn awr, fysiau moethus mor uchel ei barch.

Mae taith hanes y cwmni yn un gwerth ymuno 芒 hi gan fod y llyfryn bach 112 tudalen hwn gyda'i drysorfa o hen luniau nid yn unig yn ddifyr ond yn gofnod o hanes y gall nifer ohonom, uniaethu ag ef.

Mae'n wers hanes i rai na chofiant shiaribangs a thripiau anturus i leoedd fel Y Rhyl.

Hen daid

Awdur yr hanes ydi Thomas Herbert Jones a fu'n gyrru bysus Caelloi ers y Tridegau. Mae'n cychwyn yr hanes yn oes y troliau gyda'i hen daid, Tomos Huws, gwas fferm a oedd yn byw mewn tlodi gyda'i wraig Elin "heb fedru fforddio na chloc na watch".

Etifeddodd ef ful yn rhodd gan ei gyflogwr pan orfododd ei iechyd ef i roi'r gorau i'w waith.

Ond pa iws mul heb drol?

"Doedd Tomos ddim yn medru fforddio trol, ond drwy haelioni ffermwr . . . cafodd echel a dwy olwyn. Gorffennodd Tomos y gwaith drwy hoelio ychydig estyll a llorpiau at yr olwynion - a dyna'r busnes a dyfodd yn Caelloi Cymru," meddai'r awdur!

Mae'n dal yn ddywediad ymhlith gweithwyr y cwmni; pan fo rhywun yn gwneud rhywbeth gwirion, fod y drol wedi mynd ond ambell i ful yn dal yno! Gwreiddiau.

Daeth Tomos yn un o'r 30 o gariwrs oedd yn Ll欧n erbyn 1851 yn cyfarfod llongau oedd yn dadlwytho ar y gwahanol draethau a phorthladdoedd.

Ei ferch ef oedd nain yr awdur a'i mab hi, Thomas Hughes Jones, tad yr awdur, ymestynnodd, maes o law, y busnes o oes y drol a cheffyl "i oes y moto olwynion" a bysus moethus rhyngwladol.

Mab yr awdur sydd wrth y llyw, fel petai, erbyn hyn ond y tad, dros ei bedwar ugain, yn dal i weithio ac o'r farn mai "un o'r pethau gwaethaf wnaiff rhywun ydi ymddeol"..

Mae'n stori gyffrous, brith o gymeriadau, hwyl a dycnwch wrth i gwmni cludo nwyddau addasu yn gyntaf lor茂au fel eu bod hefyd yn cludo pobl ac wedyn yn tyfu'n gwmni bysiau.

Ar gyfer y teithiau cynharaf - cyn belled ag Aberystwyth! - byddai gofyn i bob teithiwr ddod 芒'i glustog ei hun i arbed ei ben-么l ar y seddau pren, caled!

Bygythiad dwrn mawr

Ac fel pob stori dda mae yma ddihirod yn ogystal ag arwyr a'r dihiryn pennaf gallwn dybio ym myd y bysus bach y wlad oedd "bachau barus Crosville" a oedd am ledaenu ei ymerodraeth o'i bencadlys yng Nghaer trwy brynu'r cwmn茂au llai.

Yr oedd cwmni Caelloi ymhlith yr ychydig wrthododd gymryd ei lyncu.

"Yn 1936 daeth yr anghenfil mawr hwnnw, Crosville Motor Company, i sathru ar gyrn pawb," meddai Thomas Herbert Jones. "Y dwrn mawr" a ddaeth i lawr yn erbyn y dyrnau bach gan brynu nes nad oedd ond dau o gwmn茂au Ll欧n ar 么l, Williams Llithfaen a Chaelloi - dau gwmni a brofodd na all pres brynu popeth.

Hogia'r Wyddfa

Mae'r gyfrol yn gymaint am bobl ag yw hi am sefydlu a magu cwmni ac y mae sawl stori ddifyr am gymeriadau Ll欧n ac am droeon difyr a thrwstan ar amryfal deithiau.

Ymweliad 芒 dyffryn Rhein ganol y Chwedegau er enghraifft a phump o lafnau ifanc a ddaeth at ei gilydd i ganu Bugail Aberdyfi yn fyrfyfyr yn un o Weingartens Koblenz yn cael cystal derbyniad yr oedd teithwyr o bob cwr o ogledd Cymru yn eu gwahodd atynt i gadw noson.

"Cyn hir roedd 'Hogia'r Wyddfa' yn enw cenedlaethol - ond mewn neuadd gwrw ar drip Caelloi y bu'r enedigaeth," meddir.

Syniad da arall . . .
Glyn Evans

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.