主播大秀

Eirwyn George - adolygiad o C芒n yr Oerwynt

Rhan o glawr y llyfr

Adolygiad John Gruffydd Jones o C芒n yr Oerwynt gan Eirwyn George. Cyhoeddiadau Barddas Pris 拢6.00. 128 tud.

Cyfuniad o grefft a chred

Fum i erioed yn gyfarwydd iawn 芒 Sir Benfro er i mi gael y fraint o gael Waldo Williams yn athro am gyfnod byr yn Ysgol Botwnnog flynyddoedd yn 么l.

Gwybod enwau sawl man efallai ond mae yna wahaniaeth dybryd rhwng gwybod ac adnabod, a bardd sy'n gwybod am y fro ac yn fwy na hynny yn ei hadnabod yn drylwyr yw'r Prifardd Eirwyn George.

Clawr y gyfrol

Mae'r adnabyddiaeth yn amlwg iawn yn y gyfrol yma heb s么n am y cariad sydd ganddo at fro ei enedigaeth yn y Preseli, ac o'r fan honno y deillia cryfder ac ysbrydoliaeth ei gerddi bron bob tro.

Telynegol yw naws y cerddi yn gaeth ac yn rhydd ac mae'n feistr ar y mesurau oll fel y gwyddom o gofio iddo ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaetho ddwywaith (1982 a 1993) a dyma'r drydedd cyfrol o farddoniaeth iddo gyhoeddi.

Wrth ddarllen y cerddi yma fe ddeuthum i adnabod cynefin Eirwyn yn llawer gwell a dod hefyd i adnabod y bardd ei hunan. Cefais flas arbennig yn yr Adran o gerddi caeth wrth iddo ddisgrifio'r olygfa o Bentregalar gyda llinellau fel "Haul crintach mis Tachwedd/ yn trywanu trwy enaid" yn eilio oerni'r teitl, ond y diweddglo yn cadarnhau ffydd Gristionogol y bardd.

Amlygir y gred honno'n ymhellach wrth iddo mewn englyn fel hwn i Fyd y Cristion roi ei argyhoeddiad yn gyhoeddus ;

I minnau, gwneud cymwynas-neu roi gw锚n
I'r gwael ar awr ddiflas,
Yw rhoi iaith i gymdeithas
Y Brenin sydd inni'n was.

Yn yr Adran o Gerddi Rhydd Odledig fe ddaw ei gariad at ei fro yn amlwg iawn mewn soned i Sir Benfro ac fe ddaw ias yr oerwynt i ninnau wrth iddo ddringo Moel Cwm Cerwyn a'r dafodiaith yn pefrio drwy'r llinellau.

Mewn cyfnod pan fu farw'r Prifardd Einion Evans mae ei gyfarchion iddo ar ennill Cadair y Genedlaethol yn Llangefni yn 1983 yn ddarlun o ddawn ac o hiraeth y bardd hwnnw.

Rhythmau'r llinellau sy'n cynnal y canu penrhydd gan bob bardd profiadol yn y maes hwnnw ac mae'r grefft yn amlwg iawn yn y canu a geir yma. Pe bai rheidrwydd arnaf i ddewis cerdd o'r adran gyfoethog yma, yna O Gwmpas Tyddewi fyddai fy newis am i mi gael ynddi ddarlun o "falm Capel Non" a hefyd erchylltra "sawr marwolaeth o faes Breudeth".

Unwaith yn rhagor fe ddaw cred Eirwyn George i'r amlwg yn y sobri sydd yn y diweddglo gobeithiol a geir yma. Y cyfuniad o grefft a chred sy'n gwneud y gyfrol yma yn un i'w thrysori ac i droi ati yn aml. Diolch i Barddas am y gyfrol ac i Eirwyn am gael dechrau adnabod.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.