主播大秀

Felix Aubel - ei hunangofiant

Llun o Felix Aubel ar glawr y llyfr

22 Tachwedd 2010

Yr hunangofiant Cymraeg gorau

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Fy Ffordd fy Hunan - hunangofiant Felix Aubel. Gwasg Carreg Gwalch. 拢8.50.

Ni fedraf honni imi ddarllen pob un o'r hunangofiannau niferus a gyhoeddwyd dros - dyweder - y chwe blynedd ddiwethaf ond darllenais nifer go lew fel adolygydd ac eraill am fy mod yn adnabod neu fod gen i ddiddordeb yn yr hunangofiannydd.

Medraf ddweud yn sicr mai hunangofiant Felix Aubel yw'r mwyaf difyr, gonest a dewr imi ei ddarllen erioed yn Gymraeg. Anodd meddwl ei fod yn celu dim. Weithiau teimlwn fel pe bai diferion o dd诺r oer yn treiglo i lawr fy nghefn.

Clawr y llyfr

Er yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn Geidwadwr - a dyna gyfuniad i ddechrau - dywed ei fod yn credu mewn erthyliad. Dywed iddo, pan oedd tua deunaw oed, gael merch yn feichiog ac i'w dad dalu iddi gael erthyliad.

Dywed hefyd i'w fam ei hun, athrawes Gymraeg ei hiaith o dueddiadau ceidwadol ryddfrydig gael erthyliad yn y '40au cyn cyfarfod a'i dad.

Gwelwn fod ganddo bartner nad yw'n briod 芒 hi. So what? meddech chi? Wel, mae'n weinidog gyda gofal eglwysi yn y Fro Gymraeg.

Yn seicig

Mae'n dweud ei fod yn seicig ac yn adrodd am gael ei aflonyddu gan ysbrydion, rhai profiadau pur arswydus. Ar wyliau yn Weymouth yn 2002 deffrodd a chanfod fod y dillad gwely wedi eu cymryd oddi arno a'u lapio fel amdo am ei gymar.

Ganwyd ei dad - Felix Aubel oedd ei enw yntau hefyd - yn Zusenberg, Slofenia, yn yr hen Iwgoslafia, yr ieuengaf o chwech o blant.

Mae ei hanes yn un o galedi a chreulondeb o fewn y teulu. Aeth i'r fyddin, a phan arwyddodd Iwgoslafia gytundeb 芒 Hitler ym 1941 cymerodd ran mewn coup d'etat i adfer grym i'r Brenin Peter II.

Cythruddwyd Hitler a bomiwyd Belgrad gan yr Awyrlu. Ymunodd Felix Aubel a dau o'i frodyr 芒'r cenedlaetholwyr brenhinol ac ymunodd ei ddau frawd arall 芒 Partisaniaid Comiwnyddol Tito.

Ymladd am dorth

Bu'n frwydr o greulondeb echrydus rhwng y ddwy garfan, heb s么n am y brwydro yn erbyn yr Almaenwyr a'r diwedd fu i Felix (y tad) gael ei garcharu mewn gwersyll ger Dresden lle byddai Nats茂aid Wcreinaidd yn cadw carcharorion heb fwyd am ddyddiau ac yna gorfodi dau i ymladd hyd angau am dorth o fara.

Mae'n amlwg i Felix (y tad) gael ei orfodi i wneud hyn droeon gan ei fod yn ymladdwr ffyrnig ond gan iddo ddysgu amryw ieithoedd cafodd gyfle i ddefnyddio'r sgiliau hynny a daeth pethau'n well arno.

Yna treuliodd gyfnod yn gweithio ar fferm y bocsiwr enwog Max Schmeling a wrthwyebai Nats茂aith ac a fu'n ei hyfforddi i focsio a threfnu gornestau ar ei gyfer.

I Gwm Cynon

Cafodd ei anfon yn 么l i'r gwersyll carcharorion wedyn ond cyn i'r Rwsiaid na'r Americaniaid gyrraedd agorwyd y llidiardau a gadael y carcharorion yn rhydd a llwyddodd maes o law i gyrraedd Cymru a chael gwaith yn l枚wr yng Nghwm Cynon.

Yno y priododd a ganwyd Felix Elfed (ar 么l yr emynydd) Aubel awdur yr hunangofiant hwn

Anogai ei dad ei wraig i siarad Cymraeg gyda'r plentyn bob amser gan fod aelodau'r teulu wedi dioddef y Slovenian Not ac yntau, felly, a chydymdeimlad 芒 sefyllfa'r Gymraeg.

Anfonwyd Felix Elfed i.Ysgol Gymraeg Ynys-lwyd ac oddi yno i Rydfelen.

Mae ei atgofion o Rydfelen yn ddifyr iawn. Caiff yr ysgol ambell ergyd digon haeddiannol, am wn i, ac atgofion melys am athrawon fel y Parchedig Gareth Reynolds a Dafydd Pretty.

Gweinidogaeth a gwleidyddiaeth

Cafodd yrfa ddisglaer, gan gyfuno'r weinidogaeth, gwleidyddiaeth ac academia ac mae ei gyfrol yn gyforiog o hanesion am egsentrics ac adar brith o bob math, cymdeithas hoyw Trecynon, athrawon Ysgol Ramadeg Chislehurst lle bu'n athro am gyfnod ac yn y blaen.

Mae'n rhaid fod Felix Aubel yn greadur hawdd dod ymlaen gydag e ar yr ochr bersonol. Cyfeiria at Glyn James, y Pleidiwr tanllyd o'r Rhondda Fach, a Goronwy Evans, y Gweinidog Undodaidd o Lanbedr-pont-Steffan, fel dau dylanwad arno.

Cefnogodd Seimon Glyn yn y rhaglen deledu Week In Week Out a dywedodd Ffred Ffransis, un arall o'i gyfeillion, ei fod yn rhy onest i fod yn wleidydd. Teyrnged yn wir.

Gan na fydda i'n gwylio teledu yn ystod y dydd ni wyddwn am ei yrfa fel darlledwr na'i arbenigedd ym myd hen lestri - ond rwy'n meddwl 'mod i'n adnabod y g诺r o ochrau Castell-nedd a welodd yn talu 拢20,000 mewn arian sychion am dri phl芒t Nantgarw wedi eu haddurno gan Billingsley ei hun.

Llawn cyfrinachau

Gwleidyddiaeth? Tori neu beidio y mae'n gefnogol i'r Cynulliad a 'does ganddo fawr o olwg ar Nick Bourne!

Mae'n llawn cyfrinachau am ystrywiau gwahanol wleidyddion - y Blaid Geidwadol yn bennaf - ac am bleidiau eraill hefyd.

Fel y dywedodd ei fam, falle nad oes raid ichi fod yn aelod o Blaid Cymru i fod yn wladgarwr.

Cyfrol gwerth ei darllen - a'i hystyried.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.