主播大秀

Gareth F Williams: Creigiau Aberdaron

14 Rhagfyr 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o Creigiau Aberdaron gan Gareth F Williams. Gwasg Gwynedd. 拢8.95.

Rwy'n amau a welwn ni'r nofel hon yn ddrama ar S4C yn y dyfodol agos. Mae pennod deimladwy ynddi sy'n llawdrwm ar y ffordd y mae'r Sianel yn trin cwmni cynhyrchu sy'n rhan o'r stori.

Cynhyrchodd cwmni Daron nifer o raglenni llwyddiannus i'r Sianel yn y gorffennol ond mwyaf sydyn, dan oruchwyliaeth newydd, sychodd y grefi a symudodd y tr锚n i stesion arall a'r Sianel, yn y nofel, yn cael ei chyhuddo o fod allan o gysylltiad 芒 gwylwyr Cymraeg ac o drin cwmniau cynhyrchu bychain yn siabi.

Mae golygfa eithaf dirdynnol yng nghyntedd pencadlys S4C yng Nghaerdydd.

Yr argraff a roddir i ddarllenydd cyffredin fel fi yw bod asgwrn yn cael ei grafu ar sail profiad yn y byd go iawn. Yn sicr nid yw'n rhan o'r stori a fydd yn anwylo'r nofel i'r Sianel y dyddiau trafferthus hyn yn ei hanes.

Wrth gwrs gallasai digwyddiadau'r misoedd diwethaf yma fod yn destun nofel yn eu hawl eu hunain, yn hytrach na digwyddiad ymylol. Edrychwn ymlaen at y nofel honno ac, yn wir, at weld pwy fydd yn ei sgrifennu!

Dau deulu

Mae Creigiau Aberdaron yn ymwneud yn bennaf a dau deulu sy'n byw yn Aberdaron a'r modd y chwelir eu bywydau.

Yn union fel ag y mae "tonnau gwyllt y m么r" a ysbrydolodd Cynan yn dyrnu'r traeth a'r creigiau felly hefyd donnau trofaon bywyd aelodau y ddau deulu yma.

Y canolbwynt yw un gyfrinach fawr na fyddai'n adolygydd cyfrifol yn ei datgelu.

Mae'r nofel yn cychwyn gyda phrolog yn ymwneud 芒 digwyddiad mewn parti ac wedyn am dros gant o ddalennau fe'n tywysir erbyn tudalen 148 trwy ddigwyddiadau arweiniodd at y digwyddiad a ddisgrifir gyda chymaint cynildeb yn y prolog.

Wedi'r hyn mae'r awdur yn ei alw yn 'Egwyl' caeir pen y mwdwl rhwng dalen 171 a'r diwedd gyda chynffon bryfoclyd o epilog ar ddalen 251.

Bwydo'n gynnil

Dull y pysgotwr yw un Gareth F Williams o sgrifennu yn cynnil fwydo'r darllenydd 芒 digon o abwyd i'w gadw o gwmpas y bach. Weithiau, a theimlwn bod hynny'n wir yn achos y nofel hon, maen ein cadw heb ein digoni yn rhy hir gan roi'r ymdeimlad o dindroi braidd ac o ddim digon yn digwydd.

Fwy nag unwaith teimlais bod lle i brysuro'r stori yn ei blaen ac allai ddim dweud a fy llaw ar fy nghalon a fyddwn i wedi dal i ddarllen ar un cyfnod oni bai am yr angen i weld y diwedd i ddibenion adolygu.

Er nad yw'r canlyniad yn gwbl annisgwyl yr oeddwn yn falch imi bydru mlaen ac y mae'r nofel yn cyflymu cryn dipyn yn ystod yr ail hanner.

Tri o bobl ifanc

Mae'r stori yn troi o gwmpas tri o bobl ifainc yn eu harddegau, Leah Wyn sy'n ferch i Alun a Morfudd Warren.

Ffrind orau Leah ydi Awel, chwaer Sion sydd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad 芒 Leah sy'n ei ystyried yn ddim amgenach na ffrind da iawn.

Eu rhieni hwy ydi Dyfrig a Rhiannon Parri, y naill yn athro yn yr un ysgol ag Alun Warren a'r llall yn gynhyrchydd teledu annibynnol mewn cwmni 芒 Gwynant sy'n ddiweddar weddw.

Dyna'r cynhwysion a gwell ei gadael hi ar hynny heb ddatgelu beth sy'n digwydd iddyn nhw yn sosban lobsg贸ws dychymyg yr awdur.

Digon yw dweud y bydd hon, pedwaredd nofel Gareth F Williams i oedolion, yn plesio.

Tair seren allan o ddeg roddais i i'r nofel hon o ran fy nisgwyliadau ohoni ar fy rhestr o ddeg llyfr Nadolig 2010 a does dim rheswm dros newid hynny - ac y mae pleser ychwanegol i'r rhai hynny sy'n gyfarwydd ag Aberdaron mewn dilyn daearyddiaeth y pentref hwnnw.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.