主播大秀

Rhan o glawr y llyfr

17 Awst 2010

Cyfrol am englyna gan Alan Llwyd a llawlyfr cynganeddion i blant gan Mererid Hopwood

  • Sylwadau Glyn Evans ar Sut i Greu Englyn gan Alan Llwyd. Cyfres 'Sut i greu' Barddas. 拢5.95 a Cynghanedd i Blant gan mererid Hopwood. Barddas. 拢6.95.

Os na fydd cynganeddwyr ac englynwyr newydd cyn diwedd y flwyddyn nid ar Barddas y bydd y bai.

Mae'r wasg newydd gyhoeddi dau lyfr yn ymwneud 芒'r maes gan ddau brifardd.

Y cyntaf mewn cyfres sy'n dwyn yr enw Sut i greu yw Sut i Greu Englyn gan Alan Llwyd ac eisoes ar y gweill mae cyfrolau tebyg ar greu Cywydd, Awdl, Soned, Nofel a Stori Fer - i gyd wedi eu llunio "gan arbenigwyr yn eu maes".

A pha ragorach 'arbenigwr yn ei faes' nag Alan Llwyd i wthio'r cwch i'r d诺r?

Clawr y llyfr

Mae'n egluro ar y cychwyn nad llyfr dysgu'r cynganeddion mo hwn ond llyfr i bobl sy'n medru cynganeddu ac englyna'n barod.

"Mae'r llyfr ar gyfer yr englynwr profiadol a'r englynwr llai profiadol, y ddau fel ei gilydd, Gobeithio," meddai.

Yn gall iawn, dydi o ddim yn addo eich troi yn englynwr ychwaith. Ond y mae'n llyfr fydd yn eich gwneud yn fwy gwerthfawrogol o grefft englyna.

"Ni all y llyfr hwn, nac unrhyw lyfr arall, greu englynwr da. Dawn ac ymroddiad yr unigolyn yn unig all wneud hynny. Ond fe all llyfr fel hwn awgrymu dulliau o fynd ati i greu englyn, yn ogystal ag awgrymu nifer o batrymau neu ganllawiau y gellid eu dilyn," meddai.

Llawlyfr sydd yma yn dangos beth sy'n s芒l, beth sy'n dda, beth sy'n well a beth sy'n rhagorol - gydag enghreifftiau o waith ein englynwyr gorau dros o canrifoedd. Oriel sy'n cynnwys englynion o eiddo rhai fel Goronwy Owen, T Arfon Williams, Gerallt Lloyd Owen a Tudur Dylan Jones er enghraifft.

Gyda degau o enghreifftiau yn cael eu dadansoddi ar sail eu hadeiladwaith a'u gweledigaeth y mae'n gyfrol ddylai fod o ddiddordeb i bawb sy'n ymddiddori mewn englyna er, efallai, heb yr awydd i englyna ei hun.

Gyda'r fath gyfoeth o englynion yn cael eu trafod byddai mynegai i'r beirdd wedi bod yn fuddiol, ac i bynciau.

Fel gyda phob celfyddyd dywed Alan Llwyd mai'r tri pheth hanfodol sydd ei angen yw "myfyrdod, ysbrydoliaeth a chrefft/

"Mae'r myfyrdod yn rhyddhau'r ysbrydoliaeth, ac mae'r ysbrydoliaeth yn defnyddio'r grefft i droi'r myfyrdod yn eiriau," meddai.

Mae'r pwyslais ar syniadau a gweledigaeth.

"Wrth englyna, ac wrth lunio barddoniaeth gynganeddol yn gyffredinol, nid cynganeddu geiriau yw'r nod ond cynganeddu syniadau, cynganeddu'r meddwl," meddai gan chwalu un dybiaeth gyffredin iawn.

Ymhelaetha drwy ddyfynnu Gerallt Lloyd Owen yn trafod ei ddull ef o gyfansoddi:

" [nid] 'creu' mae rhywun mewn gwirionedd ond datguddio neu ddarganfod yr hyn sydd eisoes wedi ymffurfio yn yr isymwybod."

Mae yma gynghorion, wrth gwrs, gan gychwyn gyda beth fyddwn i'n ei ystyried yn un sylfaenol iawn, "osgoi cynganeddu ffeithiau" gyda sawl cymhariaeth rhwng englynion sy'n diffinio neu ddisgrifio'r testun - y mae disgwyl i englyn da gynnig mwy na darlun sef gweledigaeth a golwg newydd, gwreiddiol ar bethau.

