主播大秀

Elin Haf - Ar F么r Tymhestlog

Elin Haf ar glawr y llyfr

09 Tachwedd 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o Ar F么r Tymhestlog gan Elin Haf. Tud. 137. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.50.

Yng ngeiriau T S Eliot sy'n cael eu dyfynnu ar dudalen 31 y mae dod o hyd i hanfod y llyfr hwn.

Dywedodd ef mai'r rhai hynny sy'n fodlon mentro mynd yn rhy bell sy'n canfod pa mor bell y gallan nhw fynd. "Only those who risk going too far can possibly find out how far one can go" yn y Saesneg gwreiddiol.

Nid oes amheuaeth nad yw Elin Haf yn un a fentrodd ymhell ym mhob ystyr o'r gair. O ran pellter a gerwinder daearyddol ac o ran her bersonol.

Clawr y llyfr

Dyfyniad arall - o blith y llu sy'n britho'r stori ryfeddol hon am ferch fferm o gefn gwlad Cymru yn rhwyfo ar draws M么r Iwerydd - yw geiriau Winstone Churchill, "If you are going through hell, keep going.

A do, fe aeth Elin drwy uffern - ac fe ddaliodd ati!

Dim ond 999 milltir i fynd," meddai hi yn un lle. Dim ond?

Yn gafael

Mae'n stori sy'n gafael o'r cychwyn cyntaf. Dim rhyfedd iddi gael ei henwebu ar gyfer Gwobr Ysbrydoli Cymru yn ddiweddar.

Yn nyrs wrth ei galwedigaeth dewisodd Elin Haf a'i ffrind, nyrs arall Herdip Sidhu, ymgymryd 芒'r her i godi arian at Ysbyty Great Ormond Street lle'r oedden nhw'n gweithio.

Ond yr oedd mwy na hynny i'r peth.

"Penderfynias rwyfo'r Iwerydd yn fuan ar 么l gwahanbu oddi wrth Steve, fy ng诺r. Ar 么l bron i saith mlynedd o briodas a naw mlynedd o berthynas, roedd hi'n anodd dygymod 芒'r gwahanu, er mai fi oedd yr un a ddaeth 芒'r berthynas i ben," meddai.

Yn dilyn hynny y cafodd y ferch o'r Parc ger y Bala, sy'n ymfalch茂o yn ei magwraeth hynod draddodiadol Gymreig gyda'i phwyslais ar werthoedd teuluol y capel a'r Beibl, ei hun yn rhannu cwch 24 troedfedd o hyd 芒 chyfaill mewn tonnau tymhestlog am 2,500 o filltiroedd yn ras rwyfo galetaf y byd.

"Doeddwn i ddim yn gallu rhwyfo, doeddwn i erioed wedi bod allan ar y m么r o'r blaen," meddai.

"Ond roedd ap锚l y fenter yn llenwi fy nghalon 芒 chyffro nad oeddwn wedi ei deimlo ers blynyddoedd," ychwanega am y fenter a roddodd gryfder cymeriad, hunanhyder a hunan ddisgyblaeth dan y straen eithaf.

Mae cyffredinedd cyfarwydd y fagwraeth a dieithrwch yr her yn cydio yn nychymyg y darllenydd fel na ellir gollwng y llyfr wrth iddi ddisgrifio'r antur a'r berthynas, anesmwyth a rhwystredig ar adegau, rhyngddi hi 芒'i chydymaith a'r her fewnol iddi fel unigolyn.

Croesdynnu mewnol

Mae hon yn gyfrol sy'n profi ei hun ar fwy nag un cyfrif. Ydi, mae'n stori antur ond yr un mor afaelgar yw'r ymgodymu 芒 thensiynau mewnol a chroesdynnu personol wrth iddi hi'n raddol ddod i adnabod ei hun yn well wrth symud o un her i'r llall.

"Peth hunanol y tu hwnt i eiriau," meddai wrth s么n am antur arall y mae'n ystyried bwrw iddi, "yw dewis gwneud rhywbeth sy'n achosi poen a gofid i'r rhai sy'n eich caru, ond fedrwn i ddim dychmygu bradychu fy nheimladau fu hunan chwaith. Ai bod yn hunanol ynteu amddiffyn fy hunan oeddwn i?"

Llawer mewn ychydig

I feddwl fod cymaint i s么n amdano - herio Cefnfor India hefyd a rhedeg marathons yn anialwch Sahara er enghraifft - cyfrol fer yw hon. Dim ond 137 dalen y gellir ei darllen mewn prynhawn.

Ond y mae hi hefyd yn gyfrol fydd yn aros efo chi am ddyddiau lawer wedyn, coeliwch chi fi.

Diolch i Elin am rannu ei phrofiadau a'i meddyliau a diolch i Garreg Gwalch am rannu hanes hogan Ysgol Sul anarferol iawn.
Glyn Evans


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.