主播大秀

Ifor Pritchard - Craig yr Oesoedd

Clawr y llyfr

11 Hydref 2011

Adolygiad Lois Eckley o Craig yr Oesoedd / True Grit. Lluniau Ifor Pritchard. Gwasg Carreg Gwalch. 拢20.

Casgliad o ddarluniau, cerddi ac atgofion gawn ni yng nghyfrol ddwyieithog Craig yr Oesoedd. Camu n么l i'r 1940au ac i fagwraeth Ifor Pritchard yng Ngharmel heb fod nepell o Chwareli Llechi Dyffryn Nanlle.

Byd dynion y frwydr ddyddiol o dorri llechi a gwedd茂o gweld diwedd y dydd yn fyw.

Does dim byd yn rhamantaidd am ei luniau, maen nhw'n galed, yn gryf ac yn onest.

Does dim lliwiau llachar ond cymysgedd o las llwyd a phorffor.

Taenwyd olew trwchus a chyllell, nid brwsh, dros y cynfasau sydd yn meistroli'r paent.

Mae'r cyfan yn fwriadol ac yn ychwanegu at yr hyn yr oedd Ifor Pritchard yn ei werthfawrogi.

Efallai, ynghanol ein byd technolegol fodern heddiw nad oes cof o'r gwaith diwydiannol caled hwn - er i drychineb pwll glo y Gleision ddod a'r byd hwnnw i'r amlwg mor boenus o glir dros yr wythnosau diwethaf.

"Mae'r lechen, ond dim y llwch yn fy ngweithienau," meddai mewn cyfweliad cyn iddo farw ac nid ef yw'r unig artist i dynnu ysbrydoliaeth o'r byd garw hwn. Mae yna gymysgedd o edmygedd a rhyw swyn yn perthyn i'r byd hwn i sawl artist.

Mae yna sawl darn trawiadol yn ll锚n ac yn llun yn y llyfr hwn. Ymhlith fy ffefrynnau mae'r darlun o ddau ddyn yn gwthio yn erbyn y graig yn nyfnderoedd y chwarel . Eu cefnau nhw'n adnabod si芒p y graig ac yn rhan ohoni.

Chwarelwyr yn y llyfr

Mewn darn arall mae yna res o ddynion ymhlyg yn eu cotiau trymion yn cerdded yn y tywydd am y chwarel ac yn y cefndir y cerrig porffor a darnau awgrymog o goch yn eu tywys nhw i'w gwaith.

Mae gwaed ar sawl carreg yn y chwarel hon.

Gari Wyn yw awdur y cyflwyniad craff yn y llyfr ac mae'n ychwanegu at y cyfan fod cyfaill wedi adnabod calon yr arlunydd a ddywedodd yn blaen mewn cyfweliad, gan ddyfynu Francis Bacon;

"Madam petawn i'n gallu siarad amdanynt, yna fyddai dim rhaid imi fod wedi eu peintio nhw." ("Madam, if I could talk about them I would not have had to paint them")

Os oes beirniadaeth o gwbwl o'r y llyfr yma mi fyddwn i wedi mwynhau cael gweld rhai o ddarluniau Ifor Pritchard yn eu hysblander yn llenwi'r dudalen ynghanol y llyfr ac yn atalnod llawn balch ar ei ddiwedd.

Mae yna bwysau a phwer yn y delweddau llwydlas ac mae'r geiriau ar adegau yn mynd yn ofer.
Lois Eckley


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.