Yn wir mae Alan Llwyd yn rhestru deg hanfod: Gweledigaeth; Undod; Llinellau cyfwerth; Cynildeb; Perffeithrwydd; Newydd-deb, Geirfa fyw, fanwl, naturiol; Elfen gofiadwy; Lleoliad llinellau ac Angerdd.

Dyfynnau englynion sy'n cyflawni'r pethau hyn gan eu gwerthuso ger ein bron. Nid yw'n cyfyngu ei sylwadau i'w eiddo ei hun ond yn dyfynnu eraill gan gyfeirio'n aml at feirniadaethau Eisteddfodol.

Dyfynna ddiffiniad T Llew Jones mewn beirniadaeth yn Eisteddfod Genedlaethol sir Benfro 1972;

"Fe ddylai fod m bach di-fai o ran ei grefftwaith, heb unrhyw wastraff ynddo. Fe ddylai fod yn gofiadwy - mor gofiadwy nes bod pobl yn cael blas ar ei adrodd a'i ailadrodd . . . Fe ddylai ei ap锚l fod yn ddigon i sicrhau lle iddo ar furiau ein hysgolion ni, ac ar dafodau'r plant," meddai.

Mae sawl cyfle yn y gyfrol i'r darllenydd droi'n feirniad gyda chais iddo ddewis rhwng llinellau ac englynion o ran rhagoriaeth.

Ymarferiad hynod ddifyr yw hwnnw lle mae Alan Llwyd yn newid trefn llinellau mewn englyn a gadael i ni ddewis pa drefn sydd fwyaf effeithiol gan egluro pam y mae un rhediad yn well na'r llall.

Ymarferiad difyr arall yw hwnnw lle mae'n tynnu geiriau allan o englyn gan ofyn i'r darllenydd lenwi'r bylchau.

Yn ddim ond 116 dalen mae hon yn gyfrol sy'n cynnig cryn ddifyrrwch yn ogystal ag arweiniad.

Clawr y llyfr

Cynghanedd i Blant

Er yn edrych tua'r un terfyn mae cyfrol Mererid Hopwood yn un cwbl wahanol o ran ei gwisg.

Mae ffaith ei bod wedi ei hanelu at blant i'w gyfrif am hynny. Mae'n fawr - yn mesur 250 centimetr efo 280 - yn fywiog ei dyluniad gan Dafydd Llwyd.

Cyflwynir hanfodion y gynghanedd i ddraig fawr goch, a ddarlunnir gan Hywel Jones, ac sy'n alter ego'r darllenydd ac yn dueddol o wneud rhyw osodiadau bach doniol am y 'gwersi'.

Cychwynnir trwy egluro beth yw cynghanedd - "Miwsg mewn geiriau - dyna yw cynghanedd" - gan symud ymlaen i ddadansoddi sut mae'n cyflawni hynny gan gymryd yn ganiataol mai'r cyfan a 诺yr y darllenydd - a'r Ddraig - yw "fod cynganeddu'n ffordd ddifyr i gael geiriau i odli 芒'i gilydd ac i gael cytseiniaid i ateb ei gilydd" ond fawr fwy na hynny.

Mae penodau felly i egluro beth yw pethau fel Yr Acen, Cytseiniaid a Llafariad cyn symud ymlaen i dadansoddi adeiladwaith y pedwar math o gynghanedd, Traws, Croes, Llusg a Sain.

Mae'r gyfrol yn gyforiog o ymarferion perthnasol ac mae rhywun yn rhagweld y bydd plant wrth eu boddau yn mynd i'r afael 芒'r rhain.

Rwy'n tybio mai dan arweiniad athro y byddai'r plant yn mynd i'r afael 芒'r gyfrol

Mae'r cyfan yn edrych yn groesawgar iawn i'r llygaid ac yn si诺r o hudo ond dydw i ddim mor sicr pa mor effeithiol y trosglwyddir rhai o'r cysyniadau ac rwy'n gorfod cyfaddef imi gael fy nrysu gan yr eglurhad i rai pethau yr oeddwn yn eu deall yn fy meddwl cynt!

Ond efallai na fydd hynny'n wir gyda phlant sy'n cael eu cyflwyno i'r pethau hyn o'r newydd.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.