主播大秀

Eisteddfod - G诺yl Fawr y Cymry

Rhan o glawr y llyfr

27 Gorffennaf 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o Eisteddfod - G诺yl Fawr y Cymry - The Great Festival of Wales ffotograffiaeth David Williams. Gwasg Carreg Gwalch. 拢20.

Mi fyddwn i'n meddwl y byddai maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ardd Eden i dynwyr lluniau.

Gwreng a bonedd ynghyd, yr adnabyddus a'r cyffredin yn cymysgu, cyfle ar 么l cyfle i ddal yr enwog ar gamystum, plant mewn mwd neu'n cuddio tu 么l i gornet ar ddiwrnod brafiach.

Hyn oll, dim ond o grwydro'r maes yn ddiamcan. Ychwaneger at hynny seremon茂au trawiadol yr Orsedd, merched hyfryd y ddawns flodau yn un pegwn a henaduriaid gydag oes o brofiad bywyd y pegwn arall.

Trysor o le.

Telyneg weledol

Er i sawl tynnwr lluniau fanteisio ar y lobsgows gweledol dros y blynyddoedd allai ddim meddwl ond am un llyfr sy'n gasgliad cyflawn o luniau eisteddfod.

Telyneg weledol o gyfrol cymharol denau a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 1981 gan Christine Gregory a'r Dr Glyn Jones yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon.

Yr oedd eu llygaid hwy ar ddal - ar ffilm ac mewn du a gwyn - yr annisgwyl, y gwahanol a'r hyn fyddai'r Sais yn ei alw'n cwyrci.

Mae rhai lluniau arbennig o dda gyda Glyn Jones yn edrych ar yr 糯yl 芒 llygaid Cymro o eisteddfodwr profiadol a Christine Gregory o'r tu allan i Gymru 芒'r Eisteddfod yn brofiad gwahanol iddi.

Naws swyddogol

Yr oedd hynny ddechrau'r Wythdegau - dim rhyfedd imi gynhyrfu felly pan gyrhaeddodd cyfrol llawer mwy uchelgeisiol ei diwyg David Williams fel rhan o ddathliadau yr Eisteddfod Genedlaethol yn gant a hanner oed y flwyddyn nesaf.

Mae David Williams yn awdur ac yn ffotograffydd sy'n arbenigo yn niwylliant, treftadaeth a thirwedd Cymru, gyda nifer o gyfrolau ac ysgrifau i'w enw.

Yn gyfrannwr cyson i raglenni radio a theledu fe fu sawl tro yn ffotograffydd swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae hefyd yn gweithio'n llawrydd i nifer o gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau, asiantaethau hysbysebu a dylunio ac awdurdodau sy'n hyrwyddo diwylliant a threftadaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Does yna ddim byd i ddweud mai hynny yw ond naws cyhoeddiad swyddogol i hyrwyddo sefydliad sydd i Eisteddfod - G诺yl Fawr y Cymry / The Great Festival of Wales ddwyieithog o ran y dewis o luniau a thestun a baratowyd gan Lyn Ebenezer.

Does yna ddim mwd yn y lluniau nac ymbarel ychwaith - onibai i'ch cysgodi rhag haul efallai a does yna ddim cyfeirio at unrhyw anghydfod nac anhrefn yn y sgwennu!

Er bod lle i gyfrol hwyliog a brathog o'r fath fyddwn i ddim yn dibrisio'r gyfrol hon am beidio zaa bod yn rhywbeth nad yw'n amcanu ato. Cwestiwn o fwriad ydio a bwriad y gyfrol hon hyd y gallaf weld yw adlewyrchu holl gyffro a bwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol yn y golau gorau posib a chyfleu yr holl amrywiaeth o weithgareddau sy'n cyfuno i wneud ein Prifwyl yn gymaint digwyddiad.

Cwbl amserol

Mae'n gyfrol gwbl amserol gyda lluniau o'r Archdderwydd newydd, T James Jones, Jim Parc Nest, yn cael ei wisgo gan Feistres y gwisgoedd, Si芒n Aman.

Hi, Si芒n Aman, yn haeddu, mewn difri, adran iddi ei hun yn y gyfrol fyddwn i wedi meddwl.

Huw Edwards sy'n cyflwyno'r gyfrol gan ei disgrifo fel un "i ddathlu rhyfeddod un o brif wyliau diwylliannol y byd".

Yn sefydliad, yng ngeiriau ei dad, Hywel Teifi Edwards, "i'w warchod a'i drysori" ac iddo ef ac i'r Diweddar Dic Jones y cyflwynir y llyfr.

Ffurf y gyfrol yw cyfres o erthyglau - Cymraeg a Saesneg yn wynebu ei gilydd - gan Lyn Ebenezer yn ymdrin a gwahanol agweddau o'r Wyl - 15 o benodau i gyd yn trafod hanes yr Eisteddfod, yr Orsedd, gweinyddiad, y babell binc, y cystadlu ac yn y blaen oll yn cyfno i roi darlun cyflawn a difyr o'r digwyddiad.

Yn dilyn y geiriau mae casgliad o luniau perthnasol - un yn llenwi'r ddallen ochr chwith a nifer o rai bychain - hyd at hanner dwsin - ar y ddalen ochr dde.

Weithiau mae grym rhai o'r lluniau yn cael ei golli o'u cyhoeddi yn fach.

Yn ddiarwybod

Yn ddieithriad bron yr achlysuron hynny pan nad yw'r gwrthrych yn ymwybodol fod camera wedi ei anelu ato sy'n rhoi lluniau gorau a dyna oedd rhagoriaeth Christine Gregory a'r Dr Glyn Jones yn eu cyfrol hwy.

I'm meddwl i mae gormod o bobl yn edrych ar y camera yn y gyfrol newydd ond hyd yn oed yng nghanol seremoniaeth mae cyfle i fferru'r annisgwyl megis y llun o'r Archdderwydd Selwyn Iolen , ei deyrnwialen a'r Cofiadur John Gwilym Jones ar ddalen 30.

Hoffais hefyd y llun o enillydd Rhuban Glas Y Bala ar ddalen 74 ac mae llun arbennig o gynulleidfa'r Babell L锚n ar dop tudalen 83 a haeddai fwy o faint mewn gwirionedd.

Rhaid canmol y gyfrol am daenu'r Steddfod dros y frechdan i gyd ac mae rhywun yn dychmygu hon yn gyfrol fydd yn apelio at y selogion a'r rhai hynny sydd am gofrodd o ymweliad a'r Brifwyl. Yn rhywbeth i ddychwelyd adref neu dramor 芒 hi.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.