主播大秀

Anthony Griffiths - lluniau Elenydd

Rhan o glawr y llyfr

27 Gorffennaf 2010

Anthony Griffiths

  • Adolygiad o Elenydd - Hen Berfeddwlad Gymreig / Ancient Heartland of the Cambrian Mountains lluniau a geiriau gan Anthony Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. 拢12.00

Cafodd llyfr o luniau trawiadol o berfeddwlad Cymru ganmoliaeth ddiamod gan gyfranwyr i'r rhaglen radio Galwad Cynnar.


Awdur Elenydd - Hen Berfeddwlad Gymreig / Ancient Heartland of the Cambrian Mountains

ydi Anthony Griffiths, un o dynwyr lluniau gorau Cymru.

Wedi ei eni ym Mangor cafodd ei fagu yn Aberystwyth lle mae'n dal i fyw.

Yn ogystal 芒 bod yn dynnwr lluniau ac awdur y mae hefyd yn gitarydd acwstig a fu'n rhan o fand Meic Stevens am flynyddoedd.


Mae'r gyfrol yn gyfle iddo fynegi mewn llun a gair gariad angerddol at un o ardaloedd harddaf a gwylltaf Cymru a thynnwyd y lluniau trawiadol ymhob tywydd ac ym mhob tymor.


Mae'r ardal yn ymestyn o Laslyn yn y gogledd i Lyn Brianne yn y de ac o Gors Caron yn y gorllewin i Abaty Cwm-hir yn y dwyrain gyda'i rhostiroedd yn gynefin i bob math o fywyd gwyllt.


Mae'n ardal gyfoethog ei harcheoleg, hanes a diwylliant hefyd


Yn yr ardal hon hefyd y mae cronfeydd d诺r anferthol Dyffryn Elan.


Mae'r enw Elenydd ei hun yn cael ei grybwyll yn y Mabinogi ac wrth sgrifennu am ei daith drwy Gymru yn 1188 mae Gerallt Gymro yn cyfeirio at "fynyddoedd mawreddog Moruge a elwir yn y Gymraeg yn Elenydd".

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Gerallt Pennant, y cyflwynydd, Erwyd Howells, bugail sy'n gyfarwydd 芒'r ardal, Iolo Williams a Rhodri Dafydd fu'n pwyso a mesur y gyfrol ar Galwad Cynnar fore Sadwrn Gorffennaf 24 2010.


Yr oedd pawb yn fawr eu canmoliaeth i ddawn Anthomy Griffiths fel tynnwr lluniau ac awdur a chanmolodd Erwyd Howells ei barodrwydd i dynnu lluniau o olygfeydd cyfarwydd o safbwynt gwahanol.


"Mae yna diptyn o feddwl wedi bod," meddai.


Cyfeiriodd Iolo Williams at unigrwydd nodedig yr ardal a'r cyfoeth o fywyd gwyllt sydd yno.


"Mae o'n lle arbennig iawn a dwi mor falch fod rhywun wedi dod a llyfr allan amdano o'r diwedd. Mae'n haeddu rhywbeth fel hyn," meddai.


Atgoffodd Erwyd Howells y gwrandawyr ei bod yn bwysig peidio 芒 rhamanteiddio'n ormodol am harddwch yr ardal.


" . . . mae llawer ohonom yn gorfod gweithio yn yr ardal pan yw hi'n bwrw glaw, yn yr eirlaw a phethau felly [ond] mae'n dal sylw ac mae yn ardal fendigedig," meddai wrth werthfawrogi'r llyfr "yn fawr iawn".

Claerddu - un o'r lluniau a dynnodd sylw gyfranwyr 'Galwad Cynnar'

Cyfeiriodd Rhodri Dafydd at ochr arall ceiniog rhoi sylw i ardaloedd o'r fath.

Er yn haeddiannol, meddai, mae peryg denu mwy o ymwelwyr yno a tharfu ar yr heddwch a'r unigedd sy'n rhan mor hanfodol o'u hap锚l


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.