主播大秀

Chris Cope - adolygiad o Cwrw am Ddim

Rhan o glawr Cwrw am Ddim

posted: 22 Awst 2009

Adolygiad Glyn Evans o Cwrw am Ddim gan Chris Cope. Gomer 拢8.99.

Mae'r Americanwr Chris Cope yn gorffen yr hanes amdano'I hun yn dysgu Cymraeg iddo'i hun trwy ddweud:

"Ac yn awr yr wyf yn byw yng Nghymru fach ddel ac mae popeth yn hollol berffaith. The end. Diolch yn fawr iawn ichwi am ddarllen fy llyfr annwyl."

Ond ar ddalen 80 o Cwrw am Ddim y dywed o hynny - ac mae 237 dalen i'r llyfr a phethau mawr yn digwydd i'r Americanwr ifanc ar y rheini.

Clawr y llyfr

Yr anghymwynas fwyaf y gallwn ei wneud 芒 darllenwyr - a'r awdur ei hun tasai'n mynd i hynny - fyddai manylu yngl欧n 芒'r pethau mawr hynny.

Digon yw dweud fod y cyfan yn afaelgar ac yn agoriad llygaid. Chymrai mo nhemtio i ddweud eu bod yn darllen fel nofel o gofio rhai o'r nofelau sy'n cael eu cyhoeddi.

Y Profiad Cymreig

Ar ben hynny, mae hanes ymgais Chris i feistroli'r iaith a chael gafael ar Y Profiad Cymreig sydd mor bwysig iddo ymhell o fod y stori dylwyth teg arferol flynyddol sy'n cael ei hadrodd noson Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - ac mae ganddo rywbeth i'w ddweud am y gystadleuaeth honno hefyd - ac mae hynny cyn tudalen 82.

Mae Chris Cope yn ddysgwr anarferol ac mae ganddo stori anarferol, wahanol, a honno'n stori sy'n cydio.

Nid yw'n cynnig y rhesymau clodwiw arferol dros ymgyryd 芒'r dasg.

Yn hytrach, o deimlo'n ddiflas un prynhawn a chyda dim byd arall gwell i'w wneud ond pori'r we mae'n penderfynu o ddod ar draws y Gymraeg ar wefan y 主播大秀 ddysgu'r Gymraeg iddo'i hun trwy gymorth y ddywededig ryngrwyd a thapiau yn hytrach na gwersi wyneb yn wyneb - rhywbeth a fyddai wedi bod braidd yn anodd ym mherfeddion yr Unol Daleithiau.

Mae bodolaeth y llyfr yn dweud iddo lwyddo felly dydw i ddim yn datgelu unrhyw un o gyfrinachau'r gyfrol trwy ddweud hynny ond mae hon hefyd yn gyfrol am brofiad dyn yn ceisio "fy nghymwyso i'w chymdeithas" meddai.

Ac er na all, sawl gwaith, ateb y cwestiwn Pam? Mae'n dweud iddo deimlo "yn y b么n mod i fod i ddysgu'r Gymraeg; mae'n swnio'n rhyfedd ond dyna ni!"

Llyfr taith

Yn ei hanfod, llyfr taith ydi Cwrw am Ddim yn ddaearyddol ac yn drosiadol - a honno'n daith drofaus ar hyd ffordd ffordd garegog a garw.

Ac er yn lled ddisgrifio ei hun yn un lle fel "dim ond smartass o'r Unol Daleithiau" y mae Chris Pope yn un da i fod yn ei gwmni ar daith o'r fath.

Mae ganddo olwg wahanol ar bethau, mae'n ffraeth, yn opiniyngar ac yn meddu ar arddull sy'n eich hudo gydag ambell i dinc o Bill Bryson fwy nag unwaith.

Gellir mwynhau y ffordd mae'r llyfr hwn wedi ei sgrifennu gyda'i adleisiau o ddywediadau Americanaidd mewn geiriau Cymraeg.

Dawn plentyn

Weithiau, mae ganddo ddawn plentyn i ryfeddu at yr annisgwyl a'r hyn sy'n anghyffredin o'n i'r ymwelydd megis y ffaith fod rhaid gofyn yn benodol os ydych am i'ch tren aros yn stesion Conwy.

Fel hyn y mae o yn disgrifio ei hun:

"Person emosiynol ydw i yn y b么n. Rydw i'n hapusach pan nad ydw i'n meddwl gormod am bethau; mae'n well gennyf neidio i mewn i sefyllfa a wedyn delio 芒 hi fel y mae. OK, chwarae teg, nid dyna'r ffordd orau i fyw, ond mae yn haws. Ac yn fwy cyffrous."

Yr union berson felly i deithio taith yr iaith yn ei gwmni - hyd yn oed i'r iselfannau.

Mae'n daith sydd hefyd wedi golygu mwy iddo na dysgu geiriau.

"Mae'r Profiad Cymraeg fel crefydd. Amser maith yn 么l, pan es ati i ddysgu'r iaith meddyliais taw iaith yr oeddwn yn ei dysgu. Ond mae'n fwy na hynny, onid yw? Nid geiriau a gramadeg a chystrawen yn unig yw'r Gymraeg; mae'n ddiwylliant, yn bobl ac yn ddull o feddwl. Pan fo person yn dysgu'r Gymraeg disgwylir iddo ddysgu hefyd sut i fod yn Gymro. Yn fwy na hynny disgwylir iddo geisio bod yn Gymro," meddai.

Cyffes ffydd

Ymdrech yw dalennau olaf, go iawn, y llyfr i grynhoi ac i ddod at ei gilydd yr holl oblygiadau hyn pethau nad ydym ni'r Cymry Cymraeg yn ymwybodol ohonyn nhw efallai. Rhyw fath o gyffes ffydd.

"Nid Cymro ydw i," meddai. "Person sy'n siarad Cymraeg ydw i. Rhaid cyfaddef fy mod i'n cario chwerwedd tuag at lawer o'm profiadau."

Yn y llyfr cawn fyfyrion am sawl agwedd o'r 'Profiad Cymreig' o Gymry Cymraeg Caerdydd i'r Fro Gymraeg a'r Eisteddfod. Ar y naill law mae hynny'n ddiddorol a siawns nad oes gwersi i'w dysgu hefyd.

"Doeddwn i ddim yn ysgrifennu gyda'r amcan o wneud rhywun yn grac - doeddwn i ddim yn meddwl this will really annoy them, ond dwi yn ymwybodol y bydd pobl yn dweud eu bod nhw'n anghytuno 芒 mi. Dwi ddim yn ceisio bod yn rebel na dim byd fel'na, dwi jest yn ceisio mynegi fy hunan," meddai.

Dyrchafu dysgwyr

Mae tuedd yng Nghymru i ddyrchafu dysgwyr - hynny'n cael ei adlewyrchu yn y duedd gynyddol i sillafu'r gair a D fawr - ond mae'n ddifyr gweld y gall dysgwr fod yn enaid bregus iawn gyda phob math o fwganod i'w dychryn.

Diolch i Chris Cope am rannu peth o hynny 芒 ni ond diolch yn bennaf iddo am lyfr sy'n gyfuniad o'r difyr, y dwys a'r gafaelgar.

Ac mae'n dweud efallai y bydd wedi newid ei feddwl am rai pethau ymhen pum mlynedd a theimlo "gast o chwithdod" am gynnwys Cwrw am Ddim.

Edrychwn ymlaen at hynny, felly. Yn y cyfamser gallwn bob amser droi at .


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.